Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

9.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr ac nad yw’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)swm cymwysadwy’r person a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)enillion wythnosol y person; ac

(d)incwm wythnosol y person ac eithrio enillion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 14 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)