- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
28.—(1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn perthynas â chais, ar gais y Comisiynydd neu os bydd y Tribiwnlys wedi cyfarwyddo felly, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd sy’n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu’r cyfan neu ran o’r cais, ar un o’r seiliau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (2) neu oherwydd methiant ar ran y ceisydd i symud ymlaen gyda’r achos.
(2) Y seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) yw bod y cais—
(a)wedi ei wneud rywfodd ac eithrio’n unol â’r Rheolau hyn,
(b)heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys,
(c)heb ddatgelu seiliau rhesymol,
(d)yn wacsaw neu’n flinderus; neu,
(e)yn camddefnyddio, fel arall, proses y Tribiwnlys.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd y ceisydd i wneud sylwadau.
(4) At ddibenion y rheol hon—
(a)rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r ceisydd y caiff y ceisydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,
(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—
(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant wedi eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a
(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
(5) Caiff y Tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y ceisydd, orchymyn dileu’r cyfan neu ran o’r cais, ar un o’r seiliau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (2) neu oherwydd methiant ar ran y ceisydd i symud ymlaen gyda’r achos.
(6) Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd y ceisydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.
(7) Os bydd sylwadau llafar yn cael eu gwneud yn unol â pharagraff (6), caiff y Tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau’r gwrandawiad sy’n ymwneud â sylwedd y cais.
(8) Os bydd y cyfan o’r cais yn cael ei ddileu o dan baragraff (5), tybir bod y cais wedi ei derfynu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: