Search Legislation

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

RHAN GAR ÔL Y GWRANDAWIAD

Cais neu gynnig am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys

48.—(1Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys i benderfyniad gan y Tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—

(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,

(b)bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos, neu

(c)bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad.

(2Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Tribiwnlys gael ei wneud—

(a)mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau,

(b)ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.

(3Caiff y Llywydd—

(a)ar gais parti o dan baragraff (1), neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys, ar un o’r seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1),

(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys yn unol â pharagraff (5).

(4Rhaid i’r Llywydd, os yw’n gosod penderfyniad panel tribiwnlys o’r neilltu o dan baragraff (3), orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron panel tribiwnlys sydd wedi ei gyfansoddi’n wahanol.

(5Hyd yn oed os yw’r Llywydd wedi ei argyhoeddi fod un neu fwy o’r seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) wedi eu dangos, caiff wrthod y cais am adolygiad neu ran ohono, os, ym marn y Llywydd, bydd buddiannau cyfiawnder yn cyfiawnhau hynny.

(6Rhaid i’r Llywydd, cyn caniatáu cais am adolygiad roi cyfle i’r partïon gael eu clywed ganddo.

(7Os bydd penderfyniad yn cael ei osod o’r neilltu neu os bydd penderfyniad yn cael ei amrywio yn dilyn adolygiad o dan y rheol hon, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a hysbysu’r partïon o hynny.

Adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys i beidio ag estyn y cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer cychwyn achos

49.—(1Gall penderfyniad gan y Tribiwnlys i beidio ag estyn yr amser sy’n cael ei ganiatáu o dan reol 11 ar gyfer cyflwyno hysbysiad cais, gael ei adolygu o dan reol 48, ar gais person, fel pe bai’r person hwnnw’n barti i’r cais.

(2Os bydd cais am adolygiad o dan baragraff (1) yn cael ei wneud, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o’r cais i’r Comisiynydd a rhoi i’r Comisiynydd hysbysiad yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig.

Ystyried cais am ganiatâd i apelio i’r Uchel Lys

50.—(1Pan ddaw i law cais o dan adrannau 59, 97, 101 neu 105 o’r Mesur am ganiatâd i apelio i’r Uchel Lys, rhaid i’r Llywydd ystyried, yn gyntaf, gan gymryd i ystyriaeth yr amcan pennaf, pa un ai dylid adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheol 48 ai peidio, oni fydd y Llywydd eisoes wedi adolygu’r penderfyniad, neu wedi gwrthod cais am ei adolygu.

(2Os bydd y Llywydd yn penderfynu peidio ag adolygu’r penderfyniad, neu’n adolygu’r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r penderfyniad, neu’r rhan ohono y mae’r apêl arfaethedig yn ymwneud â hi, rhaid i’r Llywydd ystyried wedyn a ddylid rhoi caniatâd i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad, neu’r rhan honno ohono.

Pŵer i atal dros dro benderfyniad y Tribiwnlys

51.  Caiff y Tribiwnlys, ar gais parti, neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, wneud gorchymyn i atal dros dro effaith penderfyniad y panel tribiwnlys wrth ddisgwyl am benderfyniad gan y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys ar gais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac ar unrhyw apêl neu adolygiad ohono.

Gorchmynion yr Uchel Lys

52.—(1Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o’r neilltu, ei amrywio neu ei newid mewn unrhyw ffordd gan orchymyn yr Uchel Lys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i’r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.

(2Os bydd y cais yn cael ei ddychwelyd, drwy orchymyn yr Uchel Lys, i’w ail-glywed gan y Tribiwnlys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach sydd wedi ei gytuno rhwng y partïon) gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(3Os caiff gorchymyn i ddileu hysbysiad cais ei ddiddymu neu ei osod o’r neilltu gan yr Uchel Lys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon—

(a)os nad oedd y cyfnod datganiad achos wedi dod i ben cyn i’r gorchymyn i ddileu cael effaith—

(i)y bydd cyfnod datganiad achos newydd yn dechrau, a

(ii)y caiff y partïon, o fewn y cyfnod datganiad achos newydd, gyflwyno’r dogfennau sy’n cael eu cyfeirio atynt yn is-baragraff (b) mewn perthynas â datganiad achos neu dystiolaeth a gafodd eu cyflwyno cyn i’r dileu cael effaith, neu

(b)pan nad yw is-baragraff (a) yn gymwys, bod gan bob parti gyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach sydd wedi ei gytuno rhwng y partïon) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(4Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi’u cael gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources