- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2015.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â physgod byw yng Nghymru.
(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys mewn perthynas â physgod byw ac wyau byw o bysgod yng Nghymru.
(5) Mae rheoliad 18 yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cadw” (“keeping”), mewn perthynas â physgod, yw bod â physgod, bod yn berchen arnynt neu eu rheoli mewn dyfroedd mewndirol;
mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys ôl-gerbyd;
ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “dyfroedd mewndirol” (“inland waters”) yw unrhyw ddŵr o fath a bennir yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1) ac eithrio nad yw’n cynnwys pyllau gardd sy’n llai na 0.4 hectar o faint, nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pysgota, nad oes ganddynt gysylltiadau i ddyfroedd eraill ac sydd wedi eu lleoli o fewn cwrtil eiddo preswyl;
ystyr “mangre” (“premises”), ac eithrio yn rheoliad 3, yw—
unrhyw dir, ynys artiffisial, gosodiad neu adeilad morol,
unrhyw gerbyd, neu
unrhyw lestr;
mae “llestr” (“vessel”) yn cynnwys unrhyw long neu gwch neu lestr arall a ddefnyddir ar gyfer mordwyo, ac unrhyw hofrenfad, llong ymsuddol neu fad arnofiol arall, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beth sy’n gorwedd yn barhaol ar wely’r môr, neu sydd wedi ei atodi’n barhaol iddo;
ystyr “pysgod” (“fish”) yw pysgod neu silod pysgod ac mae’n cynnwys molysgiaid a chramenogion;
ystyr “trwydded” (“permit”) yw trwydded a roddir neu sydd i’w rhoi o dan reoliad 6(l).
3. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gweithgareddau sy’n digwydd—
(a)ar fangre busnes cynhyrchu dyframaethol a awdurdodir o dan reoliad 6 o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009(2); neu
(b)yn ystod y broses o gludo rhwng—
(i)mangreoedd unrhyw fusnes o’r fath; neu
(ii)mangre un busnes o’r fath a mangre busnes arall o’r fath.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: