Offerynnau Statudol Cymru
2015 Rhif 1785 (Cy. 248) (C. 109)
Llesiant, Cymru
Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015
Gwnaed
30 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 56(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(1).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Y diwrnod penodedig
2. 16 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
(a)adran 1 (trosolwg);
(b)adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”);
(c)adran 10 (dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol);
(d)adran 14 (canllawiau);
(e)adran 17 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru);
(f)adran 22(2) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: canllawiau);
(g)adran 22(3) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: ystyried canllawiau);
(h)adran 26 (panel cynghori);
(i)adran 27 (aelodau penodedig);
(j)adran 28 (talu treuliau aelodau’r panel);
(k)adran 40(7) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau);
(l)adran 40(8) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd cynghorau cymuned i ystyried canllawiau);
(m)adran 51 (canllawiau);
(n)adran 52 (ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach);
(o)Atodlen 2 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
30 Medi 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 16 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:
adran 1 (trosolwg);
adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”);
adran 10 (dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol);
adran 14 (canllawiau);
adran 17 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru);
adran 22(2) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: canllawiau);
adran 22(3) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: ystyried canllawiau);
adran 26 (panel cynghori);
adran 27 (aelodau penodedig);
adran 28 (talu treuliau aelodau’r panel);
adran 40(7) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau);
adran 40(8) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd cynghorau cymuned i ystyried canllawiau);
adran 51 (canllawiau);
adran 52 (ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach);
Atodlen 2 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).
Daeth adrannau 53 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc), 54 (rheoliadau), 55 (dehongli), 56 (cychwyn) a 57 (enw byr) i rym ar 30 Ebrill 2015.