- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
21 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 164(5) o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.
2. 1 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym—
(a)adran 35 (eithrio busnesau cartref rhag Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954); a
(b)adran 36 (adran 35: darpariaeth atodol a chanlyniadol).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym o ran Cymru, ar 1 Hydref 2015, adrannau 35 a 36 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (“y Ddeddf”). Mae’r adrannau hynny yn Rhan 2 (diwygio rheoleiddio) o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954.
Drwy eu cychwyn, mae’r darpariaethau yn eithrio busnesau cartref rhag y diogelwch deiliadaeth a roddir i denantiaid mangreoedd sydd wedi eu meddiannu at ddibenion busnes. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i denantiaid gael caniatâd i ddefnyddio mangreoedd at ddibenion busnes mewn cytundeb tenantiaeth, ac i landlordiaid adfer meddiant o’r mangreoedd pan ddaw tenantiaeth o’r fath i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: