- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “apelydd” (“appellant”) yw’r person sydd wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol;
(b)ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol a ddyroddodd yr hysbysiad gorfodi; ac
(c)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y gwneir yr apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (8) a (9), pan dybir bod cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 (“cais tybiedig”), rhaid talu ffi i’r awdurdod perthnasol.
(3) Nid oes ffi’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais tybiedig ac eithrio os fyddai ffi wedi bod yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod perthnasol ar y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad â’r materion y datgenir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio.
(4) Swm y ffi yw dwywaith y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy i’r awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â chais fel y disgrifir ym mharagraff (3).
(5) Rhaid talu’r ffi mewn cysylltiad â’r cais tybiedig gan bob person sydd wedi gwneud apêl ddilys yn erbyn yr hysbysiad gorfodi ac nad yw ei apêl wedi ei thynnu’n ôl cyn y dyddiad y dyroddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).
(6) Rhaid talu’r ffi i’r awdurdod perthnasol.
(7) Rhaid talu’r ffi ar y cyfryw amser y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu yn yr achos penodol, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd.
(8) Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys i gais tybiedig, fel y maent yn gymwys i gais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol, gydag addasiadau fel a ganlyn—
(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a
(b)rhaid dehongli cyfeiriadau at y datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef fel cyfeiriadau at y defnydd o dir neu’r gweithrediadau y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud ag ef.
(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r apelydd—
(a)cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol, wedi gwneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu i’r awdurdod y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais hwnnw; neu
(b)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi perthnasol fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith, wedi gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn gwrthodiad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd o’r fath,
ac nad oedd y cais hwnnw wedi ei benderfynu neu, yn achos apêl, yr apêl honno wedi ei phenderfynu, ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol.
(10) Rhaid ad-dalu i’r apelydd unrhyw ffi a dalwyd ganddo mewn cysylltiad â’r cais tybiedig os digwydd—
(a)bod Gweinidogion Cymru—
(i)yn gwrthod awdurdodaeth ar yr apêl berthnasol o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(1) ar y sail nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o ofynion is-adrannau (1) i (3) o’r adran honno;
(ii)yn gwrthod yr apêl berthnasol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 176(3)(a) o Ddeddf 1990 ar y sail bod yr apelydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 174(4) o Ddeddf 1990 o fewn y cyfnod rhagnodedig; neu
(iii)yn caniatáu’r apêl berthnasol ac yn diddymu’r hysbysiad gorfodi perthnasol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 176(3)(b) o Ddeddf 1990;
(b)bod yr apêl berthnasol yn cael ei thynnu’n ôl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, fel bod cyfnod o 21 diwrnod, o leiaf, rhwng y dyddiad y tynnwyd yr apêl yn ôl ac—
(i)y dyddiad (neu, os bu gohirio, y dyddiad diweddaraf) a bennwyd ar gyfer cynnal ymchwiliad i’r apêl honno; neu
(ii)yn achos apêl yr ymdrinnir â hi ar sail sylwadau ysgrifenedig, y dyddiad (neu, os bu gohirio, y dyddiad diweddaraf) a bennwyd ar gyfer arolygu’r safle y mae’r hysbysiad gorfodi’n ymwneud ag ef; neu
(c)bod yr awdurdod perthnasol yn tynnu’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ôl cyn iddo gael effaith, neu Weinidogion Cymru yn penderfynu bod yr hysbysiad gorfodi yn ddi-rym.
(11) At ddibenion paragraff (10)(b) trinnir apêl fel pe bai wedi ei thynnu’n ôl ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad ysgrifenedig o dynnu’r apêl yn ôl.
(12) Ac eithrio wrth benderfynu apêl pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi tystysgrif o dan adran 191 o Ddeddf 1990 (tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol)(2) yn unol ag adran 177(1)(c) o’r Ddeddf honno(3), rhaid ad-dalu i’r apelydd y ffi a dalwyd ganddo mewn cysylltiad â chais tybiedig os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol ar—
(a)seiliau a nodir yn adran 174(2)(b) i (f) o Ddeddf 1990; neu
(b)y sail fod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys diffyg, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro yn unol â phwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 176(1) o Ddeddf 1990(4).
(13) Rhaid ad-dalu i’r apelydd hanner y ffi a dalwyd gan yr apelydd mewn cysylltiad â chais tybiedig os digwydd i Weinidogion Cymru ganiatáu’r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol ar y sail a nodir yn adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990.
(14) Yn achos cais tybiedig—
(a)pan amrywir hysbysiad gorfodi o dan adran 176(1) o Ddeddf 1990 rywfodd ac eithrio er mwyn cymryd i ystyriaeth caniatâd cynllunio a roddir o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990; a
(b)pan fyddai’r ffi a gyfrifwyd yn unol â pharagraffau (3) a (4) wedi bod yn swm llai pe bai’r hysbysiad gwreiddiol wedi bod yn nhermau’r hysbysiad amrywiedig,
y ffi sy’n daladwy yw’r swm lleiaf hwnnw, a rhaid ad-dalu unrhyw swm dros ben a dalwyd eisoes.
(15) Wrth benderfynu ffi o dan baragraff (14) ni chymerir i ystyriaeth unrhyw newid mewn ffioedd sy’n cael effaith ar ôl gwneud y cais tybiedig.
Amnewidiwyd adran 174(2) a (3) gan adran 6(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a diwygiwyd adran 174(6) gan adrannau 32 a 84 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 22 o Atodlen 7 a Rhan 1 o Atodlen 19 iddi, a chan O.S. 2004/3156 (Cy. 273). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Amnewidiwyd adran 191 gan adran 10(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), ac fe’i diwygiwyd gan adran 124(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 58(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (2013 dccc 6) a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 177(1) gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 a 24 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Amnewidiwyd adran 176(1) gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 a 23 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: