- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
50.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adrannau 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol) a 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 2013, rhaid i’r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.
(2) Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal neu sy’n ddisgybl mewn ysgol ffederal yn gymwys i fod yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd corff llywodraethu’r ffederasiwn dan sylw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd olynydd y person hwnnw wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).
(4) Caiff y cadeirydd neu’r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(5) Daw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd i ben—
(a)pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r corff llywodraethu;
(b)os telir i’r person hwnnw am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal dan sylw;
(c)os diswyddir y person hwnnw yn unol â rheoliad 52 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebir gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 6 o Ddeddf 2013 neu Weinidogion Cymru yn unol ag adran 13 o Ddeddf 2013; neu
(d)yn achos yr is-gadeirydd, os etholir y person hwnnw yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.
(6) Pan ddaw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn wag, rhaid i’r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o’i aelodau i lenwi’r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 6 neu 13 o Ddeddf 2013.
(7) Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.
(8) Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.
(9) Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o’r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i’r corff llywodraethu ethol un o’i aelodau i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(10) Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: