- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AER GLÅN, CYMRU
Gwnaed
11 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mawrth 2013
Yn dod i rym
3 Ebrill 2013
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008(3)—
(a)ar ôl paragraff 11, mewnosoder—
“11A. Brics glo Coalite Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o 10 i 15 y cant glo meddal, 10 i 15 y cant golosg petrolewm, 70 i 80 y cant llwch glo caled a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260ºC;
(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd â'u hyd yn rhyw 84.2 o filimetrau ac yn 61.5 o filimetrau x 37.8 o filimetrau;
(ch)sy'n pwyso 118 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o sylffwr ar sail sych.”
(b)ar ôl paragraff 17, mewnosoder—
“17A. Brics glo Ecoal 50, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 30 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau), biomas (sef rhyw 25 i 35 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 5 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig naturiol (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu yna triniaeth wres ar dymheredd oddeutu 300ºC mewn amgylchedd wedi ei reoli, â llai o ocsigen;
(c)sy'n frics glo ar siâp hecsagon gyda streipen ar un ochr ar draws y rhannau gwastad;
(ch)sy'n pwyso 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(c)ar ôl paragraff 18A, mewnosoder—
“18B. Brics glo Excel+, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal B.V. yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef 65 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau) a glo caled (sef 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) ynghyd â rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel fel gweddill y pwysau;
(b)a gynhyrchir ar dymheredd amgylchynol drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c)sy'n frics glo sgwâr, heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(ch)sy'n pwyso 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(d)ar ôl paragraff 23, mewnosoder—
“23A. Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o lo caled wedi ei falu (sef rhyw 73 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 18 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu, yna triniaeth wres ar dymheredd oddeutu 250 i 280ºC;
(c)sy'n frics glo, bron yn grwn ar siâp gobennydd, sydd 40 o filimetrau eu diamedr ac sy'n rhyw 21 o filimetrau o drwch yng nghanol y fricsen;
(ch)sy'n pwyso 23 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.5 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(e)ar ôl paragraff 29, mewnosoder—
“29A. Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan ECL Mineral Processing Limited yn Newfield Works, Newfield, Bishop Auckland, County Durham—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 56 i 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 37 i 38 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio rholer gwasgu;
(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sy'n 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau;
(ch)sy'n pwyso 110 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(f)ar ôl paragraff 30A, mewnosoder—
“30B. Brics glo Newheat, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal B.V. yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 60 i 65 y cant o'r cyfanswm pwysau) a glo caled (sef rhyw 30 i 35 y cant o'r cyfanswm pwysau) ynghyd â rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);
(b)a gynhyrchwyd ar dymheredd amgylchynol drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c)sy'n frics glo hirgrwn, heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(ch)sy'n pwyso rhyw 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(g)ar ôl paragraff 43, mewnosoder—
“43A. Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c)sy'n rhyw 210 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder;
(ch)sy'n pwyso rhwng 1.085 a 1.115 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2 y cant o'r cyfanswm pwysau.
43B. Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a)sydd wedi'u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c)sy'n rhyw 245 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o led a 68 o filimetrau o uchder;
(ch)sy'n pwyso rhwng 0.985 a 1.015 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(d)nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3100 (Cy. 274)) (“Rheoliadau 2008”), sy'n nodi'r tanwyddau y datganwyd eu bod yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III (gan gynnwys adran 20) o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rhestr o danwyddau awdurdodedig yn yr Atodlen i Reoliadau 2008 drwy ychwanegu wyth tanwydd newydd, sef, brics glo Coalite Ovals, brics glo Ecoal 50, brics glo Excel+, Hot Drops, brics glo Newburn, brics glo Newheat a dau faint gwahanol o Zip 100% Natural Firelogs.
Mae adran 20 o Ddeddf 1993 yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, pan fo'r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2008/3100 (Cy. 274), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/3225 (Cy. 279), O.S. 2011/2909 (Cy. 313).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: