Search Legislation

Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 374 (Cy. 42)

Landlord A Thenant, Cymru

Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

20 Chwefror 2014

Yn dod i rym

21 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(2) a 45(5) o Ddeddf Tai 1988(1) ac a freiniwyd(2) bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau eu bod yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror 2014.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.

Diwygio Ffurflenni Rhagnodedig

2.  Yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 (Ffurflenni a ragnodir at ddibenion Rhan I o Ddeddf Tai 1988)(3)

(a)ym mharagraff 2 o’r Canllawiau i Ffurflen 4D (hysbysiad landlord yn cynnig rhent newyddo dan denantiaeth gyfnodol sicr o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru )(4) hepgorer o “You should also notify” i “claiming benefit” a rhodder—

You are required to also notify the Housing Benefit office in your local authority if you are claiming a Benefit or the Department for Work and Pensions if you are claiming Universal Credit. The Gov.UK website provides further advice: https://www.gov.uk; a

(b)ym mharagraff 2 o’r Canllawiau i Ffurflen 4E (hysbysiad landlord neutrwyddedydd yn cynnig rhent newydd neu ffi drwydded o dan feddiannaeth amaethyddol sicr o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru )(5) hepgorer o “You should also notify” i “claiming benefit” a rhodder—

You are required to also notify the Housing Benefit office in your local authority if you are claiming a Benefit or the Department for Work and Pensions if you are claiming Universal Credit. The Gov.uk website provides further advice: https://www.gov.uk.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

20 Chwefror 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau )

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ffurflenni penodol a ragnodir yn Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997(6), fel y’u diwygiwyd(7).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) ac yn mewnosod cyfeiriadau yn y ffurflenni hynny at gredyd cynhwysol.

(1)

1988 p. 50. I gael diffiniad o “prescribed”, gweler adran 45(1). Ar gyfer darpariaeth ynghylch meddianaethau amaethyddol, gweler adran 24.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13, i’r graddau eu bod yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru (Trosgwlyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi. Mae’r swyddogaethau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Mewnosodwyd ffurflen 4D gan O.S. 2003/307 (Cy. 46).

(5)

Mewnosodwyd ffurflen 4E gan O.S. 2003/307 (Cy. 46).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources