- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
21. Mae’r gofynion yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig ac i bob perfformiad, sydd wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael trwydded, o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.
22. Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiad gael ei gyflogi mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad hwnnw na’r diwrnod wedyn.
23.—(1) Mae Tabl 1 yn nodi’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os y man lle y mae’r plentyn fel arfer yn byw neu’n cael ei addysg yw’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.
Oedran y plentyn | Yr amser cynharaf | Yr amser hwyraf |
---|---|---|
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed | 07:00 | 22:00 |
O 5 oed tan oedran gadael ysgol | 07:00 | 23:00 |
24.—(1) Mae Tabl 2 yn nodi uchafswm nifer yr oriau y caiff plentyn fod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, y caiff berfformio neu ymarfer mewn un niwrnod neu berfformio neu ymarfer yn barhaus.
(2) Wrth gyfrifo nifer yr oriau ar unrhyw ddiwrnod y mae’r plentyn yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, rhaid ystyried unrhyw gyfnodau addysg sy’n ofynnol i gydymffurfio â threfniadau a gymeradwyir o dan reoliad 15, hyd yn oed os yw’r addysg honno’n cael ei darparu yn rhywle ac eithrio’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.
Oedran y plentyn | Uchafswm nifer yr oriau mewn un niwrnod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer | Uchafswm nifer cyfan yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod | Uchafswm nifer parhaus yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed | 5 | 2 | 0.5 | ||||
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 9 oed | 8 | 3 | 2.5 | ||||
O 9 oed tan oedran gadael ysgol | 9.5 | 5 | 2.5 |
25.—(1) Pan fo plentyn o dan bum mlwydd oed yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer—
(a)rhaid i unrhyw seibiannau bara am gyfnod o bymtheng munud o leiaf, ac eithrio bod rhaid, pan fo plentyn yn bresennol am bedair neu fwy o oriau yn olynol, i unrhyw seibiannau o’r fath gynnwys o leiaf un seibiant o ddeugain munud a phump a ddefnyddir at ddiben pryd bwyd; a
(b)rhaid i unrhyw seibiant gael ei ddefnyddio at ddibenion prydau bwyd, gorffwys, addysg neu hamdden.
(2) Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am fwy na phedair, ond am lai nag wyth awr yn olynol, rhaid iddo gael o leiaf:
(a)un seibiant sy’n para am ddeugain munud a phump o leiaf ar gyfer pryd bwyd; a
(b)un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.
(3) Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am wyth awr neu fwy yn olynol, rhaid iddo gael:
(a)y seibiannau sy’n ofynnol o dan baragraff (2); a
(b)o leiaf un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i blentyn gael seibiant sy’n para am awr a hanner o leiaf rhwng pryd y mae’n cymryd rhan mewn perfformiadau olynol pan fo, ar yr un diwrnod—
(a)yn perfformio’r un rhan neu’n cymryd rhan perfformiwr arall mewn mwy nag un enghraifft o’r un perfformiad gan gynnwys ymarferion, sy’n dod o fewn adran 37(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1963, y mae trwydded wedi ei chael ar eu cyfer;
(b)yn cymryd rhan mewn perfformiadau o dan drwyddedau gwahanol a roddwyd mewn cysylltiad â’r plentyn; neu
(c)yn cymryd rhan mewn perfformiad y mae trwydded wedi ei chael ar ei gyfer ac mewn perfformiad nad yw’n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.
(5) Pan fo’r perfformiad neu’r ymarfer cynharach yn para llai nag un awr, ac
(a)bod y perfformiad neu’r ymarfer canlynol yn digwydd yn yr un man perfformio neu ymarfer; neu
(b)nad oes angen unrhyw amser ar gyfer teithio rhwng y perfformiad neu’r ymarfer cynharach a’r un olynol,
caniateir i’r seibiant rhwng y perfformiadau (neu’r ymarferion) hynny gael ei ostwng i isafswm o ddeugain munud a phump.
26. Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i blentyn gael seibiant dros nos sy’n para deuddeg awr o leiaf rhwng ei bresenoldeb yn y man perfformio neu ymarfer.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: