Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1417 (Cy. 141)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015

Gwnaed

24 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mehefin 2015

Yn dod i rym

20 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999(1) (“DARhLl 1999”)—

(a)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, sy’n briodol yn eu tyb hwy; a

(c)y cyrff neu’r personau eraill hynny sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 27(2) a (4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(2) (“DGMA 2003”)—

(a)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau gwaredu gwastraff yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy;

(b)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n ymwneud â gweithredu safleoedd tirlenwi yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy; a

(c)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli unrhyw bersonau eraill yr effeithir arnynt sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(4)(“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff(5) ac atal, lleihau a rheoli gwastraff(6).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o DCE 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC(7), y cyfeirir ato yn rheoliadau 2(2), 3(4), 4(4)(a), 5(2) a 6, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o DCE 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, adran 75(8) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(8), adran 2 o DARhLl 1999, ac Atodlen 1 iddi, ac adrannau 11, 12 a 13 o DGMA 2003.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2015.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

2.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw’r rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

(3Yn rheoliad 6(2)(b) (rhwymedigaeth ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau), yn lle “Rheoliadau’r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005” rhodder “y Rhestr Wastraffoedd”.

(4Yn rheoliad 7(1)(b) (rhwymedigaeth ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau), yn lle “Rheoliadau’r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005” rhodder “y Rhestr Wastraffoaedd”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

3.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2(1)(a)(11) (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff), rhodder—

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff(12) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1357/2014(13); .

(3Yn rheoliad 3(a)(14) (Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff), hepgorer “, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3”.

(4Yn lle rheoliad 4(1)(15) (y Rhestr Wastraffoedd), rhodder—

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw’r rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd..

(5Yn rheoliad 6(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”.

(6Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”;

(b)ym mharagraff (2) (gwastraff penodol sydd i’w drin fel gwastraff peryglus), yn lle “Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” rhodder “Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff”.

(7Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” rhodder “Erthygl 7(3) o’r Gyfarwyddeb Wastraff”.

(8Hepgorer Atodlen 3(16) (Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff).

(9Yn lle Atodlen 8 (ffurf ar ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad) rhodder y testun sydd yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

4.—(1Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol) yn y diffiniad o “WEEE”, yn lle “Article 3(b)” rhodder “Article 3(1)(e)”.

(3Yn adran 3 (dehongli: Cyfarwyddebau)—

(a)yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—

“the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on Waste(18);;

(b)yn lle’r diffiniad o “the WEEE Directive” rhodder—

“the WEEE Directive” means Directive 2012/19/EU of the European Parliament and of the Council on waste electrical and electronic equipment (WEEE)(19)..

(4Ym mharagraff 1 o bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 3, (cyfleusterau esempt: disgrifiadau ac amodau)—

(a)yn is-baragraff (1), yn y man priodol, mewnosoder—

“List of Wastes” means the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;;

(b)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) In this Part, a six digit code used to refer to a waste is a reference to the waste specified by the six digit code in the List of Wastes except insofar as the waste in this Part in relation to such a code does not include some of the types of waste specified by the code in the List.

(5Yn adran 2 o bennod 3 o ran 1 o Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (3)(e), yn lle “dangerous substance” rhodder “hazardous substance”;

(ii)yn lle is-baragraff (5), rhodder—

(5) In this paragraph, “hazardous substance” means a substance classified as hazardous as a consequence of fulfilling the criteria laid down in parts 2 to 5 of Annex 1 to Regulation (EC) No 1272/2008 on classification, labelling and packaging of substances and mixtures(20).;

(b)ym mharagraff 11 is-baragraff (3)(c) yn lle “Annex III” rhodder “Annex VIII”; ac

(c)yn y tabl ym mharagraff 15(2), yn ail golofn y rhes sy’n dechrau “160504*”, yn lle “dangerous substances”, rhodder “hazardous substances”.

(6Yn adran 2 o bennod 5 o ran 1 o Atodlen 3, yn y tabl ym mharagraff 1(2), yn ail golofn y rhes sy’n dechrau “150202*”, yn lle “dangerous substances” rhodder “hazardous substances”.

(7Yn Atodlen 12 (cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff)—

(a)ym mharagraff 2, is-baragraff (1), yn lle “Article 3(b)” rhodder “Article 3(1)(e)”;

(b)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “Article 6(1) first paragraph and Article 6(3) and (4)” rhodder “Articles 8(1) to (3) and 9(3)”;

(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) But when interpreting the WEEE Directive for the purposes of this paragraph, ignore the following words in Article 9(3)—

(a)“or the registration referred to in paragraphs 1 and 2”; and

(b)“and for the achievement of the recovery targets set out in Article 11”..

Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011

5.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) (dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—

“the List of Wastes” means the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;.

(3Yn rheoliad 35(2)(a) (gwybodaeth am wastraff), hepgorer “(England) Regulations 2005 or, as the case may be, the List of Wastes (Wales) Regulations 2005”.

(4Yn lle paragraff 11(3)(b) o Atodlen 1 (rhaglenni atal gwastraff a chynlluniau rheoli gwastraff), rhodder—

(b)naturally occurring material falling within the description relating to code 17 05 04 in the List of Wastes..

Diwygio Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012

6.  Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012(22)(gwastraff cartrefi, diwydiannol a masnachol), yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “offensive waste”, rhodder—

(c)falls within the description relating to code 18 01 04, 18 02 03 or 20 01 99 in the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;.

Dirymiadau

7.  Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005(23);

(b)rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005) o Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011(24).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2015

Regulation/Rheoliad 3(9)

SCHEDULE/ATODLEN

Regulation/Rheoliad 54

SCHEDULE 8/ATODLEN 8Form of consignee’s return to producer or holder/Ffurf ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol penodol yn ymwneud â gwastraff peryglus, sy’n cyfeirio at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy. 148)) (“Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd”), neu ddeddfiadau’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â gwastraff peryglus.

Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn—

gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1357/2014 (OJ Rhif L 365, 19.12.14, t.89), sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2008/98/EC (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3) (“y Gyfarwyddeb Wastraff”);

gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2014/955/EU (OJ Rhif L 370, 30.12.2014, t.44), sy’n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC (OJ Rhif L 226, 6.9.00, t.3) (“Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd”);

cydnabod y ffaith bod Cyfarwyddeb 2002/96/EC (OJ L 37, 13.2.2003, t.24) ar Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (“y Gyfarwyddeb CTEG”) wedi ei hail-lunio fel Cyfarwyddeb 2012/19/EU (OJ Rhif L 197, 24.7.2012, t.38);

cydnabod newidiadau mewn terminoleg a wnaed gan Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ar ddosbarthu, labelu a phecynnu sylweddau a chymysgeddau (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t.1) (“y Rheoliad DLPh”).

At ddiben gweithredu Penderfyniad diwygiedig y Rhestr Wastraffoedd, mae Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd wedi eu dirymu. Pan fo cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny yn codi yn yr offerynnau y mae’r Rheoliadau hyn yn eu diwygio, rhoddir cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ei hun, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, yn eu lle.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)) drwy roi cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd yn lle’r cyfeiriadau at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3 a’r Atodlen yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138))(“y Rheoliadau Gwastraff Peryglus”).

Mae rheoliad 3(2) yn amnewid y diffiniad o’r Gyfarwyddeb Wastraff sydd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio’r diffiniad o Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff yn rheoliad 3(a) drwy hepgor y cyfeiriad at Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny, a hepgorir Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny ei hunan yn rhinwedd rheoliad 3(8).

Mae rheoliad 3(4) yn amnewid y diffiniad o’r Rhestr Wastraffoedd sydd yn rheoliad 4(1). Mae’r diffiniad newydd yn cyfeirio’n uniongyrchol at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae paragraffau (5), (6)(a) a (7)(a) o reoliad 3 yn cywiro cyfeiriad at adran 62A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p.43).

Mae rheoliad 3(6)(b) yn rhoi cyfeiriad at Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff yn lle cyfeiriad at Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3(7)(b) yn rhoi cyfeiriad at Erthygl 7(3) o’r Gyfarwyddeb Wastraff yn lle cyfeiriad at Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3(9) a’r Atodlen yn amnewid Atodlen 8 newydd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675) (“RhTA 2010”).

Mae paragraffau (2), (5)(b) a (7) o reoliad 4, yn diweddaru cyfeiriadau at Erthyglau penodol yn y Gyfarwyddeb CTEG er mwyn cysoni’r cyfeiriadau hynny â’r darpariaethau cyfatebol yn y Gyfarwyddeb a ail-luniwyd.

Mae rheoliad 4(3)(a) yn amnewid cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Wastraff. Er cysondeb â darpariaethau perthnasol eraill, nid yw’r ddarpariaeth a amnewidir yn cyfeirio’n benodol at Reoliad diwygio EU Rhif 1357/2014. Effaith adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)(“Deddf 1978”), fodd bynnag, yw pan fo Deddf sydd wedi ei phasio ar ôl dyddiad cychwyn yr adran honno yn cyfeirio at offeryn yr Undeb Ewropeaidd, fod y cyfeiriad, oni amlygir bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr offeryn fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Ddeddf honno i rym. Mae adran 23(1) o Ddeddf 1978 hefyd yn cymhwyso’r egwyddor honno i is-ddeddfwriaeth. O ganlyniad, effaith yr amnewidiad a wneir gan reoliad 4(3)(a) yw bod cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Wastraff yn RhTA 2010 yn dod yn gyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Mae rheoliad 4(3)(b) yn rhoi, yn lle’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb CTEG, gyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno fel y’i hail-luniwyd.

Mae rheoliad 4(4) yn mewnosod cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, yn Atodlen 3 o RhTA 2010, drwy roi, yn lle cyfeiriadau at Reoliadau’r Rhestr Wastraff, gyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw.

Mae paragraffau (5) a (6) o Reoliad 4 yn rhoi cyfeiriadau at “hazardous substances” yn lle amryw o gyfeiriadau at “dangerous substances”, er mwyn cysoni’r darpariaethau â’r derminoleg a ddefnyddiwyd yn y Rheoliad DLPh.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/988) drwy fewnosod cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a rhoi, yn lle cyfeiriadau at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd, gyfeiriadau at y Penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/811), drwy roi cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd yn lle’r cyfeiriad at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd yn y diffiniad o “offensive waste”.

Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy.148)) a rheoliad 4 o Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/971 (Cy.141)).

Ni wnaed asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnesau.

(3)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“DLlC 2006”) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) (“DCE 1972”) mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw. Mae paragraff 28(1) o Atodlen 11 i DLlC 2006 yn darparu bob dynodiadau a wnaed o dan adran 2(2) o DCE 1972 yn rhinwedd adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) sydd mewn grym yn union cyn cychwyn y diddymiad o’r is-adran honno gan DLlC 2006 yn parhau i gael effaith ar ôl cychwyn y diddymiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 59(1) o DLlC 2006.

(4)

1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a chan O.S. 2007/1388.

(7)

OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2014/955/EU (OJ Rhif L 370, 30.12.14, t.44).

(9)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 2005/1806 (Cy.138), yr offerynnau perthnasol sy’n diwygio yw O.S. 2011/971 (Cy.141) ac O.S. 2011/988.

(11)

Amnewidiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

(12)

OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.

(13)

OJ Rhif L 365 19.12.14, t.89.

(14)

Amnewidiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

(15)

Fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

(16)

Amnewidiwyd Atodlen 3 gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

(17)

O.S. 2010/675, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(18)

OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.

(19)

OJ Rhif L 197, 24.7.2012, t.38.

(20)

OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1297/2014 (OJ Rhif L 350, 6.12.14, t.1).

(21)

O.S. 2011/988; yr offerynnau perthnasol sy’n diwygio yw O.S. 2013/755 a 2014/656.

(22)

O.S. 2012/811, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(23)

O.S. 2005/1820 (Cy.148) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources