- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
7 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2014
Yn dod i rym
31 Mawrth 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 27 (dehongli), yn y diffiniad o “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”), yn lle “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012”(4) rhodder “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013”(5).
(3) Yn rheoliad 29 (terfynau amser)—
(a)ym mharagraff (2) yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A), pan”;
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Pan fodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(c) a bod yr apêl gan y person a dramgwyddir yn ymwneud â phenderfyniad awdurdod bilio i ddyfarnu gostyngiad o dan ei gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, gwrthodir yr apêl oni bai bod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 16(4)(6) wedi ei gyflwyno i’r awdurdod bilio yn unol â pharagraff 8(2) o Atodlen 12 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu baragraff 8(2) o Atodlen 1 o’r cynllun a ragnodir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(7), yn ôl y digwydd.”
3. Yn y rhan hon o’r Rheoliadau—
ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(8);
ystyr “Rheoliadau 2010” (“2010 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012; ac
ystyr “Tribiwnlys Prisio” (“Valuation Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau 2010.
4. Nid yw’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2010 gan reoliad 2 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw apelau a wneir i’r Tribiwnlys Prisio mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir o dan ddarpariaethau cynllun 2013.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (“Rheoliadau 2010”) sy’n sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru (“y Tribiwnlys”) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei aelodaeth, ei weinyddiaeth a’i weithdrefnau.
Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd i ystyriaeth cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor lleol a gyflwynir gan awdurdodau bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”).
O dan adran 16 o Ddeddf 1992, caiff person apelio i’r Tribiwnlys os yw’r person hwnnw wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad a wnaed gan awdurdod bilio ynghylch swm y dreth gyngor sy’n daladwy ac mae Rheoliadau 2010 yn galluogi’r Tribiwnlys i ymdrin ag apelau mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2010 i adlewyrchu’r ffaith bod Rheoliadau 2013 yn disodli Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r terfynau amser yn Rheoliadau 2010 fel bod penderfyniadau sy’n effeithio ar hawl person i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor sydd ar waith ar 1 Ebrill 2013, neu sy’n effeithio ar swm unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwnnw, yn cael eu gwrthod oni bai bod yr hysbysiad a gyflwynir o dan adran 16(4) o Ddeddf 1992 yn cael ei gyflwyno yn unol â’r terfynau amser cymwys o dan Reoliadau 2013 neu’r cynllun perthnasol sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Ddeddf 1992.
Mae Rheoliad 4 yn ddarpariaeth arbed sy’n darparu nad yw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw apelau a wneir i’r Tribiwnlys mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir o dan ddarpariaethau cynllun a wneir o dan Reoliadau 2013 neu gynllun sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1988 p.41. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud i baragraff 1 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno gan baragraffau 3 a 4(a) i (c) o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28). Mae paragraff 8 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 wedi cael ei ddiwygio ond nid yw’r diwygiadau yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraffau 1 ac 8 o Atodlen 11 iddi, i’r graddau eu bod yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae’r swyddogaethau hynny bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
O.S. 2010/713 (Cy.69), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/547 (Cy. 59).
O.S. 2012/3144 (Cy.316) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/112 (Cy. 17).
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14).
O.S. 2013/3035 (Cy. 303), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6).
1992 p.14. Mewnosodwyd Atodlen 1B i’r Ddeddf honno gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: