Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 6TALIADAU

Talu grant at ffioedd

31.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd a ddyfarnwyd i geisydd nes eu bod wedi cael cais dilys am y taliad oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.

Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill

32.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, dalu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 21 (grant at fwrdd a llety) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod academaidd dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.

(3Os na all asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill sy'n daladwy i fyfyriwr gael ei wneud ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan geisydd, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o'r grantiau hynny hyd nes y ceir yr asesiad terfynol.

(4Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud taliad o lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw yn ddyledus mewn cysylltiad â hi.

(5Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 11(2)(a) neu reoliad 11(2)(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—

(a)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch; neu

(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,

oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.

Gordalu

33.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y person hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources