Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/05/2014.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 25
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2. Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
3. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod gan y busnes gyfarpar a chyfleusterau addas ar gael at y diben o ddadlwytho anifeiliaid o foddion cludo;
(b)nad oes unrhyw ymylon neu allwthiadau miniog y gallai anifail ddod i gyffyrddiad â hwy;
(c)bod y man lladd wedi’i leoli mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf yr angen i drin yr anifail ar unrhyw adeg cyn ei ladd;
(d)bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, cyfarpar arall neu osodiad a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd, wedi eu dylunio, adeiladu a’u cynnal fel eu bod yn hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol; ac
(e)bod unrhyw ddiffyg a ganfyddir mewn cyfarpar wrth gefn ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei unioni ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
4. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod uchder a dyluniad y cyfarpar ar gyfer dadlwytho anifeiliaid, a ddanfonir rywfodd heblaw mewn cynwysyddion, yn addas at y diben hwnnw, gyda llawr gwrthlithro ac, os oes angen, ochrau diogelwch o boptu; a
(b)bod y rampiau ymadael a mynediad yn goleddfu cyn lleied ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
5. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod nifer digonol o lociau yn y lladd-dy i ddarparu gwalfeydd addas i’r anifeiliaid a’u diogelu rhag effeithiau amodau tywydd garw; a
(b)bod y gwalfeydd—
(i)wedi eu hawyru yn ddigonol er mwyn sicrhau y cedwir y tymheredd, lleithder cymharol yr aer a’r lefelau amonia o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifail, o ystyried yr eithafion tymheredd a lleithder y gellir eu disgwyl; a
(ii)bod ynddynt reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir yn y gwalfeydd, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
6. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—
(a)yn cael ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na fydd anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol neu niwed arall i’w iechyd; a
(b)bod ynddi reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
7. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod mynediad hwylus at unrhyw linell gefynnu neu gyfarpar prosesu a ddefnyddir ar gyfer dofednod byw, ac at reolyddion unrhyw gyfarpar o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
8. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod lloc stynio, a ddefnyddir i ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf at y diben o’u stynio wedi ei adeiladu fel ei fod—
(a)yn caniatáu caethiwo un anifail ar y tro ynddo heb beri anghysur iddo;
(b)yn rhwystro anifail a gaethiwir ynddo rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr;
(c)yn cyfyngu ar symudiad pen anifail a gaethiwir ynddo, i ganiatáu stynio manwl gywir, a chaniatáu rhyddhau pen yr anifail ar unwaith ar ôl stynio’r anifail; a
(d)yn caniatáu mynediad dirwystr at dalcen anifail a gaethiwir ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
9. Os yw’r lladd-dy yn un y lleddir ceffylau ynddo, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)y darperir ystafell neu gilfach ar wahân ar gyfer lladd ceffylau; a
(b)bod rhaid i walfa y caethiwir ceffyl ynddi gynnwys o leiaf un stâl rydd, a adeiladwyd mewn modd sy’n lleihau i’r eithaf y perygl y gall ceffyl anafu ei hunan neu unrhyw anifail arall a gaethiwir yn y walfa honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
10. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—
(a)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;
(b)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;
(c)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; a
(d)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
11. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
12. Heb leihau effaith paragraff 1.5 ac 1.11 o Atodiad III, rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—
(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a
(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
13. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—
(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;
(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered; ac
(c)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
14. Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
15. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
16. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
17. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau y darperir bwyd iddynt mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
18. Ni chaiff neb stynio na lladd anifail heb ffrwyno’r anifail mewn modd priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
19. Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 18, ni chaiff neb stynio na lladd anifail buchol llawn-dwf oni fydd yr anifail, ar yr adeg y’i stynir neu y’i lleddir, wedi ei gaethiwo mewn lloc stynio neu loc ffrwyno sydd (yn y ddau achos) mewn cyflwr gweithredol da.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
20. Nid yw’r gwaharddiad yn Erthygl 15(3)(a) (hongian neu godi anifeiliaid sy’n ymwybodol) yn gymwys yn achos dofednod, y caniateir eu hongian ar gyfer eu stynio neu’u lladd, ar yr amod y cymerir camau priodol i sicrhau bod y dofednod wedi ymlacio’n ddigonol i’w stynio neu’u lladd yn effeithiol a heb oedi’n ormodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
21.—(1) Ni chaiff neb weithredu llinell gefynnu oni bai—
(a)bod modd lleddfu unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen y mae’n ymddangos y dioddefir gan ddofednod sy’n hongian o’r gefynnau, neu dynnu dofednod o’r gefynnau; a
(b)bod cyflymder gweithredu’r llinell gefynnu yn galluogi cyflawni unrhyw weithred neu weithrediad arfaethedig, ar neu mewn perthynas â’r dofednod sy’n hongian o’r llinell gefynnu, heb frysio’n ormodol a chan roi sylw priodol i les y dofednod.
(2) Ni chaiff neb, mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod, ddefnyddio llinell gefynnu, peiriant neu gyfarpar arall, oni ddefnyddir y cyfryw mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod o’r math, y maint a’r pwysau y dyluniwyd y llinell gefynnu, y peiriant neu’r cyfarpar arall ar eu cyfer, ac eithrio mewn argyfwng pan ddefnyddir y cyfryw i leddfu dioddefaint.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
22. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod anifail y bwriedir ei stynio neu’i ladd drwy weithredu dull mecanyddol neu drydanol ar y pen, yn cael ei gyflwyno mewn safle sy’n galluogi lleoli a gweithredu’r cyfarpar yn rhwydd, yn fanwl gywir ac am yr amser priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
23.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.
(2) Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid oes modd lladd yr anifail heb oedi.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
24.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a
(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
(2) Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.
(3) Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—
(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a
(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.
(4) Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
25. Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
26.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
27. Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
28. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—
(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;
(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;
(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;
(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir; ac
(f)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
29.—(1) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.
(2) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—
(i)osgoi cywasgu brest y mochyn;
(ii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a
(iii)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;
(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;
(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd; ac
(g)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—
(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a
(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
30.—(1) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir yr aderyn.
(2) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—
(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 30% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu
(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I a’r Atodlen hon);
(b)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(c)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(d)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(e)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy; ac
(f)na roddir unrhyw ddofednod mewn gefynnau cyn eu bod yn farw.
(4) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â chymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) neu gymysgedd nwyon 4 (“nwyon adweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, sicrhau, fel y bo’n briodol, na chaiff unrhyw aderyn fynd i mewn i’r styniwr nwy—
(a)os yw’r crynodiad o ocsigen a ddangosir yn uwch na 2% yn ôl cyfaint, ac eithrio y caiff y crynodiad o ocsigen godi yn achlysurol i grynodiad o ddim mwy na 5% yn ôl cyfaint am ddim mwy na 30 eiliad; neu
(b)os yw’r crynodiad o garbon deuocsid a ddangosir yn uwch na 30% yn ôl cyfaint.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
31.—(1) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.
(2) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—
(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn; a
(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn.
(3) Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 3.2 o Atodiad III, pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;
(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu
(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
32. Ni chaiff neb ladd ceffyl—
(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd ar gyfer lladd ceffylau yn unol â pharagraff 9(a);
(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu
(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Rheoliad 26
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2.—(1) Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r canlynol—
(a)lladd anifeiliaid mewn iard gelanedd;
(b)lladd dofednod neu gwningod ar y fferm at y diben o gyflenwi meintiau bach o gig gan y cynhyrchwr yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi cig o’r fath yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol fel cig ffres yn unol ag Erthygl 11; ac
(c)lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dy neu yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
(2) Ond yn achos anifeiliaid a leddir yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c)—
(a)nid yw Rhannau 2 a 3 yn gymwys; a
(b)nid yw Rhan 4 yn gymwys oni leddir yr anifail drwy waedu.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
3.—(1) Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i’r canlynol—
(a)lladd anifail mewn lladd-dy;
(b)lladd anifail at y diben o reoli clefyd, oni chaiff ei stynio gan follt gaeth dreiddiol neu drydanu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail yn unol â pharagraffau 34, 37 neu 38 o Ran 5 (yn ôl fel y digwydd);
(c)lladd mochyn, dafad neu afr gan berchennog yr anifail ar gyfer ei fwyta gartref yn breifat gan y perchennog, oni chaiff yr anifail ei ladd drwy waedu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail a’i waedu yn unol â Rhan 5; neu
(d)lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed neu embryonau mewn gwastraff deorfa, ar yr amod y cydymffurfir â pharagraff 44.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “rheoli clefyd” (“disease control”) yw rheoli, gan yr awdurdod cymwys, unrhyw glefyd sy’n hysbysadwy gan neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) neu’n unol ag unrhyw rwymedigaeth UE.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
4. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod gan y busnes gyfarpar a chyfleusterau addas ar gael at y diben o ddadlwytho anifeiliaid o foddion cludo;
(b)nad oes unrhyw ymylon neu allwthiadau miniog y gallai anifail ddod i gyffyrddiad â hwy;
(c)bod y man lladd wedi’i leoli mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf yr angen i drin yr anifail ar unrhyw adeg cyn ei ladd;
(d)bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, cyfarpar arall neu osodiad a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd, wedi eu dylunio, adeiladu a’u cynnal fel eu bod yn hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol; ac
(e)bod unrhyw ddiffyg a ganfyddir mewn cyfarpar wrth gefn ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei unioni ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
5. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod uchder a dyluniad y cyfarpar ar gyfer dadlwytho anifeiliaid, a ddanfonir rywfodd heblaw mewn cynwysyddion, yn addas at y diben hwnnw, gyda llawr gwrthlithro ac, os oes angen, ochrau diogelwch o boptu;
(b)y gosodir ochrau, rheiliau neu fath arall o foddion diogelu ar unrhyw bontydd, rampiau a phomprennau, i atal anifeiliaid rhag syrthio oddi arnynt;
(c)bod y rampiau ymadael a mynediad yn goleddfu cyn lleied ag y bo modd; a
(d)bod pob tramwyfa wedi ei hadeiladu mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf y risg o niwed i anifail, ac wedi ei threfnu gan roi sylw i dueddiadau heidiol yr anifeiliaid sy’n defnyddio’r tramwyfeydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
6. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod nifer digonol o lociau yn y fangre i ddarparu gwalfeydd addas i’r anifeiliaid a’u diogelu rhag effeithiau amodau tywydd garw; a
(b)bod gan y gwalfeydd—
(i)llawr sy’n lleihau i’r eithaf y risg o lithro, ac nad yw’n achosi anaf i unrhyw anifail a ddaw i gyffyrddiad ag ef;
(ii)dull awyru digonol, sy’n sicrhau bod y tymheredd, lleithder cymharol yr aer a’r lefelau amonia yn cael eu cadw o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifail, o ystyried yr eithafion tymheredd a lleithder y gellir eu disgwyl;
(iii)os nad awyru naturiol yw’r dull awyru a ddarperir, dull wrth gefn ar gael i gynnal awyru digonol, i’w defnyddio pe bai’r ffynhonnell awyru wreiddiol yn diffygio;
(iv)goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg;
(v)pan fo angen, cyfarpar addas ar gyfer rhwymo anifeiliaid; a
(vi)cyfleusterau yfed a rheseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau a bwydo’r holl anifeiliaid a gaethiwir yn y gwalfeydd, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
7. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—
(a)os nad oes ynddi fannau cysgodi neu gysgod naturiol, ac os defnyddir hi yn ystod amodau tywydd garw, yn cynnwys amddiffynfa briodol i unrhyw anifail sy’n ei defnyddio rhag amodau o’r fath;
(b)wedi ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na roddir unrhyw anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol, neu niwed arall i’w iechyd;
(c)pan fo angen, yn cynnwys cyfarpar addas ar gyfer rhwymo anifeiliaid;
(d)yn cynnwys goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) sydd ar gael fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; ac
(e)yn cynnwys cyfleusterau yfed, a phan fo angen, rheseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau a bwydo’r holl anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
8. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod unrhyw linell gefynnu wedi’i dylunio a’i lleoli mewn ffordd sy’n cadw’r dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw rwystrau, ac yr ymyrrir cyn lleied ag y bo modd â’r adar;
(b)bod hyd cyfan y llinell gefynnu, hyd at y pwynt mynediad i’r tanc sgaldio, o fewn cyrraedd i unrhyw berson yn ddi-oed, fel y gellir rhoi sylw i unrhyw ddofednod ar unwaith pe bai angen; a
(c)bod modd cael mynediad yn hwylus at unrhyw linell gefynnu neu gyfarpar prosesu a ddefnyddir ar gyfer dofednod byw, ac at unrhyw reolyddion cyfarpar o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
9. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod lloc stynio a ddefnyddir i ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf at y diben o’u stynio wedi ei adeiladu fel ei fod——
(a)yn caniatáu caethiwo un anifail ar y tro ynddo heb beri anghysur iddo;
(b)yn rhwystro anifail a gaethiwir ynddo rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr;
(c)yn cyfyngu ar symudiad pen anifail a gaethiwir ynddo, i ganiatáu stynio manwl gywir, a chaniatáu rhyddhau pen yr anifail ar unwaith ar ôl stynio’r anifail; a
(d)yn caniatáu mynediad dirwystr at dalcen anifail a gaethiwir ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
10. Os yw iard gelanedd yn un y lleddir ceffylau ynddi, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)y darperir ystafell neu gilfach ar wahân ar gyfer lladd ceffylau;
(b)bod rhaid i walfa y caethiwir ceffyl ynddi gynnwys o leiaf un stâl rydd, a adeiladwyd mewn modd sy’n lleihau i’r eithaf y perygl y gall unrhyw geffyl anafu ei hunan neu unrhyw anifail arall a gaethiwir yn y walfa honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
11. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—
(a)y dadlwythir pob anifail cyn gynted ag y bo modd wedi iddo gyrraedd;
(b)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;
(c)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;
(d)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; ac
(e)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
12. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
13. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—
(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a
(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
14. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau na chaiff anifail sy’n analluog i gerdded ei lusgo i’r man lle y’i lleddir, ond yn hytrach—
(a)y’i lleddir yn y man lle mae’n gorwedd; neu
(b)os yw’n bosibl ac os na fyddai gwneud hynny yn achosi unrhyw boen neu ddioddefaint diangen i’r anifail, ei gludo ar droli neu lwyfan symudol i fan ar gyfer lladd mewn argyfwng, a’i ladd ar unwaith yno.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
15. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—
(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;
(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered;
(c)os na leddir anifail ar unwaith wedi iddo gyrraedd, y darperir gwalfa iddo; ac
(d)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
16. Ni chaiff neb godi na llusgo anifail gerfydd ei ben, ei gyrn, ei glustiau, ei draed, ei gynffon, ei gnu neu unrhyw ran arall o’i gorff mewn ffordd a fydd yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i’r anifail.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
17. Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
18. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
19. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
20. Ni chaiff neb ddefnyddio offeryn sy’n rhoi sioc drydanol er mwyn gwneud i anifail symud, ac eithrio y caniateir defnyddio offeryn o’r fath, a ddyluniwyd at y diben o wneud i anifail symud, ar anifeiliaid buchol llawn-dwf a moch llawn-dwf sy’n gwrthod symud, ar yr amod—
(a)yr osgoir defnyddio offeryn o’r fath i’r graddau mwyaf posibl;
(b)na fydd y siociau’n parhau am fwy nag un eiliad ar y tro, y bydd bylchau digonol rhyngddynt ac na chânt eu defnyddio droeon yn olynol os nad yw’r anifail yn ymateb;
(c)bod digon o le o flaen yr anifail, i’r anifail symud iddo; a
(d)mai ar gyhyrau’r bedrain yn unig y rhoddir siociau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
21. Ni chaiff neb—
(a)taro, na rhoi pwysau ar, unrhyw ran o gorff anifail sy’n arbennig o sensitif;
(b)gwasgu, troi neu dorri cynffon anifail, neu gydio yn llygad anifail; neu
(c)taro neu gicio anifail.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
22. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau—
(a)y darperir cyflenwad digonol o ddeunydd gorwedd addas ar gyfer pob anifail a gedwir mewn gwalfa dros nos, oni bai bod gan y walfa lawr slatiog neu rwyllog;
(b)bod dŵr yfed ar gael o gyfleusterau priodol drwy gydol yr amser i anifail a gedwir mewn gwalfa;
(c)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail;
(d)y darperir y bwyd mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen;
(e)y gall anifail a gedwir mewn gwalfa heb ei rwymo orwedd, sefyll a throi rownd yn ddidrafferth; ac
(f)y gall anifail a gedwir wedi ei rwymo mewn gwalfa orwedd a sefyll yn ddidrafferth.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
23. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—
(a)bod unrhyw gynhwysydd y cludir anifail ynddo yn cael ei drin â gofal ac na chaiff ei daflu, ei ollwng na’i daro drosodd;
(b)pan fo modd, y llwythir ac y dadlwythir y cynhwysydd yn llorweddol ac yn fecanyddol;
(c)bod unrhyw anifail a ddanfonir mewn cynhwysydd sydd â gwaelod trydyllog neu hyblyg iddo yn cael ei ddadlwytho â gofal arbennig er mwyn osgoi unrhyw anaf; a
(d)pan fo’n briodol, y dadlwythir anifeiliaid o gynwysyddion fesul un.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
24. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu drin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—
(a)bod anifeiliaid a gludwyd mewn cynwysyddion yn cael eu lladd cyn gynted ag y bo modd; ac
(b)os digwydd unrhyw oedi cyn eu lladd ac os bydd angen—
(i)bod dŵr yfed ar gael i’r anifeiliaid o gyfleusterau addas drwy gydol yr amser; a
(ii)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
25. Rhaid i weithredwr y busnes, neu berson sydd â gofal o unrhyw fangre lle y cynigir dofednod ar werth, neu y dangosir dofednod ar gyfer eu gwerthu cyn eu lladd yn y fangre honno, sicrhau bod y dofednod, yn ddi-oed pan gyrhaeddant y fangre—
(a)yn cael eu rhoi mewn llety lle y gallant sefyll, troi rownd ac estyn eu hadenydd yn ddidrafferth; a
(b)y darperir cyflenwad digonol o fwyd iachus a dŵr yfed glân iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
26. Ni chaiff neb stynio na lladd anifail heb ffrwyno’r anifail mewn modd priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
27. Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 26, ni chaiff neb stynio anifail buchol llawn-dwf mewn iard gelanedd oni fydd yr anifail, ar yr adeg y caiff ei stynio—
(a)wedi ei gaethiwo mewn lloc stynio sydd mewn cyflwr gweithredol da; neu
(b)gyda’i ben ynghlwm yn ddiogel, mewn safle sy’n galluogi stynio’r anifail heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
28. Ni chaiff neb ddefnyddio cyfarpar stynio neu gyfarpar lladd trydanol nac unrhyw offeryn arall sy’n defnyddio cerrynt trydanol ar anifail—
(a)fel modd i ffrwyno’r anifail;
(b)fel modd i lonyddu’r anifail; neu
(c)ac eithrio’n unol â pharagraff 20 o’r Atodlen hon, fel modd i wneud i’r anifail symud.
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
29. Ni chaiff neb glymu coesau anifail.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
30.—(1) Ni chaiff neb hongian anifail cyn ei stynio neu’i ladd.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos dofednod, y caniateir eu hongian ar gyfer eu stynio neu’u lladd, ar yr amod—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y dofednod, ar yr adeg y cânt eu stynio neu’u lladd wedi ymlacio’n ddigonol i’w stynio neu’u lladd yn effeithiol a heb oedi’n ormodol; a
(b)na chaiff dofednod eu hongian am gyfnod hwy na 3 munud yn achos tyrcwn, neu 2 funud mewn achosion eraill, cyn eu stynio neu’u lladd.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
31.—(1) Ni chaiff neb weithredu llinell gefynnu—
(a)oni chedwir y dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw wrthrych a allai achosi poen, trallod neu ddioddefaint diangen iddynt, gan gynnwys pan fo’u hadenydd ar led, hyd nes cânt eu stynio;
(b)onid oes modd lleddfu unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen y mae’n ymddangos y dioddefir gan ddofednod sy’n hongian o’r gefynnau, neu dynnu dofednod o’r gefynnau; ac
(c)onid yw cyflymder gweithredu’r llinell gefynnu yn galluogi cyflawni unrhyw weithred neu weithrediad arfaethedig, ar neu mewn perthynas â’r dofednod sy’n hongian o’r llinell gefynnu, heb frysio’n ormodol a chan roi sylw priodol i les y dofednod.
(2) Ni chaiff neb, mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod, ddefnyddio llinell gefynnu, peiriant neu gyfarpar arall, oni ddefnyddir y cyfryw mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod o’r math, y maint a’r pwysau y dyluniwyd y llinell gefynnu, y peiriant neu’r cyfarpar arall ar eu cyfer, ac eithrio mewn argyfwng pan ddefnyddir y cyfryw i leddfu dioddefaint.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
32. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod anifail, y bwriedir ei stynio neu ei ladd drwy weithredu dull mecanyddol neu drydanol ar y pen, yn cael ei gyflwyno mewn safle sy’n galluogi lleoli a gweithredu’r cyfarpar yn hawdd, yn fanwl gywir ac am yr amser priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
33.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.
(2) Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid yw’n bosibl lladd yr anifail heb oedi.
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
34.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a
(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
(2) Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.
(3) Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—
(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a
(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.
(4) Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
35. Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
36.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
37.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
(2) Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail unigol oni fydd y cyfarpar—
(a)yn cynnwys dyfais glywadwy neu weladwy sy’n dangos am faint o amser y defnyddir y cyfarpar ar yr anifail; a
(b)wedi ei gysylltu â dyfais sy’n dangos y foltedd a’r cerrynt o dan lwyth ac wedi ei gosod lle y gall y gweithredwr ei gweld yn eglur.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
38. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—
(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;
(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;
(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;
(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir;
(f)nad yw’r styniwr bath dŵr yn gorlifo yn y fynedfa, neu, os na ellir osgoi gorlifiad, y cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw ddofednod yn cael sioc drydanol cyn eu stynio;
(g)bod yr electrod sydd o dan wyneb y dŵr yn ymestyn am hyd cyfan y bath dŵr; ac
(h)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
39.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail y tu allan i ladd-dy drwy ddod â’r anifail i gysylltiad â nwy.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys o ran stynio—
(a)moch mewn iard gelanedd, neu
(b)dofednod,
ar yr amod bod y moch neu’r dofednod yn cael eu stynio yn unol â pharagraffau 40 neu 41, fel y bo’n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
40.—(1) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.
(2) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â chymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—
(i)osgoi anaf i unrhyw fochyn;
(ii)osgoi cywasgu brest unrhyw fochyn;
(iii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a
(iv)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;
(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;
(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(g)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—
(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a
(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); ac
(h)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.
(4) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—
(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a
(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
41.—(1) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy—
(a)oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y’i lleddir; a
(b)mewn achos o stynio dofednod yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) o’r Atodlen hon, onid yw—
(i)y stynio yn digwydd yn y fangre lle cedwid y dofednod i gynhyrchu cig, wyau neu gynhyrchion eraill; a
(ii)perchennog y dofednod wedi hysbysu’r awdurdod cymwys mewn ysgrifen ymlaen llaw, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae’r stynio yn digwydd.
(2) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—
(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 20% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 5% yn ôl cyfaint neu’n is;
(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu
(c)cymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo dofednod drwy’r nwy, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal i osgoi anaf i unrhyw aderyn;
(b)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(c)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(d)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(e)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—
(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a
(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(g)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy;
(h)bod dofednod sy’n cyrraedd y styniwr nwy mewn crât cludo ac a dynnir allan o’r crât cyn mynd i mewn i’r styniwr nwy yn cael eu trin yn ofalus mewn ffordd nad yw’n achosi unrhyw boen, trallod na dioddefaint diangen; ac
(i)na wneir dim pellach i aderyn ar ôl ei roi mewn cysylltiad â’r nwy cyn cadarnhau bod yr aderyn yn farw.
(4) Ni chaiff neb weithredu styniwr nwy a wnaed allan o sied dofednod neu adeilad arall a seliwyd ymlaen llaw ar gyfer stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy, ac eithrio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol milfeddyg.
(5) Yn is-baragraff (4), ystyr “sied dofednod” (“poultry shed”) yw adeilad a ddyluniwyd ac a adeiladwyd i letya dofednod, ac a seliwyd ymlaen llaw fel bod modd iddo gynnwys y cymysgeddau nwyon yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
42.—(1) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.
(2) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—
(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn;
(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn; ac
(c)yn cael ei gyflawni drwy dorri’r ddwy rydweli garotid neu’r pibellau gwaed y maent yn tarddu ohonynt.
(3) Pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;
(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu
(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.
(5) Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a phithio, neu am stynio yn syml, gefynnu, codi a gwaedu anifeiliaid ac eithrio adar neu gwningod, neu ar gyfer rhai o’r gweithrediadau hynny, rhaid i’r cyfryw weithrediadau gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un anifail, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag anifail arall.
(6) Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a gwaedu adar neu gwningod, rhaid i’r gweithrediadau hynny gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un aderyn neu gwningen, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag aderyn neu gwningen arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
43. Ni chaiff neb ladd ceffyl mewn iard gelanedd—
(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd at y diben hwnnw yn unol â pharagraff 10(a);
(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu
(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
44.—(1) Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa, ac eithrio drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol—
(a)malu yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I;
(b)drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon yn unol â Thabl 3 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I a’r paragraff hwn; neu
(c)pan nad oes dull arall ar gael i’w lladd, ysigo gyddfau yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I.
(2) Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon oni roddir y cywion yn y cymysgedd nwyon a’u bod yn aros yn y cymysgedd nwyon nes byddant farw.
(3) Rhaid lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa mor gyflym ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Rheoliad 27
1. Yn yr Atodlen hon—
(a)ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw ych, eidion, buwch, heffer, bustach neu lo;
(b)ystyr “aderyn” (“bird”) yw twrci, ffowlyn domestig, iâr gini, hwyaden, gŵydd, neu sofliar;
(c)ystyr “lladd yn unol â defodau crefyddol” (“killing in accordance with religious rites”) yw lladd heb achosi dioddefaint diangen—
(i)yn y dull Iddewig (Shechita) ar gyfer bwyd Iddewon gan Iddew a drwyddedwyd gan y Comisiwn Rabinaidd ac sy’n dal tystysgrif at y diben hwnnw, neu
(ii)yn y dull Mwslimaidd (Halal) ar gyfer bwyd Mwslimiaid gan Fwslim sy’n dal tystysgrif at y diben hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2.—(1) Ni chaiff neb ladd anifail yn unol â defodau crefyddol heb ei stynio ymlaen llaw, onid yw’r anifail yn ddafad, gafr, anifail buchol neu aderyn a leddir mewn lladd-dy yn unol â’r Atodlen hon.
(2) Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i ladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol pan fo’r anifeiliaid wedi eu stynio cyn eu lladd, ond mewn achosion o’r fath, rhaid ffrwyno a stynio’r anifail yn unol â’r Rheoliad UE ac Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff neb ladd anifail buchol llawn-dwf yn unol â defodau crefyddol mewn lladd-dy heb stynio’r anifail ymlaen llaw, oni chaiff yr anifail ei ffrwyno ar ei ben ei hunan ac ar ei sefyll mewn lloc ffrwyno a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod cymwys ac y bodlonwyd yr awdurdod cymwys ei fod wedi ei osod mewn modd sy’n sicrhau y bydd yn gweithredu’n effeithlon.
(2) Ni chaiff yr awdurdod cymwys roi cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) oni fodlonir yr awdurdod cymwys y gall maint a dyluniad y lloc a’r modd y gellir ei weithredu ddiogelu anifail buchol llawn-dwf rhag dioddef poen, dioddefaint, aflonyddwch, anafiadau neu gleisiau diangen pan gaethiwir yr anifail ynddo neu wrth fynd i mewn iddo, ac yn benodol, oni fodlonir yr awdurdod cymwys fod y lloc—
(a)yn cynnwys modd effeithiol i ffrwyno anifail buchol a gaethiwir ynddo (ynghyd ag atalydd addas ar gyfer y pen, at y diben hwnnw);
(b)yn cynnwys modd i gynnal pwysau’r anifail buchol yn ystod ei ladd ac yn dilyn hynny;
(c)yn caniatáu caethiwo un anifail buchol ar y tro ynddo, heb achosi anghysur i’r anifail; a
(d)yn rhwystro anifail buchol rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr, unwaith y’i gosodir yn ei le ar gyfer ei ladd.
(3) Bydd lloc ffrwyno a gymeradwywyd o dan baragraff 3 o Atodlen 12 i Reoliadau 1995, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, yn dod yn lloc ffrwyno a gymeradwyir at ddibenion is-baragraffau (1) a (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
4. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod y moddion ar gyfer ffrwyno a chynnal pwysau anifail buchol llawn-dwf, a gaethiwir mewn lloc ffrwyno ac a ddisgrifir ym mharagraff 3(2)(a) a (b), yn cael eu defnyddio mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol a gaethiwir yn y lloc;
(b)y cedwir y lloc ffrwyno mewn cyflwr gweithredol da; ac
(c)os yw’r lloc wedi ei addasu ar ôl ei gymeradwyo gan yr awdurdod cymwys, na ddefnyddir y lloc drachefn hyd nes cymeradwyir y lloc o’r newydd gan yr awdurdod cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
5. Rhaid i unrhyw berson sy’n lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw—
(a)sicrhau y lleddir yr anifail drwy dorri ei ddwy rydweli garotid yn ogystal â gwythiennau’r gwddf, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a
(b)yn union cyn lladd, arolygu’r gyllell sydd i’w defnyddio, er mwyn sicrhau—
(i)nad yw wedi ei difrodi; a
(ii)ei bod yn ddigon mawr a llym i ladd y ddafad, gafr neu anifail buchol yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
6.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau—
(a)na roddir yr anifail yn y cyfarpar ffrwyno onid yw’r person a fydd yn lladd yr anifail yn barod i wneud y toriad yn union ar ôl rhoi’r anifail yn y cyfarpar; a
(b)bod cyfarpar stynio addas wrth gefn ar gael a gedwir gerllaw’r cyfarpar ffrwyno, i’w ddefnyddio mewn argyfwng ac i’w ddefnyddio ar unwaith os achosir unrhyw boen, dioddefaint neu aflonyddwch diangen i’r anifail neu os oes ganddo unrhyw anafiadau neu gleisiau.
(2) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r anifail wedi ei stynio cyn ei waedu, na osodir yr anifail mewn gefynnau, ei godi na’i symud mewn unrhyw fodd hyd nes bo’n anymwybodol, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos dafad neu afr, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad, a
(b)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad,
ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
7. Rhaid i unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r aderyn ymlaen llaw—
(a)sicrhau y lleddir yr aderyn drwy dorri ei ddwy rydweli garotid, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a
(b)bod y gyllell sydd i’w defnyddio ar gyfer lladd—
(i)heb ei difrodi; a
(ii)yn ddigon mawr a llym i ladd pob aderyn yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
8. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r aderyn wedi ei stynio cyn ei waedu, na chyflawnir unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr aderyn ac na roddir unrhyw ysgogiad trydanol iddo os yw’n dangos unrhyw arwydd o fywyd, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud; a
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad,
ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
9.—(1) Rhaid i’r Comisiwn Rabinaidd ar gyfer trwyddedu personau i ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) gynnwys cadeirydd parhaol a naw aelod arall.
(2) Rhaid i’r cadeirydd parhaol, yn rhinwedd y swydd honno, fod yn Brif Rabi Cynulleidfaoedd Hebreaidd Unedig Prydain Fawr a’r Gymanwlad.
(3) O blith aelodau eraill y Comisiwn Rabinaidd, ac eithrio’r cadeirydd parhaol—
(a)rhaid i un, sef yr is-gadeirydd, gael ei benodi gan y Synagog Sbaenaidd a Phortiwgeaidd (Llundain);
(b)rhaid i dri gael eu penodi gan y Beth Din a benodir gan y Synagog Unedig (Llundain);
(c)rhaid i ddau gael eu penodi gan y Ffederasiwn Synagogau (Llundain);
(d)rhaid i un gael ei benodi gan Undeb y Cynulleidfaoedd Hebreaidd Uniongred (Llundain); ac
(e)rhaid i ddau gael eu penodi gan Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain i gynrychioli cynulleidfaoedd rhanbarthol.
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
10.—(1) Mae swyddogaethau’r Comisiwn Rabinaidd yn arferadwy er gwaethaf unrhyw le gwag ymhlith yr aelodau.
(2) Cworwm y Comisiwn Rabinaidd yw pedwar.
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Rheoliad 28
1. Yn yr Atodlen hon—
(a)ystyr “anifail” (“animal”) yw—
(i)ymlusgiaid ac amffibiaid;
(ii)infertebratau; neu
(iii)dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a leddir yn rhywle heblaw mewn lladd-dy, gan eu perchennog ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog; a
(b)mae i’r termau “lladd”, dofednod”, “ffrwyno” a “stynio”, yn eu trefn, yr un ystyron a roddir i’r termau “killing”, “poultry”, “restraint” a “stunning” yn y Rheoliad UE.
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2. Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mae’r Atodlen hon yn gymwys i ladd anifeiliaid sy’n cael eu bridio neu’u cadw i gynhyrchu cig, crwyn neu gynhyrchion eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
3. Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys i anifeiliaid a leddir—
(a)o ganlyniad i unrhyw weithred a wneir yn gyfreithlon o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. ;
(b)yn ystod gweithgareddau hela neu bysgota hamdden; neu
(c)yn ystod digwyddiadau chwaraeon.
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
4.—(1) Ni chaiff neb sy’n ymwneud â ffrwyno, stynio neu ladd anifail—
(a)achosi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen i’r anifail hwnnw; neu
(b)caniatáu i’r anifail hwnnw brofi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen.
(2) Ni chaiff neb ymwneud â ffrwyno, stynio neu ladd anifail onid oes gan y person hwnnw’r wybodaeth a’r medrusrwydd angenrheidiol i gyflawni’r gweithrediadau hynny heb beri dioddefaint diangen ac yn effeithlon.
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
5. Rhaid i ddofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a waedir gan eu perchennog y tu allan i ladd-dy, ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog—
(a)cael eu stynio cyn eu gwaedu yn unol â’r dulliau a’r gofynion penodol ym Mhenodau I a II o Atodiad I, a phan fo’n briodol, Rhan 5 o Atodlen 2; a
(b)cael eu gwaedu yn ddi-oed ar ôl eu stynio.
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Rheoliad 30(1)(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Colofn 1 Darpariaeth o’r Rheoliad UE sy’n cynnwys gofyniad lles | Colofn 2 Pwnc |
---|---|
Erthygl 3(1) | Gofyniad cyffredinol i arbed anifail rhag poen, trallod neu ddioddefaint diangen. |
Erthygl 3(2) | Mesurau i ddiogelu anifeiliaid rhag poen, trallod neu ddioddefaint diangen. |
Erthygl 3(3) | Cyfleusterau ar gyfer lladd a gweithrediadau cysylltiedig. |
Erthygl 4(1) ac Atodiad I | Dulliau stynio. |
Erthygl 5(1) | Gwiriadau ar stynio. |
Erthygl 5(2) | Gwiriadau ar anifeiliaid a leddir yn unol â defodau crefyddol. |
Erthygl 6(1) a (2) | Gweithdrefnau gweithredu safonol. |
Erthygl 7(1) | Lefel cymhwysedd. |
Erthygl 7(3) | Lladd anifeiliaid ffwr. |
Erthygl 8 | Gwerthu cyfarpar ffrwyno neu stynio. |
Erthygl 9(1) | Cynnal cyfarpar ffrwyno a stynio. |
Erthygl 9(2) | Cyfarpar stynio wrth gefn. |
Erthygl 9(3) | Rhoi anifeiliaid mewn cyfarpar ffrwyno. |
Erthygl 12 | Cig a fewnforir o drydedd gwledydd. |
Erthygl 14(1) ac Atodiad II | Llunwedd ac adeiladwaith lladd-dai a’r cyfarpar sydd ynddynt. |
Erthygl 15(1) ac Atodiad III | Gweithrediadau trin a ffrwyno |
Erthygl 15(2) | Ffrwyno anifeiliaid a leddir yn unol â defodau crefyddol. |
Erthygl 15(3) | Dulliau ffrwyno a waherddir. |
Erthygl 16(1) i (4) | Gweithdrefnau monitro. |
Erthygl 17(1) i (5) | Swyddog Lles Anifeiliaid. |
Erthygl 19 | Lladd mewn argyfwng. |
Rheoliad 43
1.—(1) Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “rheolaethau”—
(a)o flaen “mewn lladd-dai”, mewnosoder “yn unol â Rheoliad 854/2004,”; a
(b)yn lle “Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995” rhodder “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014”.
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Rheoliad 44
1.—(1) Caiff person gyflawni gweithrediad a bennir yn is-baragraff (2) ar gategori o anifail mewn lladd-dy heb fod yn ddeiliad tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro os oedd y person hwnnw’n ymwneud â chyflawni’r gweithrediad hwnnw ar y categori hwnnw o anifail yn union cyn 1 Ionawr 2013.
(2) Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno;
(b)lladd anifail gan ddefnyddio bwled rydd yn y maes; ac
(c)gefynnu dofednod cyn eu stynio.
(3) Mae is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys ar y dyddiad y mae’r awdurdod cymwys yn rhoi ac yn cofrestru (neu’n gwrthod rhoi) tystysgrif neu dystysgrif dros dro i’r person hwnnw mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw ar y categori hwnnw o anifail, neu ar 8 Rhagfyr 2015, pa un bynnag fo’r cynharaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n gwneud cais am dystysgrif cyn 8 Rhagfyr 2015 ac, ar y dyddiad y gwneir y cais, sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail a (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir y dystysgrif mewn cysylltiad â hwy.
(2) Nid yw’n ofynnol bod person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio â rheoliad 8(b) os yw’r person hwnnw—
(a)yn dangos, er boddhad i’r awdurdod cymwys, bod ganddo, ar y dyddiad y gwneir y cais, o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail a (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir y dystysgrif mewn cysylltiad â hwy; a
(b)yn darparu datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg, bod y person hwnnw, ym marn y milfeddyg, yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Rheoliad 45
1. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)y gosodir ochrau, rheiliau neu fath arall o foddion diogelu ar unrhyw bontydd, rampiau neu bomprennau, i atal anifeiliaid rhag syrthio oddi arnynt; a
(b)bod pob tramwyfa wedi ei hadeiladu mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf y risg o niwed i anifail, ac wedi ei threfnu gan roi sylw i dueddiadau heidiol yr anifeiliaid sy’n defnyddio’r tramwyfeydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gan unrhyw walfa, ac eithrio gwalfa mewn cae—
(a)llawr sy’n lleihau i’r eithaf y risg o lithro, ac nad yw’n achosi anaf i unrhyw anifail a ddaw i gyffyrddiad ag ef;
(b)os nad awyru naturiol yw’r dull awyru a ddarperir, dull wrth gefn ar gael i gynnal awyru digonol, i’w defnyddio pe bai’r ffynhonnell awyru wreiddiol yn diffygio;
(c)goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; a
(d)cyfleusterau yfed digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
3. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod unrhyw walfa mewn cae—
(a)os nad oes ynddi fannau cysgodi neu gysgod naturiol, ac os defnyddir hi yn ystod amodau tywydd garw, yn cynnwys amddiffynfa briodol i unrhyw anifail sy’n ei defnyddio rhag amodau o’r fath;
(b)yn cynnwys goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; ac
(c)yn cynnwys cyfleusterau yfed digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
4. Yn achos lladd-dy y lleddir dofednod ynddo, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod unrhyw linell gefynnu wedi’i dylunio a’i lleoli mewn ffordd sy’n cadw’r dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw rwystrau, ac yr ymyrrir cyn lleied ag y bo modd â’r adar;
(b)na chaiff dofednod eu hongian am gyfnod hwy na 3 munud yn achos tyrcwn neu 2 funud ym mhob achos arall, cyn eu stynio; ac
(c)bod hyd cyfan y llinell gefynnu, hyd at y pwynt mynediad i’r tanc sgaldio, o fewn cyrraedd i unrhyw berson yn ddi-oed, fel y gellir rhoi sylw i unrhyw ddofednod pe bai angen.
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
5. Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail unigol oni fydd y cyfarpar—
(a)yn cynnwys dyfais glywadwy neu weladwy sy’n dangos am faint o amser y defnyddir y cyfarpar ar yr anifail; a
(b)wedi ei gysylltu â dyfais sy’n dangos y foltedd a’r cerrynt o dan lwyth ac wedi ei gosod lle y gall y gweithredwr ei gweld yn eglur.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
6. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr oni bai—
(a)bod yr electrod sydd o dan wyneb y dŵr yn ymestyn am hyd cyfan y bath dŵr; a
(b)nad yw’r styniwr bath dŵr yn gorlifo yn y fynedfa, neu, os na ellir osgoi gorlifiad, y cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw ddofednod yn cael sioc drydanol cyn eu stynio.
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
7. Ni chaiff neb stynio moch na dofednod drwy ddod â’r moch neu’r dofednod i gysylltiad â nwy onid yw’r styniwr nwy a ddarperir at y diben hwnnw, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo’r moch neu’r dofednod drwy’r nwy, wedi—
(a)ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn osgoi unrhyw anaf i fochyn neu aderyn; a
(b)yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—
(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a
(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I).
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: