Search Legislation

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 479 (Cy.55)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

Gwnaed

4 Mawrth 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2013

Yn dod i rym

6 Ebrill 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 27(2) a (5), 30(9), 31(1),(2)(c),(d),(e),(g) ac (h), 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy(2).

I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau canlynol o dan bwerau a gynhwysir yn Neddf 1990, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(4).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Rhagolygol

Enwi cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cymwysedig” (“qualified”) yw cymwysedig at ddibenion y Ddeddf;

ystyr “Y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Bwyd 1990;

ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

(a)

yn achos nwyddau sydd ar daith, y traddodwr (neu, os nad oes gan y traddodwr gyfeiriad yng Nghymru, y traddodai);

(b)

yn achos nwyddau o beiriant gwerthu—

(i)

os yw'r peiriant wedi ei farcio ag enw a chyfeiriad ei berchennog, ac os yw'r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru, y person hwnnw; a

(ii)

mewn unrhyw achos arall, meddiannydd y fangre y saif y peiriant ynddi, neu y gosodwyd y peiriant ynghlwm wrthi;

(c)

mewn unrhyw achos arall, y person a oedd yn ymddangos i'r swyddog awdurdodedig yn berchennog y sampl, pan gaffaelwyd y sampl gan y swyddog.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Darpariaethau samplu a dadansoddi nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntLL+C

3.  Nid yw'r darpariaethau o'r Rheoliadau hyn a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 yn gymwys i unrhyw sampl a gymerwyd o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cymwysterau dadansoddwyrLL+C

4.  Mae person yn gymwysedig i fod yn ddadansoddwr bwyd neu'n ddadansoddwr cyhoeddus, os oes gan y person hwnnw gymhwyster Meistr mewn Dadansoddi Cemegol, a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cymwysterau archwilwyr bwydLL+C

5.—(1Mae person yn gymwysedig i fod yn archwilydd bwyd—

(a)os oedd y person hwnnw, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn gymwysedig ar gyfer bod yn archwilydd bwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(6); neu

(b)os oedd y person hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw,

(i)yn meddu ar gymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2; a

(ii)wedi bod yn cynnal archwiliadau bwyd dros gyfnod neu gyfnodau cyfanredol o dair blynedd o leiaf, yn un neu ragor o'r labordai a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.

(2Wrth gyfrifo'r cyfnod cymhwyso ym mharagraff (1)(b)(ii), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod a dreuliwyd fel person israddedig mewn labordy a bennir ym mharagraffau 4 i 6 o Ran 2 o Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cyfyngiadau sy'n gymwys i ddadansoddwyr ac archwilwyrLL+C

6.—(1Ni chaiff cyfarwyddwr, perchennog na chyflogai unrhyw fusnes bwyd, na phartner mewn busnes bwyd, weithredu fel dadansoddwr cyhoeddus neu archwilydd bwyd ar gyfer yr ardal y lleolir y cyfryw fusnes ynddi.

(2Ni chaiff person a grybwyllir ym mharagraff (1) ddadansoddi nac archwilio unrhyw sampl y gŵyr y person hwnnw ei bod wedi ei chymryd o'r busnes hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddiLL+C

7.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, beri bod y sampl, yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn cael ei rhannu'n dair rhan.

(2Os cynwysyddion seliedig sydd yn y sampl ac os byddai agor y cynwysyddion, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl drwy osod y cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid trin pob lot unigol fel rhan o'r sampl.

(3Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a)os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a selio pob cynhwysydd;

(b)marcio neu labelu pob rhan neu gynhwysydd;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhoi un rhan i'r perchennog a rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(d)cyflwyno un rhan i'w dadansoddi; ac

(e)cadw un rhan ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 8.

(4Os yw'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw rhannu'r sampl yn rhesymol ymarferol, neu fod hynny'n debygol o lesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r perchennog y bydd y sampl cyfan yn cael ei dadansoddi heb ei rhannu, a chyflwyno'r sampl i'w dadansoddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cyflwyno'r rhan o'r sampl a gadwyd yn ôlLL+C

8.—(1Os oes rhan o sampl wedi ei chadw'n ôl o dan reoliad 7(3)(e) ac

(a)achos cyfreithiol yn yr arfaeth neu eisoes wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd mewn cysylltiad â'r sampl honno; a

(b)yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod gerbron fel tystiolaeth yn yr achos,

mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys.

(2Yn achos swyddog awdurdodedig—

(a)caiff, o'i wirfodd ei hunan, anfon y rhan o'r sampl a gadwyd yn ôl at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi;

(b)rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog ei hunan);

(c)rhaid iddo wneud hynny os yw'r llys yn gorchymyn felly; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y person cyhuddedig.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif o ddadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth at y swyddog awdurdodedig.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan, neu ar ran, Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei wneud gan berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd llofnodwr y dystysgrif.

(5Ar ôl cael y dystysgrif, rhaid i'r swyddog awdurdodedig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflenwi copi o'r dystysgrif i'r erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ei hunan) ac i'r person cyhuddedig.

(6Pan wneir cais o dan baragraff (2)(d), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person cyhuddedig, yn gofyn iddo dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, i ddiwallu rhan neu'r cyfan o'r gostau a dynnir gan Gemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os nad yw'r person cyhuddedig yn cydsynio i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei harchwilioLL+C

9.  Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio—

(a)os oes angen, rhoi'r sampl mewn cynhwysydd addas a selio'r cynhwysydd;

(b)marcio neu labelu'r sampl neu'r cynhwysydd; ac

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol,

(i)cyflwyno'r sampl i'w harchwilio, a

(ii)rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl bod y sampl i gael ei harchwilio.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

TystysgrifauLL+C

10.—(1Pan fo sampl a gaffaelwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf wedi ei dadansoddi neu ei harchwilio, mae hawl gan berchennog y sampl, drwy wneud cais, i gael copi o'r dystysgrif dadansoddi neu archwilio, gan yr awdurdod sy'n gorfodi.

(2Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddwr bwyd neu archwilydd bwyd o dan adran 30(6) o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i ba bynnag addasiadau a fydd yn ofynnol yn rhesymol oherwydd amgylchiadau, fod yn yr un ffurf â'r enghraifft a ddangosir yn Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Diwygiadau canlyniadolLL+C

11.  Yn y darpariaethau canlynol, yn lle'r geiriau “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990” rhodder “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013”—

(a)paragraffau (10) ac (11) o reoliad 13 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(7);

(b)paragraffau (10) ac (11) o reoliad 38 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(8);

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

12.  Dirymir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(9) o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2013

Rhagolygol

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+COfferynnau nad yw darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

EnwCyfeirnodDarpariaethau penodedig
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) 1997O.S. 1997/1729Rheoliadau 7,8,9 a 10
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007O.S. 2007/3165 (Cy.276 )Rheoliadau 7,8 a 9
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012O.S. 2012/2705 (Cy.291)Rheoliadau 7,8 a 9
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010 (i'r graddau y mae sampl yn un sydd i'w ddadansoddi yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif1881/2006 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd)O.S. 2010/2394 (Cy.206)Rheoliadau 7,8 a 9
Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011O.S. 2011/1719 (Cy.195)Rheoliadau 7,8 a 9

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CCymwysterau Archwilwyr Bwyd

RHAN 1LL+C

1.  Gradd gyntaf (gydag anrhydedd) mewn microbioleg (beth bynnag fo teitl y radd).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 Rhn. 1 para. 1 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

2.  Gradd Meistr yn y Gwyddorau, ar yr amod—LL+C

(a)y dyfarnwyd y radd yn dilyn arholiad yn hytrach na thraethawd; a

(b)bod o leiaf un papur yn y radd yn bapur mewn microbioleg.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 Rhn. 1 para. 2 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

3.  Cymrodoriaeth Sefydliad y Gwyddorau Biomeddygol, os enillwyd y Gymrodoriaeth honno ar sail pasio'r arholiad diploma arbenigol uwch mewn microbioleg feddygol, a osodir gan y Sefydliad hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 Rhn. 1 para. 3 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

4.  Y radd Meistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfernir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 Rhn. 1 para. 4 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

5.  Cymrodoriaeth neu Aelodaeth o'r Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ynghyd ag aelodaeth o'i Grŵp Proffesiynol Microbioleg Bwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 Rhn. 1 para. 5 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

6.  Ym mharagraffau 1 a 2 o'r Rhan hon, ystyr “gradd” (“degree”) yw gradd a ddyfarnwyd gan gorff a gydnabyddir at ddibenion adran 214 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (sy'n ymwneud â chyrff sydd â phŵer i ddyfarnu graddau yn y Deyrnas Unedig) neu a ddyfarnwyd gan brifysgol mewn Aelod-wladwriaeth arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 Rhn. 1 para. 6 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+C

1.  Labordy Cemegydd y Llywodraeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 Rhn. 2 para. 1 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

2.  Labordy sy'n eiddo i Adran y Llywodraeth neu labordy o dan reolaeth gyfatebol llywodraeth Aelod-wladwriaeth arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 Rhn. 2 para. 2 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

3.  Labordy a benodwyd yn labordy rheoli swyddogol o dan Reoliad 882/2004.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 Rhn. 2 para. 3 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

4.  Labordy prifysgol yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 Rhn. 2 para. 4 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

5.  Labordy 'corff cyllidadwy' o fewn yr ystyr a roddir i “fundable body” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 2005(10)LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 Rhn. 2 para. 5 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

6.  Labordy Coleg Amaethyddol yr Alban.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 Rhn. 2 para. 6 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

7.  Labordy sy'n arbenigo mewn microbioleg bwyd ac a achredwyd ar gyfer ISO/IEC 17025.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Rheoliad 10(2)

ATODLEN 3LL+CTystysgrif Dadansoddiad a/neu Archwiliad

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 3 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Rhagolygol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu (yn rheoliad 12), o ran Cymru, ac yn ail-wneud ynghyd â diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (O.S. 1990/2463).

Mae'r Rheoliadau—

(a)yn pennu pa gymwysterau sy'n angenrheidiol ar gyfer bod yn ddadansoddwr cyhoeddus neu'n ddadansoddwr bwyd (rheoliad 4) neu'n archwilydd bwyd (rheoliad 5 ac Atodlen 2) at ddibenion Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

(b)yn gwahardd personau penodedig rhag cyflawni dadansoddiadau neu archwiliadau (rheoliad 6);

(c)yn pennu pa weithdrefnau sydd i'w dilyn pan fo sampl wedi ei gaffael o dan y Ddeddf honno ar gyfer ei ddadansoddi neu ei archwilio (rheoliadau 7, 8 a 9), ac yn eithrio o'r gweithdrefnau hynny samplau a gymerir o dan y Rheoliadau hyn sydd â'u gweithdrefnau eu hunain (rheoliad 3 ac Atodlen 1); a

(d)yn rhagnodi ffurf y dystysgrif sydd i'w defnyddio gan ddadansoddwyr ac archwilwyr wrth wneud eu hadroddiadau (rheoliad 10 ac Atodlen 3).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn Rheoliadau eraill (rheoliad 11).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau. Gellir cael copi o'r asesiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 27(2), 30(9), 31(1) a 49(2) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 gan baragraffau 8 a 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 a chan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a throsglwyddwyd y swyddogaethau hynny yn ddiweddarach i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

O.S. 2006/31. Gwnaed diwygiadau yn yr offeryn hwn, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(8)

O.S. 2009/3376. Cywirwyd y ffigur “35” ym mharagraff (10) o reoliad 38 i “37” gan slip cywiro.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources