Search Legislation

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig

63.—(1Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 62(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

(a)y rhai hynny yn Rhan 3 (categorïau o lywodraethwyr);

(b)y rhai hynny yn Rhan 4 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederasiwn);

(c)y rhai hynny yn Rhan 5 (diswyddo llywodraethwyr);

(d)y rhai hynny yn Rhan 6 (offerynnau llywodraethu);

(e)rheoliadau 50 a 52 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(f)rheoliad 53 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(g)rheoliad 61 (atal llywodraethwyr);

(h)rheoliad 62 (dirprwyo swyddogaethau);

(i)rheoliad 66 (sefydlu pwyllgorau);

ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phanelau dethol pennaeth a dirprwy bennaeth o dan reoliadau 10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34 o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

(2Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 62(1)—

(a)ei swyddogaethau cynigion trefniadaeth ysgolion;

(b)y swyddogaethau:

(i)mewn cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1)(1) o Ddeddf 1998, i’r graddau y mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;

(ii)yn adran 88(1) i (3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(2) (cyfrifoldeb corff llywodraethu am ddisgyblaeth);

(iii)yn adrannau 88(3), 89(4), 89A(5) a 90(8)(6) o Ddeddf 1998 (sy’n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn), adran 90(1)(7) o Ddeddf 1998 (sy’n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), neu adran 94(8) o Ddeddf 1998 i’r graddau y mae’n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau apêl gan y corff llywodraethu;

(iv)yn adran 63(9) o Ddeddf 1998 (targedau presenoldeb ysgol);

(v)yn adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion presenoldeb ysgol);

(vi)yn adrannau 95(2) a 97(3)(10) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i’r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn); neu

(c)swyddogaethau y mae’n rhaid eu dirprwyo i’r pwyllgorau fel a bennir yn rheoliadau 67 i 69.

(1)

Diwygiwyd gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno; a chan adran 57 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(3)

Diwygiwyd gan adran 43(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol a Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), adran 54(1) a 64(2) o Ddeddf Addysg 2011 ac Atodlen 13 iddi.

(4)

Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002; a chan adrannau 41, 45, 46(1), ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a chan Ran 6 o Atodlen 18 i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 106 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Cafodd adran 89 ei diwygio ymhellach gan baragraffau 53 a 57 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25).

(5)

Mewnosodwyd gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 58 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(6)

Disodlwyd gan adran 47 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 62 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(7)

Disodlwyd is-baragraff (1)(b) gan adran 41(1) ac (8)(a) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 62 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25).

(8)

Diwygiwyd gan adrannau 50 a 51 o Ddeddf 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno; a chan adran 51(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan adran 152 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(9)

Diwygiwyd gan adran 53 o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 21 i’r Ddeddf honno.

(10)

Diwygiwyd gan adran 49 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources