- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig ag—
(a)cyflawni gweithrediadau i addasu neu estyn tŷ annedd presennol; neu
(b)cyflawni gweithrediadau o fewn cwrtil tŷ annedd presennol (ac eithrio codi tŷ annedd),
at y diben, yn y naill achos a’r llall, o ddarparu mynedfa i’r tŷ annedd, neu oddi mewn i’r tŷ annedd, ar gyfer person anabl sy’n preswylio neu’n bwriadu preswylio yn y tŷ annedd hwnnw, neu o ddarparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gysur i’r person hwnnw.
(2) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau at y diben o ddarparu mynedfa ar gyfer personau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir aelodau’r cyhoedd iddynt (pa un ai am dâl ai peidio), neu oddi mewn i adeilad neu fangre o’r fath.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn anabl—
(a)os oes nam sylweddol ar olwg, clyw neu leferydd y person hwnnw;
(b)os oes gan y person hwnnw anhwylder meddyliol; neu
(c)os gwnaed y person hwnnw yn sylweddol anabl yn gorfforol gan unrhyw salwch, unrhyw nam a oedd yn bresennol o’i enedigaeth, neu rywfodd arall.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “anhwylder meddyliol” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd y meddwl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: