- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bywyd Gwyllt, Cymru
Gwnaed
16 Ebrill 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Ebrill 2015
Yn dod i rym
11 Mai 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(5)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol â gofynion adran 26(4) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru—
wedi rhoi cyfle i unrhyw awdurdod lleol yr effeithir arno ac unrhyw berson arall yr effeithir arno gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn cysylltiad â phwnc y Gorchymyn hwn; a
wedi ymgynghori â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, sef y corff cynghori(3) gorau ym marn Gweinidogion Cymru i’w cynghori ynghylch a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Mai 2015.
2. Yn Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (anifeiliaid nad ydynt fel arfer yn bresennol mwyach)(4), yn yr eitem sy’n ymwneud â “Beaver, Eurasian” hepgorer “(but not in relation to Wales)”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
16 Ebrill 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn amrywio Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 11981 (p. 69) (“y Ddeddf”), sy’n rhestru’r anifeiliaid nad ydynt fel arfer yn bresennol ym Mhrydain Fawr mwyach ac na chaniateir eu rhyddhau neu ganiatáu iddynt ddianc i’r gwyllt.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu’r Afanc Ewrasiaidd at Ran 1B o Atodlen 9 i’r Ddeddf o ran Cymru (ar hyn o bryd mae’r Afanc Ewrasiaidd wedi ei gynnwys o ran Lloegr yn unig).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru (Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth), Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.
11981 p. 69. Diwygiwyd adran 22(5)(a) gan adran 25 o Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5)(a), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) , a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Am y diffiniad o “advisory body” gweler adrannau 23(3) a 27(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Mewnosodwyd Rhan 1B o Atodlen 9 gan adran 24(5) o Ddeddf Seilwaith 2015.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: