- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
44.—(1) Yn y rheoliad hwn, pan gyfeirir at awdurdod lleol a phan fo’r ffederasiwn i gynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol, rhaid dehongli’r cyfeiriad fel cyfeiriad at ba un bynnag o’r awdurdodau lleol hynny y mae cyrff llywodraethu’r ysgolion yn cytuno rhyngddynt y dylai wneud yr offeryn llywodraethu ar gyfer y ffederasiwn.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion sydd i ffurfio’r ffederasiwn baratoi offeryn llywodraethu drafft ar y cyd a’i gyflwyno i’r awdurdod lleol.
(3) Os bydd gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i gyrff llywodraethu’r ffederasiwn arfaethedig beidio â chyflwyno’r drafft i’r awdurdod lleol hyd nes bydd wedi ei gymeradwyo mewn cysylltiad â phob ysgol sefydledig neu wirfoddol gan—
(a)llywodraethwyr sefydledig yr ysgol honno;
(b)ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig ag ysgol o’r fath;
(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a
(d)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy’n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(4) Os—
(a)yw’r awdurdod lleol yn fodlon bod y drafft yn cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau cymwys; neu
(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y cyrff llywodraethu a’r personau (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a grybwyllir ym mharagraff (3), y dylid diwygio’r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o’r darpariaethau statudol sy’n gymwys;
rhaid i’r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar ffurf y drafft neu (yn ôl y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.
(5) Yn achos ffederasiwn y bydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â chynnwys y drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o’r personau hynny gyfeirio’r drafft at Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried yn benodol y categorïau o ysgolion y bwriedir eu cynnwys yn y ffederasiwn.
(6) Os nad yw’r naill na’r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ffederasiwn na fydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)roi gwybod i gorff llywodraethu y ffederasiwn y rhesymau pam nad yw’n fodlon â’r offeryn llywodraethu drafft; a
(b)rhoi cyfle rhesymol i gorff llywodraethu y ffederasiwn ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio’r drafft;
a rhaid i’r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a chorff llywodraethu y ffederasiwn yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o’r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion a gynhwysir yn y ffederasiwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: