- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
58.—(1) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o’r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 61.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau’r llywodraethwyr sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.
(3) Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu.
(4) Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o’r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(5) Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 80 o Ddeddf 2013 yn cael effaith, p’un a wneir y penderfyniad gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir ar ôl cyfnod o wyth ar hugain o ddiwrnodau gwaith clir o leiaf, ar ôl y cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—
(a)oni phennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda’r ddau gyfarfod; a
(b)oni roddir hysbysiad o’r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 57(7).
(6) Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu oherwydd—
(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;
(b)unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;
(c)unrhyw ddiffyg wrth benodi’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd; neu
(d)bod mwy o lywodraethwyr gan y ffederasiwn mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu(1).
Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 34.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: