Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/01/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014;

(b)yn gymwys o ran Cymru; ac

(c)yn dod i rym ar 20 Mai 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

TerfynuLL+C

2.—(1Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2015—

(a)rheoliad 44; a

(b)Atodlen 7.

(2Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2019—

(a)rheoliad 30(1)(h);

(b)rheoliad 45; ac

(c)Atodlen 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

DehongliLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd o dan reoliad 34 neu arolygydd a benodwyd o dan adran 51 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1);

mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

mae “ceffyl” (“horse”) yn cynnwys bastard mul, asyn neu ful;

ystyr “y Comisiwn Rabinaidd” (“Rabbinical Commission”) yw’r corff y cyfeirir ato yn Rhan 4 o Atodlen 3, sy’n gyfrifol am drwyddedu personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita);

ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act) yw Deddf Cigydda Dofednod 1967(2);

ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Lladd-dai 1974(3);

ystyr “iard gelanedd” (“knacker’s yard”) yw mangre a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio carcasau anifeiliaid, ond hefyd ar gyfer lladd anifeiliaid yn fasnachol at ddibenion ac eithrio’u bwyta gan bobl gan gynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ar gyfer trin a darparu gwalfeydd i’r cyfryw anifeiliaid;

ystyr “lloc ffrwyno” (“restraining pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf ar ei sefyll at y diben o’i ladd yn unol â defodau crefyddol (fel y’u diffinnir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 3), ac sydd wedi ei adeiladu a’i gymeradwyo yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3;

ystyr “lloc stynio” (“stunning pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf at y diben o’i stynio, ac sydd wedi ei adeiladu yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 1 neu baragraff 9 o Atodlen 2;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(4);

ystyr “milfeddyg awdurdodedig” (“authorised veterinary surgeon”) yw milfeddyg a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben o gyflawni asesiadau yn unol â rheoliad 16(c);

ystyr “Rheoliad UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd(5);

ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(6);

mae i “stynio syml” (“simple stunning”) yr un ystyr a roddir i “simple stunning” yn Erthygl 4(1) a rhaid dehongli “a styniwyd yn syml” (“simple stunned”) yn unol â hynny;

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded fel sy’n ofynnol gan reoliad 12;

ystyr “trwydded LlACL” (“WASK licence”) yw trwydded gofrestredig sy’n ofynnol gan, neu a roddir yn unol ag, Atodlen 1 i Reoliadau 1995;

ystyr “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi” (“evidence of training and examination”) yw—

(a)

tystysgrif a roddir gan gorff, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan Weinidogion Cymru sy’n goruchwylio’r modd yr hyfforddir ac asesir personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid a gweithrediadau perthynol, yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21,

(b)

trwydded a roddir gan y Comisiwn Rabinaidd at y diben o ladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) ac yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21, neu

(c)

cymhwyster milfeddygol ffurfiol, a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)(7), ar y cyd â chofnod datblygiad proffesiynol parhaus yr RCVS;

ystyr “tystysgrif” (“certificate”) (ac eithrio yn y term “tystysgrif dros dro” neu reoliad 41) yw tystysgrif cymhwysedd yn yr ystyr a roddir i “certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21, ac mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys fel cymhwyster sy’n gyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7);

ystyr “tystysgrif dros dro” (“temporary certificate”) yw tystysgrif cymhwysedd dros dro yn yr ystyr a roddir i “temporary certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21(5).

(2Mae i’r termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau ac ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn y Rheoliad UE yn ogystal, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i’r termau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad UE, oni phennir yn wahanol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl, neu Bennod neu Atodiad yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Bennod honno o’r Rheoliad UE neu’r Atodiad hwnnw i’r Reoliad UE.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i’r Rheoliad UE yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Yr awdurdod cymwysLL+C

4.—(1Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Rhan 2 (tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau), oni phennir yn wahanol;

(b)cymeradwyo llociau ffrwyno yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3; ac

(c)mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy—

(i)cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth yn unol ag Erthyglau 6(4), 9(1), 14(2) a 17(5);

(ii)cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall yn unol â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

(iii)gweithredu os digwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, yn unol ag [F1Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion].

(2Fel arall, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys, a hwy sy’n gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion y Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

(3Caiff Gweinidogion Cymru weithredu fel yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag—

(a)atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau, tystysgrifau dros dro neu drwyddedau o dan Ran 2; a

(b)penodi arolygwyr yn unol â rheoliad 34.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 2LL+CTystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau

PENNOD 1LL+CTystysgrifau a thystysgrifau dros dro

Gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros droLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.

(2Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyferLL+C

6.  Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw—

(a)unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir mewn lladd-dy—

(i)gweithrediad a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (g) o Erthygl 7(2); a

(ii)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio; a

(b)goruchwylio lladd anifeiliaid ffwr yn unol ag Erthygl 7(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

TystysgrifauLL+C

7.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru tystysgrif—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Amodau ar gyfer tystysgrifLL+C

8.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 44, cyflwyno tystiolaeth o hyfforddiant ac arholi mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif ar eu cyfer;

(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(6);

(d)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo; ac

(e)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Tystysgrifau dros droLL+C

9.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi tystysgrif dros dro—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Amodau ar gyfer tystysgrif dros droLL+C

10.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif dros dro ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

(b)cyflwyno tystiolaeth o gofrestru ar gwrs o hyfforddiant mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif dros dro ar eu cyfer;

(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(5)(d) a (6);

(d)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Rhoi tystysgrifau a thystysgrifau dros droLL+C

11.—(1Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—

(a)yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu

(b)yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

PENNOD 2LL+CTrwyddedau

Gofyniad i gael trwyddedLL+C

12.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 a 23(2), ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 13 ac eithrio o dan drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gweithrediadau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyferLL+C

13.  Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 12 yw unrhyw rai o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir yn rhywle ac eithrio mewn lladd-dy—

(a)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 10 (bwyta gartref yn breifat), gan berson ac eithrio perchennog yr anifail;

(b)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 11 (cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bach o ddofednod, cwningod ac ysgyfarnogod);

(c)mewn perthynas â lladd anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau ac eithrio ar gyfer eu bwyta gan bobl—

(i)ffrwyno anifeiliaid at y diben o’u stynio;

(ii)stynio anifeiliaid;

(iii)asesu effeithiolrwydd stynio;

(iv)gefynnu neu godi anifeiliaid a styniwyd, ac eithrio dofednod;

(v)gwaedu anifeiliaid byw; a

(d)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Eithriadau i’r gofyniad am drwyddedLL+C

14.  Nid yw rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

(b)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif neu’r drwydded yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

(c)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, milfeddyg;

(d)yn ymgymryd â lladd anifail mewn argyfwng;

(e)yn lladd anifail at ddiben ac eithrio diben masnachol;

(f)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd anifail yn y maes gan ddefnyddio bwled rydd;

(g)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd dofednod drwy ysigo gyddfau (pan nad oes dulliau eraill ar gael ar gyfer stynio) mewn mangre sy’n ffurfio rhan o ddaliad amaethyddol y megir y dofednod ynddi;

(h)yn lladd anifail at y diben o ddiboblogi;

(i)yn lladd cywion neu embryonau dros ben mewn gwastraff deorfa;

(j)sy’n filfeddyg yn gweithredu wrth ymarfer ei broffesiwn; neu

(k)yn lladd anifail mewn amgylchiadau sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad UE yn rhinwedd Erthygl 1(3)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

TrwyddedauLL+C

15.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru trwydded—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 16; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad trwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Amodau ar gyfer trwyddedLL+C

16.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;

(b)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;

(c)darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—

(i)yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a

(ii)bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a

(d)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Rhoi trwyddedauLL+C

17.—(1Rhaid i drwydded bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi trwydded mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw’r asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 16(c) yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu drwyddedau a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae’n rhaid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

PENNOD 3LL+CDarpariaethau gweinyddol

Gwrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwyddedLL+C

18.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu

(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwyddedLL+C

19.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro (gan gynnwys tystysgrif neu dystysgrif dros dro a roddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall) neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;

(c)nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu

(d)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;

(b)datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac

(c)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(3Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Addasu tystysgrif neu drwyddedLL+C

20.  Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gwrthod addasu tystysgrif neu drwyddedLL+C

21.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu

(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

ApelauLL+C

22.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

(3Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Trwyddedau LlACLLL+C

23.—(1Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).

(2Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—

(a)yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a

(b)yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

FfioeddLL+C

24.—(1Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.

Tabl

Colofn 1

Math o gais

Colofn 2

Ffi (£)

Cais am dystysgrif25
Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif25
Cais am addasu tystysgrif8
Cais am drwydded25
Cais am addasu trwydded8

(2Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.

(3Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—

(a)£76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;

(b)£21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac

(c)gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 3LL+CRheolau cenedlaethol

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-daiLL+C

25.  Mae Atodlen 1 yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-daiLL+C

26.  Mae Atodlen 2 yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddolLL+C

27.  Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddyntLL+C

28.  Mae Atodlen 4 yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 4LL+CRhanddirymu

Gweithrediadau diboblogiLL+C

29.  Pan fo’r awdurdod cymwys yn caniatáu rhanddirymiad o dan Erthygl 18(3), rhaid i’r awdurdod cymwys gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad hwnnw, y caniateir—

(a)ei wneud yn ddarostyngedig i amodau;

(b)ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd yr ystyria’r awdurdod cymwys yn briodol; ac

(c)ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu mewn ysgrifen.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 5LL+CTroseddau a chosbau

TroseddauLL+C

30.—(1Cyflawnir trosedd os yw person yn torri, neu’n peri neu’n caniatáu i berson dorri—

(a)rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro);

(b)rheoliad 12 (gofyniad i gael trwydded);

(c)unrhyw un o baragraffau 3 i 32 o Atodlen 1 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai);

(d)unrhyw un o baragraffau 4 i 44 o Atodlen 2 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai);

(e)unrhyw un o baragraffau 2 i 8 o Atodlen 3 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol);

(f)paragraff 4 neu 5 o Atodlen 4 (lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt);

(g)darpariaeth o’r Rheoliad UE a bennir yn Atodlen 5, ac eithrio pan nad oes angen cydymffurfio â’r ddarpariaeth, yn rhinwedd—

(i)esemptiad neu ddarpariaeth drosiannol a bennir yn y Rheoliad UE; neu

(ii)rhanddirymiad a ganiateir gan yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 18(3) mewn perthynas â gweithrediad diboblogi; neu

(h)tan 8 Rhagfyr 2019, unrhyw un o baragraffau 1 i 7 o Atodlen 8, i’r graddau y maent yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 45 (darpariaeth drosiannol: lladd-dai).

(2Cyflawnir trosedd os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi o dan reoliad 38.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Troseddau rhwystroLL+C

31.  Mae’n drosedd—

(a)rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n ymgymryd â gweithredu’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)heb esgus rhesymol, i fethu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn yn rhesymol am y cyfryw gymorth neu wybodaeth;

(c)rhoi i unrhyw berson o’r fath unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol; neu

(d)methu â dangos dogfen neu gofnod i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn am weld y cyfryw ddogfen neu gofnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

32.—(1Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod, ar ran unrhyw un o’r canlynol—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

(b)person a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

CosbauLL+C

33.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30 neu 31, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, ac eithrio fel y pennir ym mharagraff (2).

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30(1)(g) mewn perthynas â thorri Erthygl 3, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 6LL+CGorfodi

ArolygwyrLL+C

34.  Caiff yr awdurdod cymwys neu awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Pŵer i fynd i mewn i fangreoeddLL+C

35.—(1Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.

(2Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—

(a)pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;

(b)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;

(c)pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(d)pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu

(e)mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.

(4Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.

(5Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.

(6Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni’r canlynol—

(a)pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

GwarantauLL+C

36.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, ganiatáu i arolygydd fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen, os bodlonir yr ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol ar gyfer mynd i mewn i’r fangre honno at y diben o orfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)byddai gofyn am ganiatâd i fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

(c)ei bod yn ofynnol mynd i mewn ar frys; neu

(d)bod y fangre’n wag neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Pŵer i arolygu ac ymafaelLL+C

37.—(1Caiff arolygydd, a aeth i mewn i fangre at y dibenion o weithredu a gorfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—

(a)cyflawni unrhyw archwiliad, ymchwiliad neu brawf;

(b)gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi ar unrhyw weithrediad neu broses, gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu unrhyw ffotograffau;

(c)arolygu a chwilio’r fangre;

(d)cymryd samplau (a’u hanfon i’w profi mewn labordy) o unrhyw anifail, carcas neu ran o garcas;

(e)ymafael mewn unrhyw garcas neu ran o garcas, a chadw’r cyfryw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

(f)ymafael mewn unrhyw gyfarpar neu offeryn a’i gadw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

(g)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig, ac arolygu a gwirio’r data sydd arnynt, a’u gweithrediad;

(h)ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, at y diben o gopïo data; ond hynny yn unig os yw’r arolygydd yn amau’n rhesymol fod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni, ac ar yr amod y dychwelir y cyfrifiaduron a’r cyfarpar cysylltiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol;

(i)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod ac arolygu a gwneud copi neu echdynnu o’r cyfryw ddogfen neu gofnod; a

(j)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu pa bynnag gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar sy’n rhesymol.

(2Rhaid i arolygydd—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol am unrhyw eitemau yr ymafaelir ynddynt gan yr arolygydd o dan baragraff (1), dderbynneb ysgrifenedig sy’n nodi’r eitemau hynny; a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes angen yr eitemau hynny mwyach, eu dychwelyd, ac eithrio rhai sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.

(3Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac yna—

(a)penderfynir yn ddiweddarach—

(i)na ddygir achos llys; neu

(ii)nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu

(b)cwblhawyd yr achos llys ac ni wnaed gorchymyn gan y llys mewn perthynas â’r eitemau hynny,

rhaid i’r arolygydd ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Hysbysiadau gorfodiLL+C

38.—(1Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn lleihau’r gyfradd weithredu i ba bynnag raddau a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; neu

(c)yn gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri, neu ei fod yn torri, y Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)datgan bod yr arolygydd o’r farn honno;

(b)datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad;

(c)enwi derbynnydd yr hysbysiad;

(d)pennu’r materion sy’n cyfansoddi’r toriad;

(e)pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni’r toriad;

(f)pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac

(g)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.

(4Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person hwnnw ei hunan.

(5Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff yr arolygydd drefnu i gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

(6Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau os bodlonir yr arolygydd, ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gorfodi, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer unioni’r toriad.

(7Os digwydd i arolygydd beidio â chael ei fodloni fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), caiff yr arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(8Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.

(9Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodiLL+C

39.—(1Caiff person a dramgwyddwyd gan—

(a)penderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad gorfodi; neu

(b)penderfyniad arolygydd i wrthod dyroddi hysbysiad cwblhau,

apelio yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

(3Ni fydd hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad gorfodi, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wneud pa bynnag orchymyn yr ystyria’n briodol ynghylch gwrthodiad i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Pŵer awdurdod lleol i erlynLL+C

40.  Caiff awdurdod lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Terfyn amser ar gyfer erlyniadauLL+C

41.—(1Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(8), caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—

(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a

(b)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.

(2At ddibenion paragraff (1)(b)—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a

(b)rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 7LL+CDarpariaethau amrywiol

HysbysiadauLL+C

42.—(1Caniateir rhoi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw berson drwy—

(a)ei ddanfon i’r person;

(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

(2Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—

(a)yn achos corff corfforaethol, i swyddog y corff hwnnw; neu

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth.

(3At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(9) (cyflwyno dogfennau drwy’r post) yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)yn achos person y cyflwynir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth dan sylw; a

(d)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y person dan sylw.

(4Os yw person y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad o’r fath, rhaid trin y cyfeiriad hwnnw hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person hwnnw.

(5Os na ellir canfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael mewn man amlwg ynghlwm wrth adeilad neu wrthrych yn y fangre.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a

(b)mae cyfeiriadau at gyflwyno’n cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Diwygiadau canlyniadol ac atodolLL+C

43.  Mae Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol ac atodol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Darpariaeth drosiannol: tystysgrifauLL+C

44.  Mae Atodlen 7 (darpariaethau trosiannol – tystysgrifau) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Darpariaeth drosiannol: lladd-dai (llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar)LL+C

45.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â lladd-dy sy’n gweithredu yn union cyn 1 Ionawr 2013, ond nid yw’n gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw lunwedd neu adeiladwaith newydd mewn lladd-dy o’r fath (neu walfeydd cysylltiedig) a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(b)unrhyw gyfarpar newydd a ddefnyddir mewn lladd-dy o’r fath ac a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2Mewn perthynas â lladd-dy y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, tan 8 Rhagfyr 2019—

(a)nid yw Erthygl 14(1) ac Atodiad II yn gymwys; a

(b)mae Atodlen 8 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 45 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

DirymiadauLL+C

46.  Mae’r offerynnau a’r deddfiadau canlynol wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—

(a)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(10);

(b)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) 1999(11);

(c)rheoliad 10(3) o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000(12) a Rhan 3 o Atodlen 8 i’r Rheoliadau hynny; a

(d)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) (Cymru) 2007(13).

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

8 Ebrill 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources