- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
55.—(1) Fel rheol, rhaid i’r Tribiwnlys beidio â gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o’r fath—
(a)yn erbyn parti os bydd y Tribiwnlys o’r farn bod y parti wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi, neu, fod ymddygiad y parti, wrth wneud neu wrthwynebu’r cais, wedi bod yn afresymol,
(b)yn erbyn cynrychiolydd os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod y cynrychiolydd wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi,
(c)yn erbyn parti a fethodd â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw ohono yn briodol,
(d)yn erbyn y Comisiynydd os methodd y Comisiynydd â chyflwyno datganiad achos o dan reol 20,
(e)yn erbyn y Comisiynydd os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod y penderfyniad sy’n cael ei herio’n afresymol.
(2) Ceir gwneud unrhyw orchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau—
(a)mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran o unrhyw gostau a threuliau a achoswyd, neu unrhyw lwfansau a dalwyd, neu
(b)mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran, o unrhyw lwfans (ac eithrio lwfansau a delir i aelodau o’r Tribiwnlys) sydd i’w dalu i unrhyw berson at ddibenion, neu mewn cysylltiad â phresenoldeb y person hwnnw mewn gwrandawiad Tribiwnlys.
(3) Ceir gwneud gorchymyn ar gyfer costau ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan.
(4) Rhaid i barti sy’n gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3)—
(a)cyflwyno cais ysgrifenedig a rhestr o’r costau sy’n cael eu hawlio i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a
(b)cyflwyno copi o’r cais a’r rhestr o gostau i’r person y mae’n fwriad i’r gorchymyn cael ei wneud yn ei erbyn.
(5) Ceir gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3) ar unrhyw adeg yn ystod yr achos ond ni cheir ei wneud yn hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad—
(a)pan gafodd yr hysbysiad yn cofnodi’r penderfyniad terfynol ar bob mater yn y cais ei ddyroddi,
(b)ar ôl tynnu’n ôl y cais, pan wnaed gorchymyn yn gwrthod y cais,
(c)yn dilyn ildiad y Comisiynydd, pan gafodd yr hysbysiad o benderfyniad ei ddyroddi.
(6) Yn achos cais am orchymyn o dan baragraff (3)—
(a)rhaid i’r Tribiwnlys ei wrthod os yw’r parti yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i’w bwerau,
(b)caiff y Tribiwnlys ei wrthod yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Tribiwnlys, nad oes siawns resymol y gall y cyfan neu’r rhan ohono lwyddo.
(7) Oni fydd cais am orchymyn yn cael ei wrthod o dan baragraff (6), rhaid ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r parti a’r person y mae’n fwriad i’r gorchymyn cael ei wneud yn ei erbyn cael eu clywed gan y Tribiwnlys.
(8) Os bydd gorchymyn yn cael ei wneud o dan baragraff (3), caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad costau.
(9) Os digwydd i barti fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan baragraff (8), caiff y Tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu pa un ag i wneud gorchymyn ar gyfer costau ai peidio.
(10) Caiff gorchymyn o dan baragraff (3) ei wneud yn ofynnol bod y parti neu’r cynrychiolydd y mae’r gorchymyn yn cael ei wneud yn ei erbyn yn talu i barti naill ai swm penodedig mewn perthynas â’r costau a’r treuliau a gafodd eu hachosi i’r parti arall hwnnw mewn cysylltiad â’r cais, neu’r cyfan neu ran o’r cyfryw gostau, fel y byddant yn cael eu hasesu, oni fydd cytuno arnynt.
(11) Effaith gorchymyn o dan y rheol hon y dylai costau gael eu hasesu yw mai mater i’r llys sirol bydd gwneud asesiad manwl o’r costau hynny yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Sifil 1998, naill ai ar y sail safonol neu, os pennir hynny yn y gorchymyn, ar sail indemniad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: