Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – a gynigir gan gorff llywodraethu
7.—(1) Rhaid i’r cyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio ystyried ar y cyd unrhyw ymatebion i’r cynigion, a rhaid i bob corff llywodraethu benderfynu naill ai—
(a)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;
(b)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gyda pha addasiadau bynnag a ystyrir yn briodol gan y corff llywodraethu; neu
(c)peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.
(2) Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio.
(3) Rhaid i’r holl gyrff llywodraethu sydd wedi penderfynu mynd ymlaen hysbysu, ar y cyd, yr awdurdod lleol neu’r awdurdodau lleol perthnasol o’r ffaith honno.
Back to top