- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Afon, Cymru
Pysgodfeydd Eogiaid A Dŵr Croyw
Gwnaed
9 Rhagfyr 2014
Yn dod i rym
20 Ionawr 2015
Mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy benderfyniad yn unol ag adran 316(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1).
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 232(1), (5)(a), (d), (e), (h), (i) a (j) a (7) a 316(1) a (2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2015.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â physgod byw yng Nghymru.
(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys mewn perthynas â physgod byw ac wyau byw o bysgod yng Nghymru.
(5) Mae rheoliad 18 yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cadw” (“keeping”), mewn perthynas â physgod, yw bod â physgod, bod yn berchen arnynt neu eu rheoli mewn dyfroedd mewndirol;
mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys ôl-gerbyd;
ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “dyfroedd mewndirol” (“inland waters”) yw unrhyw ddŵr o fath a bennir yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(3) ac eithrio nad yw’n cynnwys pyllau gardd sy’n llai na 0.4 hectar o faint, nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pysgota, nad oes ganddynt gysylltiadau i ddyfroedd eraill ac sydd wedi eu lleoli o fewn cwrtil eiddo preswyl;
ystyr “mangre” (“premises”), ac eithrio yn rheoliad 3, yw—
unrhyw dir, ynys artiffisial, gosodiad neu adeilad morol,
unrhyw gerbyd, neu
unrhyw lestr;
mae “llestr” (“vessel”) yn cynnwys unrhyw long neu gwch neu lestr arall a ddefnyddir ar gyfer mordwyo, ac unrhyw hofrenfad, llong ymsuddol neu fad arnofiol arall, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beth sy’n gorwedd yn barhaol ar wely’r môr, neu sydd wedi ei atodi’n barhaol iddo;
ystyr “pysgod” (“fish”) yw pysgod neu silod pysgod ac mae’n cynnwys molysgiaid a chramenogion;
ystyr “trwydded” (“permit”) yw trwydded a roddir neu sydd i’w rhoi o dan reoliad 6(l).
3. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gweithgareddau sy’n digwydd—
(a)ar fangre busnes cynhyrchu dyframaethol a awdurdodir o dan reoliad 6 o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009(4); neu
(b)yn ystod y broses o gludo rhwng—
(i)mangreoedd unrhyw fusnes o’r fath; neu
(ii)mangre un busnes o’r fath a mangre busnes arall o’r fath.
4. Mae person sydd, ac eithrio o dan delerau trwydded a roddir o dan reoliad 6 y mae’r person hwnnw’n ei dal, ac yn unol â hi—
(a)yn cyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol,
(b)a chanddo yn ei feddiant bysgod at ddiben cyflwyno unrhyw un neu ragor o’r pysgod hynny i ddyfroedd mewndirol, neu
(c)yn achosi neu’n galluogi unrhyw berson arall i gyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol
yn cyflawni trosedd.
5.—(1) Mae person sy’n cadw mewn dyfroedd mewndirol, ac eithrio o dan drwydded a roddir o dan reoliad 6 ac yn unol â hi, unrhyw bysgod o fath y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw bysgod sy’n perthyn i urdd dacsonomaidd a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ac nad yw’n perthyn i rywogaeth a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen.
(3) Mewn perthynas ag ardal warchodedig, mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys i bysgod o unrhyw rywogaeth a fyddai fel arall yn absennol o’r ardal honno.
(4) Ym mharagraff (3) ystyr “ardal warchodedig” (“protected area”) yw—
(i)safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, fel y’i diffinnir gan adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(5);
(ii)safle Ewropeaidd neu safle morol Ewropeaidd fel y’u diffinnir gan reoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(6);
(iii)gwlyptir a ddynodir o dan baragraff 1 o erthygl 2 o Gonfensiwn Ramsar, fel y’i diffinnir gan adran 37A(4) a (5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (7).
6.—(1) Wrth gael cais am drwydded sy’n awdurdodi cyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff y Corff roi’r gyfryw drwydded.
(2) Y gweithgareddau y mae paragraff (1) yn cyfeirio atynt yw—
(a)cadw pysgod o fath y mae rheoliad 5 yn gymwys iddynt mewn dyfroedd mewndirol;
(b)cyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.
(3) Caniateir rhoi trwydded yn ddarostyngedig i’r amodau hynny sy’n briodol ym marn y Corff.
(4) Yn benodol, caniateir gosod amodau—
(a)i gyfyngu ar nifer y pysgod a gyflwynir i unrhyw ddyfroedd mewndirol, neu a gedwir ynddynt;
(b)i leihau’r risg o bysgod yn dianc o unrhyw ddyfroedd mewndirol;
(c)i sicrhau nad yw cadw neu symud pysgod yn niweidiol i’r amgylchedd neu i unrhyw bysgodfa mewn dyfroedd sy’n gysylltiedig â’i gilydd (gan gynnwys dyfroedd sy’n gysylltiedig drwy orlifdir);
(d)mewn perthynas â chadw cofnodion ar gyfer unrhyw weithgaredd a awdurdodir gan y drwydded, a dal gafael arnynt;
(e)mewn perthynas â gwaredu pysgod;
(f)sy’n nodi’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu’r Corff; ac
(g)sy’n cyfyngu ar yr amser y mae’r drwydded yn ddilys, fel bod cadw pysgod penodedig mewn dyfroedd mewndirol wedi ei ganiatáu dros dro yn unig.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “symud pysgod” (“movement of fish”) yw symud ymaith bysgod o ddyfroedd mewndirol neu gyflwyno pysgod iddynt.
7.—(1) Caiff y Corff, drwy hysbysiad a gyflwynir i ddeiliad trwydded, atal dros dro neu ddirymu’r drwydded—
(a)os caiff unrhyw amod ei thorri, neu
(b)os yw amodau amgylcheddol y dyfroedd mewndirol y mae’r drwydded yn ymwneud â hwy wedi newid ers y dyddiad y rhoddwyd y drwydded, i’r graddau y mae’r Corff yn ystyried bod atal y drwydded dros dro neu ei dirymu yn angenrheidiol.
(2) Caiff y Corff, drwy roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded, amrywio’r drwydded os yw’r Corff o’r farn bod angen ei diwygio.
(3) Caiff y Corff atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded ar gais deiliad y drwydded honno.
8.—(1) Os caiff pysgod eu cyflwyno i ddyfroedd mewndirol neu eu cadw’n groes i’r Rheoliadau hyn, caiff y Corff gyflwyno hysbysiad i ddeiliad y drwydded, neu os nad oes trwydded, berchennog neu feddiannydd y dyfroedd hynny, yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded neu’r perchennog neu’r meddiannydd (yn ôl fel y digwydd)—
(a)symud ymaith a gwaredu’r pysgod—
(i)mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, a
(ii)ar draul deiliad y drwydded neu’r perchennog neu’r meddiannydd; a
(b)cymryd camau i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei hadfer, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, i’r hyn a fuasai pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu torri.
(2) Os na chydymffurfir â hysbysiad o dan baragraff (1), caiff y Corff drefnu—
(a)i bysgod gael eu symud ymaith a’u gwaredu; a
(b)cymryd camau i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei hadfer, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, i’r hyn a fuasai pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu torri.
(3) Caiff y Corff symud ymaith a gwaredu pysgod heb gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)mewn argyfwng; neu
(b)os na ellir darganfod deiliad y drwydded neu’r perchennog neu’r meddiannydd.
(4) Pan fo’r Corff yn gweithredu o dan baragraff (2) neu (3)(a), caiff wneud hynny ar draul deiliad y drwydded neu berchennog neu feddiannydd y dyfroedd mewndirol a chaiff y Corff adennill unrhyw swm sydd i’w ad-dalu fel dyled sifil.
(5) Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (1) heb esgus rhesymol yn drosedd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7(1) neu (2) neu reoliad 8(1) yn cael effaith 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.
(2) Pan fo hysbysiad yn pennu cyfnod, mae’r hysbysiad yn cael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.
(3) Pan fo apêl o dan reoliad 10 yn cael ei ddwyn, nid yw’r hysbysiad yn cael effaith hyd nes bod yr apêl wedi ei benderfynu neu ei dynnu yn ôl, oni bai bod y person penodedig sy’n penderfynu’r apêl yn cyfarwyddo hynny.
10.—(1) Caiff ceisydd am roi trwydded apelio yn erbyn—
(a)gwrthod ei rhoi, neu
(b)gosod unrhyw amod.
(2) Caiff deiliad trwydded neu berchennog neu feddiannydd dyfroedd mewndirol y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 7(1) neu (2) neu reoliad 8(1), apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(3) Rhaid i’r apelydd gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i’r Corff o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
(4) Wrth gael hysbysiad am apêl, rhaid i’r Corff benodi person annibynnol i benderfynu’r apêl.
(5) Mae’r apêl ar ffurf sylwadau ysgrifenedig gan y Corff a’r apelydd, ac mae’n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau amser a bennir gan y person annibynnol.
(6) Y person annibynnol sy’n penderfynu pa un ai i ganiatáu’r apêl (a chaiff gyfarwyddo’r Corff i roi trwydded neu i amrywio unrhyw amod).
11.—(1) Caiff swyddog o’r Corff, drwy ddangos awdurdodiad wedi ei ddilysu os yw’n angenrheidiol, fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel tŷ annedd preifat) ar unrhyw amser rhesymol—
(a)pan fo gan y swyddog reswm i amau bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei gyflawni, neu ar fin cael ei gyflawni; neu
(b)at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan reoliad 7(1)(b) neu reoliad 8(3), neu i ymchwilio i weld pa un a yw unrhyw un neu ragor o’r pwerau hynny yn arferadwy.
(2) Caniateir i’r personau hynny y mae’r swyddog yn barnu eu bod yn angenrheidiol fynd gyda’r swyddog a chaniateir iddo ddefnyddio unrhyw gerbydau, llestrau neu gyfarpar y mae’r swyddog yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
(3) Ni chaiff swyddog fynd i mewn i unrhyw fangre (neu unrhyw ran o fangre) sy’n dŷ annedd preifat ond os yw ynad heddwch wedi dyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog i wneud hynny.
(4) Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni fod seiliau rhesymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a ddisgrifir ym mharagraff (1), ac naill ai—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b)y byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn,
(c)bod yr achos yn achos brys, neu
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad roi awdurdodiad, drwy warant a lofnodwyd, i’r swyddog fynd i mewn i’r fangre, â grym rhesymol os bydd angen hynny.
(5) Mae gwarant o dan y rheoliad hwn yn ddilys am un mis.
(6) Rhaid i swyddog sy’n mynd i mewn i fangre nad yw wedi ei meddiannu, ei gadael wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn.
12.—(1) Caiff swyddog sy’n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 11—
(a)atal a chadw unrhyw gerbyd neu lestr;
(b)archwilio’r fangre, ac unrhyw rwyd, trap, peirianwaith, cyfarpar neu bysgod yn y fangre;
(c)cymryd samplau (gan gynnwys samplau o bysgod) o unrhyw beth yn y fangre;
(d)ymafael yn unrhyw bysgod, rhwyd, trap, peirianwaith neu gyfarpar arall yn y fangre i’r graddau y mae’n angenrheidiol at y dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1);
(e)cyflawni unrhyw chwiliadau, ymchwiliadau, archwiliadau neu brofion;
(f)ymafael mewn samplau o bysgod a’u lladd mewn modd trugarog at ddibenion tystiolaethol;
(g)cael mynediad i unrhyw ddogfen neu gofnod (ym mha bynnag ffurf y’u cedwir), y mae’n eu hystyried yn berthnasol i’r dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1), eu harchwilio, eu copïo neu ymafael ynddynt; ac
(h)cael gafael ar, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnod o fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (g).
(2) At ddiben paragraff (1)(h), caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n ymwneud fel arall â’u gweithrediad—
(a)roi cynhorthwy o’r fath a all fod yn rhesymol ofynnol; a
(b)pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith.
(3) Os nad yw’r cofnod yn cael ei gynhyrchu yn y ffurf sy’n ofynnol gan baragraff (2)(b), caiff y swyddog ymafael yn y cyfrifiadur neu’r ddyfais storio electronig.
(4) Pan fo gan swyddog reswm i amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu enw a chyfeiriad y person.
(5) Pan fo swyddog wedi mynd i mewn i unrhyw fangre, ac nad yw’n rhesymol ymarferol i benderfynu ar y pryd pa un a yw unrhyw ddogfen neu ffeil electronig, pysgod, rhwyd, trap, peirianwaith neu gyfarpar arall yn y fangre honno yn berthnasol i’r dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1), caiff yr arolygydd ymafael ynddynt er mwyn penderfynu pa un a yw’n berthnasol ai peidio.
(6) Caniateir i unrhyw bysgod yr ymafaelir ynddynt gael eu gwaredu mewn modd sy’n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.
13. Bydd unrhyw berson—
(a)sy’n rhwystro swyddog yn fwriadol rhag arfer ei bwerau o dan y Rhan hon,
(b)heb reswm rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw swyddog sy’n arfer ei bwerau o dan y Rhan hon, unrhyw gynhorthwy neu wybodaeth y gall fod yn rhesymol ofynnol i’r swyddog eu cael o dan y Rheoliadau hyn,
(c)sy’n rhoi unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol i unrhyw swyddog sy’n arfer ei bwerau o dan y Rhan hon, neu
(d)sy’n methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw swyddog sy’n arfer ei bwerau o dan y Rhan hon,
yn cyflawni trosedd.
14.—(1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 4 (cyflwyno pysgod), rheoliad 5 (cadw pysgod), rheoliad 8(5) (methu â chydymffurfio â hysbysiad) neu reoliad 13 (rhwystro) yn atebol—
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na £50,000, neu
(b)ar gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Os yw adran 85(2) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau hyn, mae paragraff (1)(a) yn gymwys mewn perthynas â chollfarn gan lys yng Nghymru gan hepgor y geiriau “nad yw’n fwy na £50,000”.
15. Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,
mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o drosedd.
16.—(1) Caniateir dwyn achos o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei fod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion y cyfryw achosion—
(a)mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(8) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(9) yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas wrth eu collfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y person hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd honno ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r gymdeithas, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(6) Ym mharagraff (4), mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni gweithredu fel partner.
(7) Ym mharagraff (5), ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog o’r gymdeithas neu aelod o’i gorff llywodraethu, neu berson sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o’r fath.
17. Mae trwydded o dan adran 1 o Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980(10) sy’n awdurdodi person i gadw neu ryddhau pysgod byw, neu wyau byw o bysgod, sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, i’w hystyried fel trwydded o dan y Rheoliadau hyn sy’n awdurdodi cadw pysgod neu gyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.
18. Mae adran 30 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975(11) wedi ei diddymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2014
Rheoliad 5(2)
Urdd Dacsonomaidd | Enw cyffredin |
---|---|
Acipenseriformes | Styrsiwn, Pysgod Sbodol |
Amiiformes | Morgwn |
Anguilliformes | Llysywod |
Atheriniformes | Pysgod Ystlys Arian |
Batrachoidiformes | Môr-lyffaint |
Beloniformes | Môr-nodwydd, Pysgodyn hedegog |
Ceratodontiformes | Pysgod ysgyfeiniog |
Characiformes | Tetrâu, Characiniaid, Pensafwyr |
Clupeiformes | Penwaig, Brwyniaid, Gwangod |
Cypriniformes | Carp, Gwrachod, Pilcod |
Cyprinodontiformes | Pysgod abwyd |
Esociformes | Penhwyaid |
Gasterosteiformes | Crethyll |
Gonorynchiformes | Kneriidae |
Gymnotiformes | Llafnbysg |
Lepidosireniformes | Pysgod ysgyfeiniog De Americanaidd ac Affricanaidd |
Lepisosteiformes | Môr-nodwyddau neu Gornbigau |
Myliobatiformes | Morgathod duon |
Osmeriformes | Brwyniaid Conwy |
Osteoglossiformes | Arapaimaod |
Perciformes | Draenogiaid, Glöynnod y môr, Ciclidau, Tiwnaod |
Percopsiformes | Draenogiaid brithion, Pysgod ogof |
Petromyzontiformes | Llysywod pendoll |
Pleuronectiformes | Lledod mwd a Lledod chwithig |
Polypteriformes | Cyrsbysg |
Salmoniformes | Eogiaid, Brithyllod, Powaniaid |
Scorpaeniformes | Pysgod dreiniog, Sgorpioniaid |
Siluriformes | Morfleiddiaid |
Synbranchiformes | Llysywod pigog |
Syngnathiformes | Pibellau môr, Morfeirch |
Tetraodontiformes | Chwyddbysgod |
Urdd Dacsonomaidd | Rhywogaeth | |
---|---|---|
Enw cyffredin | Enw’r rhywogaeth | |
(1) Gan gynnwys pob amrywiaeth o’r un rhywogaeth (ee Carp Llyfn, Carp Euraidd). | ||
(2) Gan gynnwys pob amrywiaeth o’r un rhywogaeth (ee Brown, Euraidd, Shubunkin Llundain). | ||
(3) Gan gynnwys pob amrywiaeth addurniadol o’r un rhywogaeth (ee Orffod Aur, Orffod Glas). | ||
Anguilliformes | Llysywod Ewropeaidd | Anguilla anguilla |
Clupeiformes | Herlynod | Alosa alosa |
Gwangod | Alosa fallax | |
Cypriniformes | Barfogiaid | Barbus barbus |
Gorwyniaid | Alburnus alburnus | |
Merfogiaid | Abramis brama | |
Merfogiaid gwynion | Blicca bjoerkna | |
Tybiau’r dail | Leuciscus cephalus | |
Carp(1) | Cyprinus carpio | |
Byrbysgod | Carassius carassius | |
Dars | Leuciscus leuciscus | |
Pysgod aur(2) | Carassius auratus | |
Llyfrothod dŵr croyw | Gobio gobio | |
Orffod(3) | Leuciscus idus | |
Gwrachod pigog | Cobitis taenia | |
Gwrachod barfog | Barbatula barbatula | |
Pilcod Ewropeaidd | Phoxinus phoxinus | |
Rhufelliaid | Rutilus rutilus | |
Pysgod rhuddion | Scardinius erythro- phthalmus | |
Sgretenod | Tinca tinca | |
Esociformes | Penhwyaid | Esox lucius |
Gasterosteiformes | Crethyll tri phigyn | Gasterosteus aculeatus |
Crethyll naw pigyn | Pungitius pungitius | |
Osmeriformes | Brwyniaid Conwy | Osmerus eperlanus |
Perciformes | Draenogiaid dŵr croyw Ewrasiaidd | Perca fluviatilis |
Crychion | Gymnocephalus cernuus | |
Petromyzonti-formes | Llysywod pendoll y môr | Petromyzon marinus |
Llysywod pendoll y nant | Lampetra planeri | |
Llysywod pendoll yr afon | Lampetra fluviatilis | |
Salmoniformes | Brithyllod neu siwin | Salmo trutta |
Brithyllod seithliw, ac eithrio’r brithyllod arian esgynnol | Oncorhynchus mykiss | |
Eogiaid | Salmo salar | |
Canghennau gleision | Thymallus thymallus | |
Torgochiaid afon yr Arctig | Salvelinus alpinus | |
Fendeisiaid | Coregonus albula | |
Powaniaid neu Wyniaid Llyn Tegid | Coregonus lavaretus | |
Scorpaeniformes | Pennau lletwad | Cottus gobio |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli cadw a chyflwyno pysgod mewn dyfroedd mewndirol. Maent yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu ei bod yn drosedd cyflwyno unrhyw bysgod i ddyfroedd mewndirol, cadw mathau penodol o bysgod (y pysgod sy’n perthyn i’r urdd dacsonomaidd a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ond nad ydynt yn rhywogaeth a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen) mewn dyfroedd mewndirol, neu i gadw unrhyw fath o bysgod mewn ardaloedd gwarchodedig lle na fyddai’r pysgod hynny yno fel arall, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (“y Corff”) (rheoliadau 4 a 5). Caiff y Corff atodi amodau i drwyddedau i gyflwyno pysgod neu i gadw pysgod ac mae rhestr o ddibenion y caniateir gosod amodau yn benodol mewn perthynas â hwy, neu o faterion y caniateir gosod amodau yn benodol mewn perthynas â hwy, wedi ei chynnwys yn rheoliad 6(4).
Mae rheoliad 3 yn eithrio busnesau cynhyrchu dyframaethol rhag cwmpas y Rheoliadau hyn, gan gynnwys cludo pysgod rhwng mangreoedd un neu ragor o fusnesau cynhyrchu dyframaethol. Fodd bynnag, nid yw’n eithrio busnesau cynhyrchu dyframaethol rhag y gofyniad i gael trwydded i gadw (heblaw am yn y fangre) pysgod neu i gyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.
Mae rheoliad 7 yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff y Corff ddirymu, atal dros dro neu amrywio trwydded.
Mae rheoliad 8 yn galluogi’r Corff i gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy’n berchennog neu’n feddiannydd dyfroedd mewndirol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw symud ymaith a gwaredu pysgod, os yw’r pysgod wedi eu cyflwyno i’r dŵr neu eu cadw yn groes i’r Rheoliadau. Mae paragraff (3) yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff y Corff symud a gwaredu pysgod heb gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1). Mae paragraff (5) yn ei gwneud yn drosedd i beidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (1) heb esgus rhesymol.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr adeg y mae hysbysiad o dan reoliad 7 neu 8 yn cael effaith.
Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag apelau gan geisydd trwydded, neu ddeiliad trwydded neu berchennog neu feddiannydd dyfroedd mewndirol, sy’n cael hysbysiad o dan reoliad 7 neu 8.
Mae rheoliad 11 yn rhoi pŵer mynediad i swyddog awdurdodedig y Corff at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 12 yn nodi pwerau ychwanegol swyddog awdurdodedig, gan gynnwys y pŵer i stopio a chadw’n gaeth unrhyw gerbyd, a’r pŵer i gynnal unrhyw chwiliad. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer troseddau penodol sy’n ymwneud â rhwystro person sy’n gweithredu i roi’r Rheoliadau ar waith.
Mae rheoliad 14 yn nodi bod person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau yn atebol, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na £50,000, neu ei gollfarnu ar dditiad i ddirwy heb derfyn. Fodd bynnag, os yw adran 85(2) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau hyn, ni fydd dirwy a osodir ar gollfarn ddiannod mewn llys barn yng Nghymru wedi ei chyfyngu i £50,000.
Mae Rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol. Effaith paragraff (1) yw, mewn amgylchiadau penodol, y caiff cyfarwyddwr neu berson tebyg arall o gorff corfforaethol fod yn atebol yn bersonol am drosedd yn ogystal â’r corff corfforaethol. Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a gyflawnir (neu yr honnir eu bod wedi eu cyflawni) gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig.
Mae rheoliad 17 yn darparu bod trwydded sydd eisoes mewn grym o dan adran 1 o Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980 i gael ei hystyried yn drwydded o dan y Rheoliadau.
Mae rheoliad 18 yn diddymu adran 30 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 o ran Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Môr a Physgodfeydd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2009 p.23. Mae adran 316(10)(a) yn diffinio “gweithdrefn gadarnhaol ddrafft” (“draft affirmative procedure”) at ddibenion adran 316(6).
Diwygiwyd adran 232 gan O.S. 2013/755 (Cy. 90). Diffinnir y term “awdurdod cenedlaethol priodol” (“appropriate national authority”) yn adran 232(8).
1981 p.69. Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 52(1) gan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) a pharagraffau 5(1) a (2) o Atodlen 9 iddi.
O.S. 2010/490. Diwygiwyd rheoliad 8 gan O.S. 2012/1927.
Mewnosodwyd adran 37A gan adran 77 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37).
1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan adran 132 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55) ac Atodlen 6 iddi; diwygiwyd is-adran (3) gan adran 56(1) o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) a pharagraff 19 o Ran 2 o Atodlen 8 iddi; diwygiwyd is-adran (4) gan adran 109(1) a (3) o Ddeddf y Llysoedd 2003 (p. 39) a pharagraff 71 o Atodlen 8 ac Atodlen 10 iddi; diddymwyd is-adran (5) gan adran 132 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 ac Atodlen 6 iddi.
1980 p. 43. Diddymwyd paragraff 2(a) gan adrannau 41 a 332 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) a pharagraffau 51(1) a 13(a) o Atodlen 3 a Rhan 4 o Atodlen 37 iddi; diddymwyd paragraff 5 gan adrannau 25(2) a 101(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53) ac Atodlen 13 iddi; diwygiwyd paragraff 6 gan adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 a pharagraff 51(1) a 13(b) o Atodlen 3 iddi.
1980 p. 27. Diwygiwyd is-adran (1) gan reoliad 45 o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009 (O.S. 2009/463) a pharagraff 5 o Atodlen 2 iddi; diwygiwyd is-adran (2) gan adran 105(1) o Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 62 o Atodlen 11 iddi; adran 132 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) a pharagraff 8 o Atodlen 9 iddi; ac erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755) (Cy. 90) a pharagraff 158 o Atodlen 2 iddo; diwygiwyd is-adran 3 gan adran 37(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29).
1975 p. 51. Diwygiwyd adran 30 gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755) (Cy. 90) a pharagraff 127 a 142 o Atodlen 2 iddo; adrannau 105 a 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), a pharagraff 17 o Atodlen 15 ac Atodlen 24 iddi; ac adran 190 o Ddeddf Dŵr 1989 (p. 15) a Rhan 1 o Atodlen 27 iddi; adran 34 o Ddeddf Eogiaid 1986 (p. 62).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: