Search Legislation

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Y dull o anfon, rhoi neu gyflwyno hysbysiadau a dogfennau

62.—(1Rhaid i hysbysiad sy’n cael ei roi o dan y Rheolau hyn fod mewn ysgrifen a rhaid i barti y mae’n ofynnol iddo, o dan y Rheolau hyn, hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fater, wneud hynny mewn ysgrifen.

(2Rhaid i hysbysiadau a dogfennau sydd i’w darparu o dan y Rheolau hyn gael—

(a)eu hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf rhagdaledig at Ysgrifennydd y Tribiwnlys neu’u danfon â llaw i swyddfa’r Tribiwnlys neu ba bynnag swyddfa arall y bydd y partïon wedi’u hysbysi ohoni gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys,

(b)eu hanfon drwy drawsyriad ffacsimili i’r rhif a gafodd ei bennu ar gyfer y Tribiwnlys,

(c)eu hanfon drwy e-bost i’r cyfeiriad a chafod ei bennu ar gyfer y Tribiwnlys, neu

(d)eu hanfon neu’u danfon drwy ba bynnag ddull arall sy’n cael ei ganiatáu gan y Tribiwnlys neu a gafodd ei gyfarwyddo gan y Tribiwnlys.

(3Rhaid i barti sy’n anfon hysbysiad neu ddogfen at y Tribiwnlys drwy e-bost neu drawsyriad ffacsimili beidio â thrin yr hysbysiad neu’r ddogfen fel pe bai wedi ei ddanfon neu ei danfon oni fydd cydnabyddiaeth o hynny wedi ei derbyn gan y Tribiwnlys.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw parti’n darparu rhif ffacsimili, cyfeiriad e-bost neu fanylion eraill ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddogfennau, rhaid i’r parti hwnnw dderbyn danfon dogfennau drwy’r dull hwnnw.

(5Os yw parti’n rhoi gwybod i’r Tribiwnlys ac i’r parti arall na ddylid defnyddio dull cyfathrebu penodol, ac eithrio’r post dosbarth cyntaf rhagdaledig neu ddanfon â llaw, i ddarparu dogfennau i’r parti hwnnw, rhaid peidio â defnyddio’r dull hwnnw o gyfathrebu.

(6Os yw’r Tribiwnlys neu barti yn anfon dogfen at barti neu at y Tribiwnlys drwy e-bost neu unrhyw ddull cyfathrebu electronig arall, caiff y derbynnydd ofyn i’r anfonwr ddarparu copi caled o’r ddogfen honno i’r derbynnydd. Rhaid i’r derbynnydd wneud cais o’r fath cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y ddogfen yn electronig.

(7Caiff y Tribiwnlys a phob parti gymryd yn ganiataol mai’r cyfeiriad sydd wedi ei ddarparu gan barti neu gynrychiolydd yw’r cyfeiriad y mae’n rhaid anfon neu ddanfon dogfennau iddo, ac y bydd yn parhau felly oni fyddant yn cael hysbysiad ysgrifenedig i’r gwrthwyneb.

(8Ceir anfon yr hysbysiadau a’r dogfennau y mae Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn cael ei awdurdodi i’w hanfon, neu sy’n ofynnol iddo eu hanfon o dan y Rheolau hyn (yn ddarostyngedig i baragraff (10)) naill ai drwy’r post dosbarth cyntaf rhagdaledig, drwy drawsyriad ffacsimili, drwy e-bost, neu gellir eu danfon—

(a)yn achos parti—

(i)i gyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno fel y cafodd ei bennu yn yr hysbysiad cais neu mewn hysbysiad o dan baragraff (9), neu

(ii)os nad oes cyfeiriad ar gyfer cyflwyno wedi ei bennu felly, i’r cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y parti hwnnw, a

(b)yn achos unrhyw berson arall, i breswylfa neu fan busnes y person hwnnw, neu, os yw’r person yn gorfforaeth, i swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r gorfforaeth.

(9Caiff parti, ar unrhyw adeg, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, newid cyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno o dan y Rheolau hyn.

(10Rhaid defnyddio’r gwasanaeth danfon cofnodedig yn lle’r post dosbarth cyntaf i gyflwyno gwŷs sy’n mynnu cael presenoldeb tyst a ddyroddir o dan reol 41.

(11Rhaid tybio bod hysbysiadau neu ddogfennau a gafodd eu hanfon gan y Tribiwnlys drwy’r post dosbarth cyntaf yn unol â’r Rheolau hyn, ac na chafodd eu dychwelwyd at y Tribiwnlys, wedi dod i law’r derbynnydd ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio oni ddangosir i’r gwrthwyneb.

(12Rhaid tybio, oni ddangosir i’r gwrthwyneb, mai’r dyddiad postio yw’r dyddiad sy’n cael ei ddangos yn y marc post ar yr amlen sy’n cynnwys yr hysbysiad neu’r ddogfen.

(13Rhaid tybio bod hysbysiad neu ddogfen a gafodd ei anfon gan y Tribiwnlys at barti drwy e-bost neu drawsyriad ffacsimili wedi ei ddanfon neu ei danfon pan fydd yr hysbysiad neu’r ddogfen cael eu derbyn mewn ffurf ddarllenadwy.

(14Pan nad yw’n bosibl, oherwydd unrhyw reswm digonol, i gyflwyno unrhyw ddogfen neu hysbysiad yn y modd sy’n cael ei ragnodi o dan y rheol hon, caiff y Tribiwnlys naill ai hepgor y cyflwyno, neu wneud gorchymyn ar gyfer cyflwyno ym mha bynnag ddull amgen sydd, ym marn y Tribiwnlys, yn briodol, a bydd cyflwyno yn y dull amgen hwnnw’n cael yr un effaith â chyflwyno yn y modd sy’n cael ei ragnodi o dan y rheol hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources