Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/07/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rhagolygol

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “special educational needs” a “special educational provision” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(1);

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am C;

ystyr “awdurdod yr ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr(2) ar gyfer yr ardal y lleolir C ynddi, neu y mae C i’w leoli ynddi, os yw’n wahanol i’r awdurdod cyfrifol;

ystyr “C” (“C”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol(3);

mae i “canolfan hyfforddi ddiogel” yr ystyr a roddir i “secure training centre” yn adran 43(1)(d) o Ddeddf Carchardai 1952(4);

mae i “cartref plant diogel” yr ystyr a roddir i “secure children’s home” yn adran 102(11) o Ddeddf 2012(5);

mae i “cofnod achos” (“case record”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 63;

ystyr “Cydgysylltydd Addysg PDG” (“LAC Education Co-ordinator”) yw’r person a ddynodwyd gan yr awdurdod cyfrifol i gydgysylltu cynlluniau addysg personol a rhoi sylw i anghenion addysgol plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal o fewn ardal yr awdurdod cyfrifol;

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw’r person sy’n gyfrifol am ganolfan hyfforddi ddiogel;

ystyr “cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc” (“lead director for children and young people’s services”) yw swyddog yr awdurdod cyfrifol a benodwyd at ddibenion adran 27 o Ddeddf Plant 2004(6);

ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r cynghorydd personol a drefnwyd ar gyfer C yn unol ag adran 106 o Ddeddf 2014;

mae i “cymeradwyaeth dros dro” (“temporary approval”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(1);

mae i “cynllun addysg personol” (“personal education plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(b)(ii);

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw’r cynllun, a baratoir ac a gynhelir yn unol ag adran 83 o Ddeddf 2014, ar gyfer darparu gofal a chymorth i C yn y dyfodol;

mae i “cynllun iechyd” (“health plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(1)(b)(i);

mae i “cynllun lleoli” (“placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1)(a) ac mae’n ffurfio rhan o gynllun gofal a chymorth C;

mae i “cynllun lleoli dan gadwad” (“detention placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 58;

mae i “cynllun llwybr” (“pathway plan”) yr ystyr a roddir yn adran 107 o Ddeddf 2014;

ystyr “darparwr gofal iechyd” (“health care provider”), yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol(7), neu, yn achos lleoliad mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol(8) ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol(9), ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad y lleolir neu y bwriedir lleoli C ynddi;

ystyr “darparwr gwasanaeth maethu” (“fostering service provider”) yw—

(a)

darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “darparydd gwasanaeth maethu” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Maethu(10), a

(b)

darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “fostering service provider” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(11);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(12);

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(13);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(14);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—

(a)

dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)

dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu

(c)

gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(15);

ystyr “F” (“F”) yw person a gymeradwywyd fel rhiant maeth awdurdod lleol(16) ac y bwriedir lleoli C gydag ef neu, yn ôl y digwydd, y lleolir C gydag ef;

ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref plant a benodir yn unol â gofynion Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(17) sydd â chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant addysgol plentyn, a chysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw

(a)

pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol i C fyw gyda P yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, neu

(b)

trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer lletya a chynnal C mewn unrhyw un o’r ffyrdd a bennir yn adran 81(6) o Ddeddf 2014;

ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw’r person sy’n gyfrifol am sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “P” (“P”) yw—

(a)

person sy’n rhiant C;

(b)

person nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; neu

(c)

pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os oedd gorchymyn trefniadau plentyn(18), a oedd yn rheoleiddio trefniadau byw C, mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwid yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd C i fyw gydag ef(19);

ystyr “person cysylltiedig” (“connected person”) yw perthynas(20), cyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig ag C;

ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)

P, os yw C i fyw, neu yn byw, gyda P;

(b)

F, os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, gydag F;

(c)

os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, y person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(21) mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw; neu

(d)

os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, y person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety;

mae i “proses asesu gyflawn” (“full assessment process”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(2)(d);

ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag C yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol o dan adran 97 o Ddeddf 2014;

mae i “remánd i lety awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “remand to local authority accommodation” yn adran 91(3) o Ddeddf 2012(22);

mae i “remánd i lety cadw ieuenctid” yr ystyr a roddir i “remand to youth detention accommodation” yn adran 91(4) o Ddeddf 2012;

ystyr “y Rheoliadau Maethu” (“the Fostering Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(23);

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(24) fel rheolwr cartref plant diogel;

ystyr “SAA” (“IRO”) yw’r swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos C o dan adran 99(1) o Ddeddf 2014;

mae i “sefydliad troseddwyr ifanc” yr ystyr a roddir i “young offenders institution” yn adran 43(1)(aa) o Ddeddf Carchardai 1952(25);

ystyr “swyddog enwebedig” (“nominated officer”) yw’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol neu uwch-swyddog arall yr awdurdod cyfrifol a enwebwyd mewn ysgrifen gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i weithredu ar ei ran at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol gyda chyfranogaeth bwrdd iechyd lleol yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(26);

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig(27) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(28), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practitioner”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr deintyddion o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(29) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(30), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio’n unol â’r Ddeddf honno; ac

ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw’r person annibynnol a benodir i fod yn ymwelydd ar gyfer C o dan adran 98 o Ddeddf 2014.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr unrhyw gyfeiriad i’r perwyl fod C “dan gadwad” (“detained”) yw fod C, ar ôl ei gollfarnu am drosedd, wedi—

(a)ei gadw mewn carchar(31) neu mewn llety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(c)yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad wedi ei osod ar C fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol, ac

yn union cyn ei gadw, neu osod gofyniad preswylio o’r fath arno, roedd C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddogfen neu gofnod arall yn cynnwys unrhyw ddogfen neu gofnod o’r fath a gedwir neu a ddarperir mewn ffurf sydd ar gael yn hwylus, ac yn cynnwys copïau o ddogfennau gwreiddiol yn ogystal â dulliau electronig o gofnodi gwybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(32) ac eithrio pan fo’r plentyn yn dod o fewn rheoliad 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraffau 57 a 71 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), paragraff 56 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), a pharagraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40).

(2)

Diffinnir “awdurdod lleol” ac “awdurdod lleol yn Lloegr”” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(3)

Ar gyfer ystyr plentyn sy’n “derbyn gofal” gweler adran 74 o Ddeddf 2014.

(5)

Hynny yw, llety a ddarperir mewn cartref plant (yn yr ystyr a roddir i “children’s home” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000) sydd— (a) yn darparu llety at ddibenion cyfyngu ar ryddid, a (b) y cofrestrir person mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.

(7)

Bwrdd iechyd lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).

(8)

Sefydlwyd Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41) (“Deddf 2006”), fel y’i mewnosodwyd gan adran 9(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7).

(9)

Grŵp comisiynu clinigol yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf 2006. Mewnosodwyd adran 14D gan adran 25(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012. Gweler hefyd adran 1I o Ddeddf 2006, a fewnosodwyd gan adran 10 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012.

(10)

Nodir y diffiniad hwn yn yr un geiriad Saesneg yn union yn Rheoliadau Maethu (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/581) mewn cysylltiad â rhieni maeth awdurdod lleol a gymeradwywyd yn Lloegr.

(16)

Diffinnir “rhiant maeth awdurdod lleol” at ddibenion Deddf 2014 yn adran 197(1) o’r Ddeddf honno.

(17)

O.S. 2002/327 (Cy. 40); mewnosodwyd y gofyniad i benodi “gweithiwr dolen gyswllt” yn rheoliad 11 gan Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007 (O.S. 2007/311 (Cy. 28)).

(18)

Roedd adran 12 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) yn diddymu’r diffiniadau o “residence order” a “contact order” yn adran 8(1) o Ddeddf 1989 ac yn eu disodli gan orchymyn newydd, sef “child arrangements order”.

(19)

Mae unrhyw gyfeiriad at blentyn sydd yng ngofal awdurdod yn gyfeiriad at blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod yn rhinwedd gorchymyn gofal, gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989.

(20)

Diffinnir “perthynas” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(22)

Hynny yw, ar remánd i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2012.

(25)

Mewnosodwyd adran 43(1)(aa) gan adran 170 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) a pharagraff 11 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno, a chan adran 148(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraff 3 o Atodlen 26 i’r Ddeddf honno.

(27)

Amnewidiwyd y diffiniad o “registered medical practitioner” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) gan baragraff 10 o Atodlen 1 i O.S. 2002/3135, gydag effaith o 10 Tachwedd 2009 ymlaen.

(28)

2006 p. 42 (“Deddf 2006”). Caniateir darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol naill ai o dan “general medical services contract” yn unol ag adran 42 o Ddeddf 2006, neu yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol) neu drefniadau o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen).

(30)

2006 p. 42 (“Deddf 2006”). Caniateir darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan “general medical services contract” yn unol ag adran 42 o Ddeddf 2006, neu yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol) neu drefniadau o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen).

(31)

Diffinnir “carchar”, “llety cadw ieuenctid”, “mangre a gymeradwywyd”, a “mechnïaeth mewn achos troseddol” yn adran 188(1) o Ddeddf 2014.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources