Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: PENNOD 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 4 Chapter 2:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

PENNOD 2LL+CGRANTIAU AR GYFER FFIOEDD

Grantiau ar gyfer ffioedd: amodau’r hawl i’w cael ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefnLL+C

16.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â’r ffioedd am flwyddyn academaidd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Pennir swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 17 neu 18.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—

(a)os yw’r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus; neu

(b)os yw’r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 16 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Swm y grantiau ar gyfer ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefnLL+C

17.—(1Oni fydd un o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r swm lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,380 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban: neu

(b)£1,425 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, a

(c)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus pan fo un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£680 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban; neu

(b)£700 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a

(c)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(3Os cyfrifir cyfraniad sy’n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o’r grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 67.

(4Y canlynol yw’r amgylchiadau—

(a)blwyddyn academaidd derfynol y cwrs dynodedig os yw fel rheol yn ofynnol i’r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy’n arwain at radd gyntaf)—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,

blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;

(d)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 ac a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—

(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)os bydd, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(5Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,465.

(6Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,030.

(7Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy’n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r lleiaf o £1,285 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—

(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(8Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy’n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r lleiaf o’r symiau canlynol, sef £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—

(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os yw un neu fwy o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(9Pan gyfrifir cyfraniad sy’n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (7) neu (8) yn unol â rheoliad 67.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 17 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Swm y grant ar gyfer ffioedd mewn sefydliad preifat (nid ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus): myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefnLL+C

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,285; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £3,275.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 18 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Grant at ffioeddLL+C

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais am grant at ffioedd nad yw ei swm yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes grant at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw’r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(3Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw’r un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £2,085 neu y gwahaniaeth rhwng £1,380 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.

(4Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £1,045 neu’r gwahaniaeth rhwng £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.

(5Yn y Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), ystyr “myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“eligible student who qualifies for a fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(6Nid yw myfyriwr carfan newydd neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd.

(7Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy’n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 19 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Grant newydd at ffioeddLL+C

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

(a)yn flwyddyn bwrsari;

(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu

(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu baragraffau (7), (8) neu (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£5,315; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £3,685 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(4Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu baragraff (7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£2,665; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £1,835 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(5Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£900; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(6Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£675; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(7Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(8Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac—

(a)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(9Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac;

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 20 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources