- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
41.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), caiff y Tribiwnlys ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, ei gwneud yn ofynnol, drwy wŷs fod unrhyw berson yn bresennol fel tyst mewn gwrandawiad, ar yr adeg ac yn y lle sy’n cael eu pennu yn y wŷs, ac mewn unrhyw ohiriad o’r gwrandawiad hwnnw neu o weddill y gwrandawiad hwnnw, ac yn y gwrandawiad, ei fod yn ateb unrhyw gwestiynau neu’n dangos unrhyw ddogfennau neu ddeunydd arall sy’n cael ei gadw ganddo, neu sydd o dan ei reolaeth, ac sy’n ymwneud ag unrhyw fater dan sylw yn y cais.
(2) Rhaid peidio â gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall, na ellid gorfodi’r person i’w rhoi neu i’w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru neu Loegr.
(3) Wrth arfer y pŵer sy’n cael ei roi gan y rheol hon, rhaid i’r Tribiwnlys gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiogelu unrhyw fater sy’n ymwneud ag amgylchiadau personol agos neu amgylchiadau ariannol, neu sy’n cynnwys gwybodaeth a fynegwyd neu a ddaeth i law yn gyfrinachol.
(4) Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol oni roddwyd o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd o’r gwrandawiad i’r person hwnnw, neu, os rhoddwyd llai na 5 niwrnod gwaith, oni fydd y person wedi rhoi gwybod i’r Tribiwnlys ei fod yn derbyn y rhybudd a roddwyd.
(5) Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu’n dangos unrhyw ddogfen, oni fydd swm o arian wedi ei dalu neu ei gynnig iddo, sy’n rhesymol ddigonol i dalu treuliau angenrheidiol ei bresenoldeb.
(6) Rhaid i barti sydd am gael gwŷs tyst wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, o leiaf 8 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, neu’n ddiweddarach os yw’r person y mae’r wŷs yn cael ei chyfeirio ato yn cydsynio mewn ysgrifen.
(7) Rhaid i wŷs tyst gynnwys—
(a)datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os gofynnir am hynny yn y wŷs, i ddangos dogfennau, yn atebol o dan adran 126 o’r Mesur, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, a
(b)datganiad o effaith paragraff (8).
(8) Caiff person y mae gwŷs tyst yn cael ei chyfeirio ato wneud cais i’r Tribiwnlys, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i amrywio’r wŷs neu ei osod o’r neilltu.
(9) Rhaid i’r Tribiwnlys beidio ag amrywio na gosod o’r neilltu wŷs tyst heb yn gyntaf hysbysu’r parti a wnaeth gais am ddyroddi’r wŷs tyst ac ystyried unrhyw sylwadau a gafodd eu gwneud gan y parti hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: