Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/07/2014.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
9 Mehefin 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mehefin 2014
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.
2. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”);
(b)hepgorer y diffiniad o “rheolwr cyngor” (“council manager”);
(c)hepgorer “ac” ar ôl y diffiniad o “swyddog monitro” (“monitoring officer”); a
(d)yn y mannau priodol mewnosoder—
(i)“ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd)(4);”; a
(ii)“mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(5);”.
4. Yn rheoliad 5 (trefniadau gweithredol – rheolau sefydlog yn ymwneud â staff)—
(a)hepgorer paragraff (1)(c);
(b)ym mharagraff (1)(ch) yn lle “(a), (b) ac (c)” rhodder “(a) a (b)”; ac
(c)ym mharagraff (2) yn lle “(a), (b), (c) neu (d)” rhodder “(a), (b) neu (ch)”.
5. Hepgorer rheoliad 6 (trefniadau amgen – rheolau sefydlog yn ymwneud â staff).
6. Yn lle rheoliad 7 (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff) rhodder—
7.—(1) Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori darpariaethau’r Rheoliadau hyn a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu harfer gan yr awdurdod ei hun ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol)(6) yn gymwys i arfer y swyddogaethau hynny.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)paragraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 4(1) o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o gymeradwyo penodi neu ddiswyddo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod; a
(b)paragraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu i brif swyddog, ac unrhyw newid i’r lefel honno.”
7.—(1) Daw testun presennol rheoliad 8 (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu) yn rheoliad 8(1).
(2) Yn rheoliad 8(1), yn lle “neu ei brif swyddog cyllid” rhodder “, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (2)”.
(3) Ar ôl rheoliad 8(1) mewnosoder—
“(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—
(a)pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1).”
8. Yn rheoliad 9 (ymchwilio i gamymddwyn honedig)—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw’n ymddangos i’r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn swyddog perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.
(1A) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog perthnasol” (“relevant officer”) yw—
(a)pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)ei swyddog monitro;
(c)ei brif swyddog cyllid;
(ch)ei bennaeth gwasanaethau democrataidd; neu
(d)swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (ch), ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny.”;
(b)ym mharagraff (5)(b) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”; ac
(c)hepgorer paragraff (11).
9.—(1) Yn Atodlen 1, yn Rhan 1—
(a)yn lle paragraff 1 rhodder—
“1.—(1) Rhaid i awdurdod perthnasol gymryd y camau a nodir yn is-baragraff (2) pan fo—
(a)yr awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006); a
(b)y gydnabyddiaeth ariannol y mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy.
(2) Y camau yw—
(a)llunio datganiad yn manylu—
(i)dyletswyddau’r swyddog dan sylw, a
(ii)unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;
(b)trefnu i’r swydd gael ei hysbysebu’n gyhoeddus yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy’n gymwys i ymgeisio amdani; ac
(c)trefnu i gopi o’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw berson sy’n gwneud cais.
(3) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd y cam a nodir yn is-baragraff (2)(b) os yw’n bwriadu penodi’r prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis.”
(b)ym mharagraff 2(1) yn lle “1(b)” rhodder “1(2)(b)”; ac
(c)ym mharagraff 2(2) yn lle “1(b)” rhodder “1(2)(b)”.
(2) Yn Atodlen 1, yn Rhan 2, ym mharagraff 3 hepgorer is-baragraff (a).
10.—(1) Yn Atodlen 3, yn Rhan 1—
(a)daw testun presennol paragraff 3 yn baragraff 3(1);
(b)ym mharagraff 3(1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(f)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu
(ff)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.”;
(c)ar ôl paragraff 3(1) mewnosoder—
“(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).”;
(d)ym mharagraff 4(2) yn lle “neu (ch) o baragraff 3” rhodder “, (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)”; ac
(e)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—
“6. Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.”
(2) Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—
(a)daw testun presennol paragraff 3 yn baragraff 3(1);
(b)ym mharagraff 3(1), ar ôl paragraff (dd) mewnosoder—
“(e)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod;
(f)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.”;
(c)ar ôl paragraff 3(1) mewnosoder—
“(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f).”;
(d)ym mharagraff 4(2) yn lle “neu (ch) o baragraff 3” rhodder “, (ch), (e), neu (f) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)”; ac
(e)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—
“6. Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.”
(3) Yn Atodlen 3, hepgorer Rhannau 3 a 4.
11.—(1) Yn Atodlen 4, ym mharagraff 1—
(a)hepgorer ““rheolwr cyngor” (“council manager”),”; a
(b)yn lle “a “swyddog monitro” (“monitoring officer”)” rhodder “, “swyddog monitro” (“monitoring officer”) a “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”)”.
(2) Yn Atodlen 4—
(a)daw testun presennol paragraff 2 yn baragraff 2(1) o’r paragraff hwnnw;
(b)ym mharagraff 2(1)—
(i)hepgorer “(oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod)”; a
(ii)yn lle “neu ei brif swyddog cyllid” rhodder “, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)”;
(c)ar ôl paragraff 2(1) mewnosoder—
“(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—
(a)pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).”
12. O ran unrhyw beth a wnaed gan swyddog, iddo neu mewn perthynas ag ef, cyn y dyddiad y mae’r awdurdod perthnasol yn ymgorffori rheolau sefydlog yn unol â’r Rheoliadau hyn, yn unol â—
(a)rheoliad 9 o Reoliadau 2006; neu
(b)y darpariaethau a nodir yn Atodlen 4 i Reoliadau 2006 (neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith) a ymgorfforir yn rheolau sefydlog yr awdurdod perthnasol,
caniateir parhau i’w wneud ar ôl y dyddiad hwnnw gan y swyddog hwnnw, iddo neu mewn perthynas ag ef yn unol â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) neu (b), yn ôl y digwydd.
13. Rhaid i awdurdod perthnasol adolygu ei reolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ddim hwyrach na’r dyddiad sydd ddeng wythnos ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
9 Mehefin 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1275) (Cy. 121) (“Rheoliadau 2006”).
Mae Rheoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau perthnasol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) ymgorffori darpariaethau penodol yn ymwneud â’u staff, eu cyfarfodydd a’u trafodion yn eu rheolau sefydlog. Mae’n ofynnol i’r awdurdodau perthnasol wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn Rheoliadau 2006 neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith.
Yn rhannol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) (“y Mesur”).
Roedd adran 8 o’r Mesur yn gwneud darpariaeth i gynghorau bwrdeistrefi sirol neu gynghorau sir yng Nghymru ddynodi un o’u swyddogion yn bennaeth gwasanaethau democrataidd.
Cafodd yr opsiwn maer etholedig a rheolwr cyngor o’r trefniadau gweithrediaeth sydd ar gael yng Nghymru ei ddileu gan adran 34 o’r Mesur. Roedd adran 35 o’r Mesur yn darparu bod yn rhaid i gynghorau bwrdeistrefi sirol neu gynghorau sir yng Nghymru sy’n gweithredu trefniadau amgen symud i weithredu un o’r trefniadau gweithrediaeth a ddisgrifir yn adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Rheoliadau 2006 ddiffiniadau o’r “pennaeth gwasanaethau democrataidd” a “cydnabyddiaeth ariannol”.
Mae rheoliadau 3 i 5 yn dileu’r cyfeiriadau yn Rheoliadau 2006 at “trefniadau amgen” a “rheolwr y cyngor”.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r holl benderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol i brif swyddogion gael eu gwneud drwy benderfyniad yr awdurdod ei hun.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth i unrhyw ymchwiliad i gamymddwyn honedig gan bennaeth gwasanaethau democrataidd neu gan unrhyw swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn rheoliad 8(1) o Reoliadau 2006, ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, ddilyn y gweithdrefnau sy’n gymwys i bennaeth gwasanaeth taledig, swyddog monitro neu brif swyddog cyllid, pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog dan sylw yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw. Gwneir mân ddiwygiad hefyd i reoliad 9 o Reoliadau 2006.
Mae rheoliad 9 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 sy’n golygu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog a bod y gydnabyddiaeth ariannol y mae’n bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy, bod yn rhaid i’r swydd gael ei hysbysebu yn allanol. Nid yw’r rhwymedigaeth i hysbysebu’n allanol yn gymwys pan fo’r awdurdod yn bwriadu penodi prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 i ddileu’r amrywiad awdurdodedig sy’n caniatáu i awdurdodau benderfynu peidio â hysbysebu’n allanol pan fyddant yn bwriadu penodi prif swyddog anstatudol.
Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn atal penodi swyddog monitro neu bennaeth gwasanaethau democrataidd, ei ddiswyddo neu gymryd camau disgyblu yn ei erbyn, rhag cael eu cyflawni gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu swyddog a enwebir gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod. Mae’r rheoliad yn diogelu, yn yr un modd, unrhyw swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef ac a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw, ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog dan sylw yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 10 yn dileu Rhannau 3 a 4 o Atodlen 3 i Reoliadau 2006, sy’n ymwneud â’r trefniadau gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor a ddiddymwyd ac â threfniadau amgen.
Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 2006 i fod yn gyson â’r diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â rheolau sefydlog presennol ar gyfer camau disgyblu a wnaed o dan Reoliadau 2006.
Mae rheoliad 13 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod perthnasol adolygu ei reolau sefydlog presennol i’r graddau ei bod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ddim hwyrach na’r dyddiad ddeng wythnos ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Craffu, Democratiaeth a Chyfranogi, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1989 p. 42. Diwygiwyd adran 8 gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p. 8) ac O.S. 2002/803 (Cy. 88); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd adran 20 gan O.S. 2009/3318.
Mae’r pwerau o dan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.
O.S. 2006/1275 (Cy. 121), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101).
1972 p. 70. Diwygiwyd adran 101 gan O.S. 2002/803 (Cy. 88), paragraff 3(2) a (3) o Atodlen 3 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), paragraff 1 o Ran 4 o Atodlen 22 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), paragraff 26(3) o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) ac adrannau 1 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), ac Atodlen 17 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: