Search Legislation

Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Awst 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “y Ddeddf” (the Act) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae i “gweithredydd y busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod gorfodi (o fewn ystyr y Ddeddf) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at un o Erthyglau Rheoliad y Comisiwn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o Erthyglau Rheoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Erthygl honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Yr awdurdod cymwys

3.  Pob awdurdod bwyd yn ei ardal yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)trydydd is-baragraff Erthygl 5(1) (labelu cig pan nas cwblhawyd y cyfnod magu penodedig mewn unrhyw aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad); a

(b)Erthygl 5(2) (labelu cig pan fo’r “tarddiad” wedi ei ddangos ar y label).

Awdurdodau gorfodi

4.—(1Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a chan bob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o’r Ddeddf honno.

Cofnodion

5.—(1Rhaid i weithredydd busnes bwyd gadw cofnod o’r wybodaeth o dan y system adnabod a chofrestru sy’n ofynnol gan Erthygl 3 (olrhain).

(2Rhaid i weithredwr busnes bwyd gadw pob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn ymwneud â hi.

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

6.—(1Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio—

(i)ag unrhyw un neu ragor o Erthyglau 3 i 6 ac 8; neu

(ii)â rheoliad 5; a

(b)ei gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

(2Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad)(2) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig—

(a)i arfer pŵer mynediad i ddarganfod a oes neu a oedd unrhyw un neu ragor o Erthyglau 3 i 6 ac 8 wedi eu torri;

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac

(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.

(3Mae adran 37(1) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddiben galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(4Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan 5 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn yr ail golofn o’r tabl hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources