Search Legislation

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

YR ATODLENNI

Rheoliad 3

ATODLEN 1Dirymiadau

Tabl 3

Y RheoliadauY Cyfeirnod
Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 19681968/1728
Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygiadau Amrywiol) 19981998/1678
Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 20072007/736

Rheoliad 4

ATODLEN 2Yr Wybodaeth sy’n Ofynnol ar gyfer Cais am Drwydded

RHAN 1Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y ceisydd mewn perthynas â’r plentyn

1.  Enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r plentyn y gofynnir am drwydded ar ei gyfer.

2.  Enw a chyfeiriad yr ysgol y mae’r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd neu, os nad yw’r plentyn yn mynychu ysgol, enw a chyfeiriad athro preifat neu athrawes breifat y plentyn.

3.  Manylion pob trwydded mewn perthynas â’r plentyn a roddwyd yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrio’r awdurdod trwyddedu y mae’r cais yn cael ei wneud iddo, gan ddatgan ym mhob achos—

(a)enw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg;

(b)y dyddiad pan roddwyd y drwydded; ac

(c)dyddiadau a natur y perfformiadau neu’r gweithgareddau.

4.  Manylion pob cais mewn perthynas â’r plentyn am drwydded a wrthodwyd gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrio’r awdurdod trwyddedu y mae’r cais yn cael ei wneud iddo, yn y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos—

(a)enw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg; a

(b)y rhesymau (os ydynt yn hysbys) dros wrthod rhoi trwydded.

5.  Manylion unrhyw berfformiadau nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar eu cyfer, yn rhinwedd adran 37(3) o Ddeddf 1963, ac y cymerodd y plentyn ran ynddynt yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos—

(a)dyddiad y perfformiad;

(b)nifer y diwrnodau y cynhaliwyd y perfformiad;

(c)teitl y perfformiad; a

(d)enw a chyfeiriad y person a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad y cymerodd y plentyn ran ynddo.

6.  Y dyddiadau (os oes rhai) pan oedd y plentyn yn absennol o’r ysgol yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais oherwydd ei fod wedi cymryd rhan mewn perfformiad neu weithgaredd.

7.  Swm unrhyw arian a enillwyd gan y plentyn yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan a oedd yr arian a enillwyd yn arian mewn cysylltiad â pherfformiadau neu weithgareddau y rhoddwyd trwydded ar eu cyfer neu berfformiad nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar ei gyfer.

RHAN 2Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y ceisydd am y perfformiadau neu’r gweithgareddau

8.  Enw, teitl a chyfeiriad y ceisydd.

9.  Enw a natur y perfformiadau neu weithgareddau y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy (er enghraifft, rhai theatraidd, ffilmio, chwaraeon, modelu), a disgrifiad o’r hyn y byddai’n ofynnol i’r plentyn ei wneud o ganlyniad i gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgareddau.

10.  Y man lle y cynhelir y gweithgareddau, y perfformiadau a’r ymarferion y gofynnir am drwydded ar eu cyfer, gan gynnwys unrhyw gyfnodau yn y fan a’r lle.

11.  Dyddiadau gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer, neu nifer y diwrnodau, a’r cyfnod pryd, y gofynnir i’r plentyn gael cymryd rhan mewn gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion.

12.  Parhad neu hyd amser cyfan disgwyliedig y gweithgareddau neu berfformiadau (gan gynnwys unrhyw ymarferion) y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy a bras amcan o hyd ymddangosiad y plentyn mewn perfformiadau neu weithgareddau o’r fath.

13.  Faint o waith nos (os oes gwaith nos) y gwneir cais am gymeradwyaeth ar ei gyfer oddi wrth yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30, gan ddatgan—

(a)bras amcan o nifer y diwrnodau;

(b)bras amcan o’i hyd ar bob diwrnod; ac

(c)y rheswm y mae’n rhaid i’r perfformiad fod ar ffurf gwaith nos.

14.  Y symiau sydd i’w hennill gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiadau neu’r gweithgareddau y gofynnir am y drwydded mewn cysylltiad â hwy, ac enw, cyfeiriad a disgrifiad y person y mae’r symiau i’w talu iddo, os na fyddant yn cael eu talu i’r plentyn o dan sylw.

15.  Pan ofynnir am drwydded mewn cysylltiad â pherfformiad, y trefniadau arfaethedig ar gyfer unrhyw ymarferion cyn y perfformiad cyntaf y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan mewn cysylltiad â phob ymarfer—

(a)y dyddiad;

(b)y man lle y mae i’w gynnal; a

(c)bras amcan o’r amser a’r hyd.

16.  Y diwrnodau neu’r hanner diwrnodau y gofynnir am ganiatâd i’r plentyn fod yn absennol o’r ysgol arnynt i’w alluogi i gymryd rhan mewn perfformiadau (gan gynnwys ymarferion) neu weithgareddau y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer.

17.  Y trefniadau arfaethedig (os oes rhai) o dan reoliad 13 ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan—

(a)pan fo’r addysg i’w darparu gan ysgol, enw a chyfeiriad yr ysgol sydd i’w mynychu; neu

(b)pan fo’r addysg i’w darparu ac eithrio drwy gyfrwng ysgol—

(i)enw, cyfeiriad a chymhwyster yr athro preifat arfaethedig neu’r athrawes breifat arfaethedig;

(ii)y man lle y caiff y plentyn ei addysgu;

(iii)y cwrs astudio arfaethedig;

(iv)nifer y plant eraill sydd i’w haddysgu gan yr athro preifat neu’r athrawes breifat yr un pryd â’r plentyn y mae’r cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn; a

(v)a yw’r plentyn i gael y cyfanswm o ran addysg sy’n unol â rheoliad 15(3)(d).

18.  Enw a chyfeiriad yr hebryngwr arfaethedig, neu pan na fo’n ofynnol cael unrhyw hebryngwr o’r fath yn rhinwedd rheoliad 17(2), enw a chyfeiriad y rhiant neu’r athro neu’r athrawes a fydd â gofal dros y plentyn.

19.  Enw’r awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg (os oes un), a gymeradwyodd gynt benodiad yr hebryngwr at ddibenion trwydded.

20.  Nifer y plant sydd i fod yng ngofal yr hebryngwr yn ystod yr amser y bydd â gofal dros y plentyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn.

21.  Cyfeiriad unrhyw lety lle y bydd y plentyn yn byw os yw’n wahanol i’r man lle y byddai’r plentyn yn byw fel arfer, nifer y plant eraill, a manylion am yr hebryngwr (os oes un), a fydd yn byw yn yr un llety.

22.  Bras amcan o hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio yn teithio, a’r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer cludiant—

(a)i’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd; a

(b)o’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd.

23.  Enw unrhyw awdurdod lleol arall neu, yn yr Alban, unrhyw awdurdod addysg arall y mae cais wedi ei wneud iddo i blentyn arall gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau y mae’r cais yn ymwneud ag ef (os nad yw’n hysbys adeg gwneud y cais, mae i’w ddarparu pan fo’n hysbys).

RHAN 3Y ddogfennaeth sy’n ofynnol

24.  At ddibenion rheoliad 4(1)(d), y ddogfennaeth sy’n ofynnol yw—

(a)copi o dystysgrif geni’r plentyn;

(b)dau ffotograff union yr un fath o’r plentyn a dynnwyd yn ystod y chwe mis cyn dyddiad y cais;

(c)copi o’r contract, y contract drafft neu ddogfennau eraill sy’n cynnwys manylion y cytundeb sy’n rheoleiddio ymddangosiad y plentyn yn y perfformiadau, neu’n rheoleiddio’r gweithgaredd, y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer neu ar ei gyfer; a

(d)y polisi (neu bolisïau) amddiffyn plant ac unrhyw bolisïau eraill a gymhwysir gan y ceisydd.

Rheoliad 11

ATODLEN 3Y Cofnodion sydd i’w Cadw gan y Deiliad Trwydded

RHAN 1Y drwydded a roddir mewn cysylltiad â pherfformiad

1.  Y drwydded.

2.  Y manylion canlynol mewn cysylltiad â phob diwrnod y mae’r plentyn yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer—

(a)y dyddiad;

(b)amser cyrraedd y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer;

(c)amser ymadael â’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer;

(d)amserau pob cyfnod pryd y cymerodd y plentyn ran mewn perfformiad neu ymarfer;

(e)amser pob ysbaid gorffwys;

(f)amser pob ysbaid pryd bwyd; ac

(g)amserau unrhyw waith nos a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30.

3.  Pan fo trefniadau wedi eu gwneud i’r plentyn gael ei addysgu gan athro preifat neu athrawes breifat, dyddiad a hyd pob gwers a’r pwnc a addysgir.

4.  Manylion yr anafiadau a’r afiechydon (os oes rhai) y bu’r plentyn yn dioddef ganddynt yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer, gan gynnwys y dyddiadau pan ddigwyddodd yr anafiadau, gan ddatgan a wnaeth yr anafiadau neu’r afiechydon hynny atal y plentyn rhag bod yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer.

5.  Dyddiadau’r seibiannau mewn perfformiadau sy’n ofynnol o dan reoliad 29(1).

6.  Swm yr holl arian a enillwyd gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiad ac enwau, cyfeiriadau a disgrifiad y personau y talwyd y symiau hynny iddynt.

7.  Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi trwydded yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid ymdrin â’r symiau a enillir gan y plentyn mewn modd a gymeradwyir gan yr awdurdod, cyfanswm y symiau a’r modd yr ymdriniwyd â hwy.

RHAN 2Trwydded a roddir mewn cysylltiad â gweithgaredd

8.  Y cofnodion a bennir yn Rhan 1 fel petai’r rhan honno’n ymwneud â’r gweithgaredd y rhoddwyd y drwydded ar ei gyfer.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources