Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Close

Print Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1785 (Cy. 248) (C. 109)

Llesiant, Cymru

Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015

Gwnaed

30 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 56(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Y diwrnod penodedig

2.  16 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—

(a)adran 1 (trosolwg);

(b)adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”);

(c)adran 10 (dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol);

(d)adran 14 (canllawiau);

(e)adran 17 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru);

(f)adran 22(2) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: canllawiau);

(g)adran 22(3) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: ystyried canllawiau);

(h)adran 26 (panel cynghori);

(i)adran 27 (aelodau penodedig);

(j)adran 28 (talu treuliau aelodau’r panel);

(k)adran 40(7) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau);

(l)adran 40(8) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd cynghorau cymuned i ystyried canllawiau);

(m)adran 51 (canllawiau);

(n)adran 52 (ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach);

(o)Atodlen 2 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

30 Medi 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 16 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • adran 1 (trosolwg);

  • adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”);

  • adran 10 (dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol);

  • adran 14 (canllawiau);

  • adran 17 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru);

  • adran 22(2) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: canllawiau);

  • adran 22(3) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: ystyried canllawiau);

  • adran 26 (panel cynghori);

  • adran 27 (aelodau penodedig);

  • adran 28 (talu treuliau aelodau’r panel);

  • adran 40(7) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau);

  • adran 40(8) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd cynghorau cymuned i ystyried canllawiau);

  • adran 51 (canllawiau);

  • adran 52 (ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach);

  • Atodlen 2 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).

Daeth adrannau 53 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc), 54 (rheoliadau), 55 (dehongli), 56 (cychwyn) a 57 (enw byr) i rym ar 30 Ebrill 2015.

Back to top

Options/Help