- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda newidiadau, ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 (“Rheoliadau 1989”) i’r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd i awdurdodau cynllunio lleol mewn cysylltiad ag:
(1) ceisiadau a wneir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl gan ganiatâd cynllunio amlinellol;
(2) ceisiadau tybiedig am ganiatâd cynllunio o dan adran 177(5) o Ddeddf 1990;
(3) ceisiadau am dystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon;
(4) ceisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion;
(5) ceisiadau penodol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995;
(6) ceisiadau am newidiadau ansylweddol mewn caniatâd cynllunio; a
(7) ymweliadau safle ar safleoedd mwyngloddio a thirlenwi.
Y prif newidiadau yw:
(a)cynyddu’r ffioedd oddeutu 15%;
(b)ad-delir y ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu’r cais o fewn amseroedd penodedig (rheoliad 9);
(c)telir y ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau tybiedig i’r awdurdod cynllunio lleol yn hytrach na hanner i’r awdurdod cynllunio lleol a hanner i Weinidogion Cymru (rheoliad 10);
(d)mae ffioedd a delir mewn cysylltiad â chais tybiedig mewn perthynas â’r defnydd o dir fel safle carafán i’w trin yn yr un modd â cheisiadau eraill at ddibenion ad-daliadau (rheoliad 10(12)). O dan Reoliadau 1989, roedd ceisiadau tybiedig o’r fath wedi eu heithrio o’r darpariaethau ad-dalu;
(e)mae ffioedd yn daladwy mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth a wneir yn ofynnol gan unrhyw amod neu gyfyngiad cynllunio, ac ad-delir unrhyw ffi o’r fath os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu’r cais o fewn amseroedd penodedig (rheoliad 15);
(f)mae ffi yn daladwy i’r awdurdod cynllunio lleol am gais diwygiedig am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer y materion hynny. O dan Reoliadau 1989 roedd cais o’r fath yn esempt thag talu ffi os oedd amodau wedi eu bodloni;
(g)pan wneir ceisiadau am ganiatâd cynllunio, am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl neu am dystysgrifau defnydd cyfreithlon neu ddatblygu, sy’n ymwneud â thir yn ardal dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, mae ffi’n daladwy i bob un o’r awdurdodau cynllunio lleol (paragraff 8 o Atodlen 1). O dan Reoliadau 1989 roedd y ffi’n daladwy i’r awdurdod cynllunio lleol y lleolid y rhan helaethaf o’r tir yn ei ardal.
Gwnaed rhai mân ddiwygiadau drafftio a chanlyniadol yn ogystal.
Mae Rheoliadau 1989 a 2014 wedi eu dirymu a gwneir rhai darpariaethau trosiannol ac arbed.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk .
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: