- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu iddo gymryd rhan mewn perfformiad am gyfnod nad yw’n hwy nag un awr yn union ar ôl yr amser hwyraf a bennir mewn rheoliad 23 ar yr amod—
(a)na fydd cyfanswm nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer, gan gynnwys y cyfnod nad yw’n hwy nag un awr, yn fwy nag uchafswm nifer yr oriau a ganiateir o dan reoliad 24;
(b)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr na chaiff lles y plentyn ei niweidio; ac
(c)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr bod yr amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir wedi codi o dan amgylchiadau a oedd y tu allan i reolaeth y deiliad trwydded.
(2) Pan fo’r hebryngwr yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir yn rheoliad 23, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod yr hebryngwr yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol erbyn y diwrnod canlynol fan bellaf ac yn rhoi’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw.
(3) Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu i un o’r seibiannau ar gyfer pryd bwyd, sy’n ofynnol o dan reoliad 25, gael ei leihau pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod—
(a)nad yw’r seibiant yn para llai na deng munud ar hugain; a
(b)nad eir dros uchafswm nifer yr oriau pryd y caiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 24.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: