- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 nad yw’n ymwneud â ffedereiddio ysgolion bach yn unig, rhaid i’r cynigion a gyhoeddir gynnwys y canlynol—
(a)enw neu enwau’r corff neu gyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio;
(b)maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;
(c)y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;
(d)y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;
(e)y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;
(f)enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;
(g)erbyn pa ddyddiad, ar ôl cyfnod o ddim llai na chwe wythnos ar ôl cyhoeddi’r cynigion, y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod lleol ynglŷn â’r cynigion, ac i ba gyfeiriad y dylid eu hanfon;
(h)yn achos cynnig ar gyfer ffedereiddio sy’n cynnwys ysgol a gynhelir nas cynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cynnig, gadarnhad bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw wedi rhoi ei gydsyniad;
(i)yn achos cynnig sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol, gadarnhad bod yr awdurdod esgobaethol priodol neu’r person neu’r personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig (yn ôl y digwydd) wedi rhoi cydsyniad; a
(j)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at—
(a)unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;
(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;
(c)cyngor ysgol pob un o’r ysgolion;
(d)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—
(i)y llywodraethwyr sefydledig; a
(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;
(e)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath;
(f)yr holl staff y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion;
(g)pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn unrhyw un o’r ysgolion;
(h)pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac
(i)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.
(3) Rhaid cyhoeddi copi o’r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol.
(4) Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arnynt ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.
(5) Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (1)(e) beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: