- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
19 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Chwefror 2013
Yn dod i rym
16 Mawrth 2013
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mawrth 2013.
2.—(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(5) Ym mhennawd erthygl 11A (y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 31 Mawrth 2013) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(6) Yn erthygl 11A(2) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
Edwina Hart
Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy estyn y ddarpariaeth ar gyfer cynnydd yn lefel y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i 31 Mawrth 2014. Dim ond i gategorïau penodol o drethdalwr, y mae Gorchymyn 2008 yn eu cwmpasu, y mae'r estyniad o'r rhyddhad yn gymwys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.
1988 p. 41. Diwygiwyd adran 43 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14); Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29); Atodlen 8 i Ddeddf Gwasanaethau'r Post 2000 (p. 26); adrannau 1 a 3 o Ddeddf Ardrethu (Cyn Fangreoedd Amaethyddol a Siopau Cefn Gwlad) 2001 (p. 14); adrannau 61, 63 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26); ac Atodlen 1 i Ddeddf y Dreth Gorfforaethau 2010 (p. 4). Mewnosodwyd adran 43(4B) gan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Diwygiwyd adran 44 gan Atodlenni 5 a 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42); Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14); ac adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26).
Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2008/2770 (Cy.246) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/273 (Cy.36), O.S. 2010/2223 (Cy.195), O.S. 2010/2582 (Cy.216), O.S. 2011/995 (Cy.148), O.S. 2011/2085 ac O.S. 2012/465 (Cy.76).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: