Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1759 (Cy. 243)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed

8 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Hydref 2015

Yn dod i rym

31 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Hydref 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989

2.—(1Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989(3) (prisio ar sail y contractwr) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1D) hepgorer y geiriau “or after”.

(3Ar ôl paragraff (1D) mewnosoder—

(1E) Paragraph (2E) of this regulation applies in relation to a hereditament, shown in a non-domestic rating list in Wales compiled on or after 1 April 2017, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.

(4Ar ôl paragraff (2D) mewnosoder—

(2E) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1E) of this regulation applies, the appropriate rate is to be assumed to be—

(a)in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 2.1 per cent;

(b)in any other case 3.8 per cent.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei ystyried yn swm sy’n hafal i’r rhent yr amcangyfrifir y gellid disgwyl yn rhesymol gosod yr hereditament amdano o flwyddyn i flwyddyn (yn ddarostyngedig i ragdybiaethau penodedig). Yn yr achosion hynny pan nad oes gwybodaeth ar gael am y farchnad rentu gyffredinol ac na ellir defnyddio elw a cholled i roi awgrym o werth rhent, penderfynir, yn lle hynny, ar werth ardrethol hereditament annomestig drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Rhagnodir y cyfraddau hyn yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”).

Drwy wneud y Rheoliadau hyn a fydd yn cael effaith o 31 Hydref 2015, mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan reoliad 2 o Reoliadau 1989 ar gyfer rhestri ardrethu annomestig a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi yn http://www.assembly.wales/en/bus-home/Pages/Plenary.aspx?category=Laid%20Document.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

O.S. 1989/2303 (fel y’i diwygiwyd).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources