- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
85.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) os yw—
(a)corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylid diddymu’r ffederasiwn; neu
(b)corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,
rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn roi hysbysiad o’r penderfyniad ac o’r dyddiad diddymu arfaethedig i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (2), o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir i’r penderfyniad.
(2) Y personau sydd i’w hysbysu yw—
(a)pob awdurdod lleol perthnasol;
(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pob pennaeth ysgol ffederal;
(c)pob aelod o’r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;
(d)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal;
(e)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;
(f)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac
(g)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn awdurdod lleol.
(4) Rhaid i’r dyddiad diddymu arfaethedig a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: