- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gwarchod Natur, Cymru
Gwnaed
18 Tachwedd 2014
Yn dod i rym
12 Rhagfyr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 316(1)(b) a (2) a 324(3), (4), (5) a (6)(a) a (b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn a Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Rhagfyr 2014.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” gan adran 322(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
2. 12 Rhagfyr 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009—
(a)adrannau 116 i 128 (dynodi parthau cadwraeth morol; dyletswyddau sy’n ymwneud â rhwydwaith cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus);
(b)adrannau 134 i 148 (gorchmynion ar gyfer gwarchod parthau cadwraeth morol yng Nghymru; gwrandawiadau; troseddau; cosbau ariannol penodedig; darpariaethau amrywiol ac atodol; a safleoedd cadwraeth eraill) ac Atodlenni 10 (darpariaethau pellach ynghylch cosbau ariannol penodedig o dan adran 142), 11 (diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol), 12 (darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol) a 13 (ffiniau morol safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gwarchodfeydd natur cenedlaethol); ac
(c)Rhan 3 (gwarchod natur) o Atodlen 22 (diddymiadau) ac adran 321 (diddymiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.
3. Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Is-ddeddfau ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Morol) 1986(2) wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf 2009 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol yng Nghymru (adrannau 116 i 128 a 134 i 147) a Phennod 2 o’r Rhan honno sy’n ymwneud â safleoedd cadwraeth eraill (adran 148). Mae erthygl 2 yn dwyn i rym yr Atodlenni cysylltiedig i Ran 5 o Ddeddf 2009 gan gynnwys diwygiadau canlyniadol, darpariaethau trosiannol a diddymiadau.
Mae erthygl 3 yn dirymu is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn Rhan 5 o Ddeddf 2009.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 i rym yng Nghymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 3, Atodlenni 1 a 2 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adrannau 4 i 8 | 1 Ebrill 2010 | 2010/907 (C. 61) |
Adrannau 9 i 13 | 1 Ebrill 2010 | 2010/298 (C. 23) |
Adrannau 14 i 22 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 23 | 1 Ebrill 2010 | 2010/298 (C. 298) |
Adran 24 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 25 | 1 Ebrill 2010 | 2010/298 (C. 23) |
Adrannau 26 i 28 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adrannau 29 i 30 | 1 Ebrill 2010 | 2010/298 (C. 23) |
Adrannau 31 i 40, Atodlen 3 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adrannau 42 i 43 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Rhan 1 o Atodlen 4 | 31 Mawrth 2014 | 2013/3055 (C. 127) |
Rhan 2 o Atodlen 4 | 12 Ionawr 2010 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 41 | 31 Mawrth 2014 | 2013/3055 (C. 127) |
Adrannau 65 i 111, Atodlen 7 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 112 | 1 Ebrill 2010 (at ddibenion penodedig) | 2010/298 (C. 23) |
6 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2011/556 (C. 19) | |
Adrannau 113 i 115 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Atodlen 8 | 1 Ebrill 2010 (paragraffau penodedig) | 2010/298 (C. 23) |
6 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2011/556 (C. 19) | |
Atodlen 9 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 150 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 151 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adrannau 153 i 164 | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 165 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adrannau 166 i 173 | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 174 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 175 | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 176(1) | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 176(2) | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 177 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 178 | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 179 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 180 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 181 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 182 | 1 Hydref 2010 | 2010/2195 (C. 110) |
Adran 183 | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 184 | 1 Hydref 2010 (at ddibenion penodedig) | 2010/2195 (C. 110) |
1 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2011/556 (C. 19) | |
Atodlen 14 | 1 Hydref 2010 (paragraffau penodedig) | 2010/2195 (C. 110) |
1 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2011/556 (C. 19) | |
Adran 185 | 1 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 186 | 1 Hydref 2010 (at ddibenion penodedig) | 2010/2195 (C. 110) |
1 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2011/556 (C. 19) | |
Adran 187 | 1 Ebrill 2010 | 2010/630 (C. 42) |
Adrannau 194 i 216 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Atodlen 15 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 217 | 12 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig) | 2009/3345 (C. 153) |
1 Ionawr 2011 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2010/298 (C. 23) | |
Adrannau 218 i 219 | 1 Ionawr 2011 | 2010/298 (C. 23) |
Adrannau 220 i 222 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 223 | 12 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig) | 2009/3345 (C. 153) |
1 Ionawr 2011 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2010/298 (C. 23) | |
Adrannau 224 i 232 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 233(1) | 12 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig) | 2009/3345 (C. 153) |
1 Ionawr 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2010/298 (C. 23) | |
Adran 233(2) | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Atodlen 16 | 12 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig) | 2009/3345 (C. 153) |
1 Ionawr 2011 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn) | 2010/298 (C. 23) | |
Adran 234 | 1 Ebrill 2010 | 2010/298 (C. 23) |
Adran 235 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 236 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adrannau 237 i 239 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adrannau 240 i 242 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adrannau 243 i 262, Atodlen 17 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 263 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adrannau 264 i 295, Atodlen 18 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adrannau 311 i 313 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 314 | 6 Ebrill 2011 | 2011/556 (C. 19) |
Adran 315, Atodlen 21 | 12 Ionawr 2010 | 2009/3345 (C. 153) |
Adran 321, Atodlen 22 | 12 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig) | 2009/3345 (C. 153) |
1 Ebrill 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig) | 2010/298 (C. 23) | |
1 Ionawr 2011 (at ddibenion penodedig) | 2010/298 (C. 23) | |
1 Ebrill 2010 (at ddibenion penodedig) | 2010/630 (C. 42) | |
1 Ebrill 2011 (at ddibenion penodedig) | 2011/556 (C. 19) | |
6 Ebrill 2011(at ddibenion penodedig) | 2011/556 (C. 19) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: