- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fo sylwadau’n ymwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y cofrestrwyd person mewn cysylltiad ag ef neu hi gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cael y sylwadau hynny, o fewn 2 ddiwrnod gwaith ar ôl eu cael—
(a)anfon manylion am y sylwadau cyfain neu’r rhan honno ohonynt sy’n ymwneud â’r gwasanaeth cofrestredig at y person a gofrestrwyd fel darparwr mewn cysylltiad â’r sefydliad hwnnw neu’r asiantaeth honno;
(b)gofyn i’r darparwr cofrestredig, yr anfonir manylion ato o dan is-baragraff (a), roi gwybod i’r awdurdod, o fewn 10 diwrnod gwaith ei fod wedi cael canlyniad yr ystyriaeth o’r sylwadau gan yr awdurdod; ac
(c)rhoi gwybod i’r person sy’n gwneud y sylwadau am y camau a gymerwyd o dan is-baragraffau (a) a (b).
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)sylwadau eisoes wedi eu hystyried gan y darparwr cofrestredig; neu
(b)yr awdurdod lleol o’r farn y byddai gweithredu o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu’r ymchwiliad i’r sylwadau neu gallai beryglu neu ragfarnu ymchwiliad gan Weinidogion Cymru.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo sylwadau’n ymwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y cofrestrwyd person mewn cysylltiad ag ef neu hi gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru os na fu’n bosibl datrys y sylwadau o dan reoliad17.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: