- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
75.—(1) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 10—
(a)ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw llywodraethwr, aelod o bwyllgor nad yw’n llywodraethwr, pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio) neu unrhyw berson a benodir yn glerc y corff llywodraethu neu bwyllgor; a
(b)mae unrhyw gyfeiriad at “cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal” (“meeting of the federation or a federated school”) yn gyfeiriad at gyfarfod o’r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan y Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
(a)pan fo gwrthdaro yn bosibl, mewn perthynas ag unrhyw fater, rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau’r corff llywodraethu;
(b)pan fo gwrandawiad teg yn ofynnol ac unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu’n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu
(c)pan fo gan berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;
rhaid i’r person hwnnw, os yw’n bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal lle mae’r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu’r buddiant sydd gan y person hwnnw, mynd allan o’r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater o dan sylw.
(3) Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 10 fel pe bai’n atal—
(a)y corff llywodraethu, neu bwyllgor, rhag—
(i)caniatáu i berson sydd yn ei dyb ef yn gallu rhoi tystiolaeth fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddo ar unrhyw fater a chyflwyno tystiolaeth y person hwnnw; neu
(ii)clywed sylwadau gan berson perthnasol sy’n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu
(b)person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â’r corff llywodraethu y mae gan y person hwnnw hawl i elwa oddi wrtho.
(4) Ni fydd yn ofynnol i berson sy’n gweithredu fel clerc i gyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 10 oni fo penodiad y person hwnnw i swydd, tâl y person hwnnw neu achos disgyblu yn erbyn y person hwnnw o dan ystyriaeth, ond pe bai’r rheoliad hwn neu Atodlen 10 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw fynd allan, ni chaiff y person hwnnw weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.
(5) Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw’n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 10, fynd allan o gyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal a pheidio â phleidleisio, mae’r cwestiwn hwnnw i’w benderfynu gan y llywodraethwyr eraill sy’n bresennol yn y cyfarfod.
(6) Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau penodedig eraill o wrthdaro rhwng buddiannau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: