- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud y trefniadau hynny y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 a daw darpariaethau’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 o’r enw “Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”(3).
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008(4) wedi ei ddirymu.
3.—(1) Y cyfnod sylfaen mewn perthynas â disgybl yw’r cyfnod sy’n dechrau gyda’r amser perthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff (2)) ac sy’n dod i ben ar yr un amser â’r flwyddyn ysgol y bydd mwyafrif y disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd saith oed ynddi.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “yr amser perthnasol” (“the relevant time”) yw—
(a)yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir cyn iddo gyrraedd tair oed, ei drydydd pen-blwydd;
(b)yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir ar ôl iddo gyrraedd tair oed, yr amser pan ddarperir addysg o’r fath iddo gyntaf; ac
(c)yn achos plentyn na ddarperir iddo unrhyw addysg feithrin a ariennir, yr amser pan fydd yn cael gyntaf addysg gynradd ac eithrio addysg feithrin.
4.—(1) Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â meysydd dysgu, deilliannau dymunol a rhaglenni addysgol a nodir yn y ddogfen yn cael effaith at y diben o bennu’r meysydd dysgu, y deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysgol ar gyfer y cyfnod sylfaen.
(2) Nid yw’r deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysgol sy’n ymwneud â’r maes dysgu a elwir Datblygu’r Gymraeg a nodir yn y ddogfen yn gymwys i ddisgybl yn y cyfnod sylfaen os caiff y disgybl hwnnw ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Cyflwynwyd y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2008 gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”). Yn ogystal, pennodd Gorchymyn 2008 gyfnod y cyfnod sylfaen a rhoddodd effaith gyfreithiol i’r meysydd dysgu, a oedd yn nodi’r deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysgol.
Enw’r “foundation phase” yn wreiddiol yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 oedd y “foundation stage”. Yn ymarferol, roedd ymarferwyr yn cyfeirio at y “foundation stage” fel y “foundation phase” yn Saesneg. O ganlyniad, diwygiwyd Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 gan Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”) er mwyn cyfeirio at y “foundation phase” yn lle’r “foundation stage”. Yn sgil y newid hwnnw a wnaed gan Fesur 2009 ystyrir ei bod yn briodol dirymu Gorchymyn 2008 (erthygl 2) ac ail-wneud y Gorchymyn hwnnw er mwyn adlewyrchu newid yr enw i’r “foundation phase” yn Saesneg (erthygl 3). Yn Gymraeg, defnyddir yr enw “cyfnod sylfaen” ar gyfer y “foundation stage” a’r “foundation phase”.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Rhif ISBN 9780750444293.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: