Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “apêl” (“appeal”) yw—

(a)

mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf(1) neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig(2), penderfynu cais sydd wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru ond nid yw’n cynnwys cais y tybir ei fod wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(3); a

(b)

mewn perthynas ag adran 78 neu 208 o’r Ddeddf(4) neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig(5), apêl a wnaed o dan yr adran honno;

ystyr “apêl caniatâd hysbyseb” (“advertisement consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf (fel y’i cymhwysir gan reoliadau a wneir o dan adran 220 o’r Ddeddf) mewn perthynas â chais hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;

ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl a wneir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl a wneir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw—

(a)

yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person a wnaeth y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;

(b)

yn achos apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person y gwrthodwyd ei gais, y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau neu nas penderfynwyd ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)

yn achos apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf, y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 207(1) o’r Ddeddf honno;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw—

(a)

mewn perthynas â chais o dan adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a fyddai wedi delio â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru;

(b)

mewn perthynas ag apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu’r cais a ysgogodd yr apêl; ac

(c)

mewn perthynas ag apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf, y corff a gyflwynodd yr hysbysiad o dan adran 207(1) o’r Ddeddf honno;

ystyr “cais” (“application”) yw—

(a)

mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru;

(b)

mewn perthynas ag adran 78 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sy’n destun yr apêl; ac

(c)

mewn perthynas ag adran 208 o’r Ddeddf, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 207(1) o’r Ddeddf honno;

ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—

(a)

caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu tŷ annedd rywfodd arall, neu ddatblygu o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(b)

newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â meddiant o’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(i)

unrhyw gais arall am newid defnydd,

(ii)

cais am godi tŷ annedd, neu

(iii)

cais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

ystyr “cais hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb, a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(6);

ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella, neu addasu rywfodd arall, adeilad presennol nad yw ei arwynebedd llawr allanol gros yn fwy na 250 metr sgwâr ar lefel y llawr daear, neu ran o’r adeilad hwnnw, a ddefnyddir yn gyfredol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn, sydd yn gais am—

(a)

newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un o’r dibenion a nodir naill ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;

(b)

newid y defnydd, o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen; neu

(c)

cyflawni gwaith adeiladu neu weithgareddau eraill ar wyneb blaen siop;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(7);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc, nac yn ŵyl gyhoeddus arall;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw dyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig o gael apêl o dan reoliad 4 neu 12, yn ôl y digwydd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen yn y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn ystyrir bod ffurflen wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol o’r canlynol—

(a)

bod y ffurflen wedi ei chyhoeddi ar y wefan;

(b)

cyfeiriad y wefan; ac

(c)

ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurflen, a sut y gellir cael mynediad ati;

ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw—

(a)

mewn perthynas â chais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sydd wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru; a

(b)

mewn perthynas ag apêl a ddygir o dan adran 78 neu 208 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysiad o apêl o dan adran 78 neu 208 o’r Ddeddf neu adran 21 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig(8);

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol; ac

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat a gynhwysir o fewn adeilad o’r fath.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at—

(a)adran 78 o’r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at yr adran honno fel y’i cymhwysir i geisiadau am orchmynion cadw coed a wneir o dan y Ddeddf honno;

(b)adran 12, 19 neu 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cynnwys cyfeiriadau at yr adrannau hynny fel y’u cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno(9).

(3Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—

(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath, ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni chyflawnir y rhwymedigaeth oni fydd y person y gosodir y rhwymedigaeth arno yn darparu cyfeiriad post;

(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at ddogfennau o’r fath neu gopïau ohonynt ar ffurf electronig.

(4Mae paragraffau (5) i (8) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu anfon ato, unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall.

(5Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

(6Ym mharagraff (5), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth, a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall, ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(7Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(8Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (5), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.

(1)

Mewnosodwyd adran 77(6A) gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mewnosodwyd adran 12(4B) gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Rhoddwyd adran 208(2)(a) a (b) yn lle adran 208(2) a (3) gan adran 23(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34); amnewidiwyd adran 208(4) i (4C) gan adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraffau 1 a 4(1) a (2) o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, a mewnosodwyd adran 208(5B) gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw diwygiadau eraill i adrannau 78 a 208 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

Diwygiwyd adran 20 gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 1992/666; Amnewidiwyd rheoliad 9 gan O.S. 2012/791 (Cy. 106). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

2000 p. 7; Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21), a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

(8)

Ychwanegwyd adran 21(8) i (11) gan adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraff 5 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(9)

Diwygiwyd adran 74(3) gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources