Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: RHAN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/07/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rhagolygol

RHAN 2LL+CTrefniadau ar gyfer gofalu am blentyn

Cynllunio gofalLL+C

4.—(1Os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os nad oes cynllun gofal a chymorth eisoes wedi ei baratoi ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol asesu anghenion C am wasanaethau er mwyn cyrraedd neu gynnal safon resymol o iechyd neu ddatblygiad, a pharatoi cynllun o’r fath(1).

(2Pan fo gan C gynllun gofal a chymorth a baratowyd yn unol ag adran 54 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, yn ei asesiad o dan baragraff (1), gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a gofnodir yn y cynllun hwnnw.

(3Ac eithrio yn achos plentyn y mae adran 31A o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) yn gymwys iddo(2), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn bo C yn cael ei leoli am y tro cyntaf gan yr awdurdod cyfrifol neu, os nad yw hynny’n ymarferol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf.

(4Wrth asesu anghenion C o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’r llety a ddarperir ar gyfer C yn bodloni gofynion Rhan 6 o Ddeddf 2014.

(5Onid yw paragraff (6) yn gymwys, dylai’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag—

(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, neu

(b)os nad oes person o’r fath, y person a oedd yn gofalu am C yn union cyn trefnu lleoliad ar gyfer C gan yr awdurdod cyfrifol.

(6Pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn, ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag C.

(7Pan fo cynllun gofal a chymorth a baratoir yn unol â’r Rhan hon yn bodloni’r gofynion ar gyfer cynllun gofal sy’n ofynnol gan adran 31A o Ddeddf 1989, caniateir ei drin fel “cynllun adran 31A”.

(8Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Paratoad a chynnwys y cynllun gofal a chymorthLL+C

5.—(1Rhaid i’r cynllun gofal a chymorth gynnwys cofnod o’r wybodaeth ganlynol—

(a)y cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth C (“y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd”);

(b)y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i ddiwallu anghenion C mewn perthynas ag—

(i)iechyd, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (“y cynllun iechyd”),

(ii)addysg a hyfforddiant, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 (“y cynllun addysg personol”),

(iii)datblygiad emosiynol ac ymddygiadol,

(iv)hunaniaeth, gan roi sylw penodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C,

(v)perthnasoedd teuluol a chymdeithasol ac yn benodol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 2,

(vi)ymgyflwyniad cymdeithasol, a

(vii)sgiliau hunanofal;

(c)ac eithrio mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, ond na ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol mewn unrhyw un o’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn adran 81 o Ddeddf 2014, manylion o’r trefniadau a wnaed a’r llety a ddarparwyd ar gyfer C (“y cynllun lleoli”);

(d)enw’r SAA;

(e)manylion am safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny a ganfuwyd ac a ystyriwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b), y cynllun lleoli ac unrhyw newid neu newid arfaethedig yn y cynllun gofal a chymorth;

(f)pan fo C yn—

(i)dioddefwr, neu pan fo rheswm i gredu y gallai C fod yn ddioddefwr masnachu mewn bodau dynol yn yr ystyr a roddir i “trafficking in human beings” yng Nghonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Bodau Dynol,

(ii)plentyn ar ei ben ei hunan yn ceisio lloches yn yr ystyr a roddir i “unaccompanied asylum seeking child” yn y Rheolau Mewnfudo, ac wedi gwneud cais, neu wedi dynodi wrth yr awdurdod cyfrifol ei fwriad i wneud cais, a heb gael caniatâd amhenodol i aros,

y ffaith honno.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheolau Mewnfudo” (“Immigration Rules”) yw’r rheolau a bennir ar y pryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gadw cynllun gofal a chymorth C o dan adolygiad yn unol â Rhan 6, ac os bydd o’r farn bod angen gwneud rhyw newid, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny.

(2Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yn y cynllun gofal a chymorth, oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, a gyflawnwyd yn unol â Rhan 6.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth—

(a)i C, oni bai, ym marn yr awdurdod cyfrifol, na fyddai’n briodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)i P,

(c)i’r SAA,

(d)os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, gydag F, i’r darparwr gwasanaeth maethu a gymeradwyodd F, yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,

(e)os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, i’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw, ac

(f)os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, i’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety.

(4Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi copi o’r cynllun gofal a chymorth, neu gopi llawn o’r cynllun gofal a chymorth, i P os yw’r awdurdod cyfrifol o’r farn y byddai hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gofal iechydLL+C

7.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn bo C wedi ei leoli am y tro cyntaf ganddo neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn yr adolygiad cyntaf o achos C, drefnu i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig—

(a)cwblhau asesiad o gyflwr iechyd C, a gall hynny gynnwys archwiliad corfforol, a

(b)darparu adroddiad ysgrifenedig o’r asesiad, gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C,

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os cynhaliwyd asesiad o gyflwr iechyd C, o fewn y cyfnod o 3 mis yn union cyn y lleoliad, a’r awdurdod cyfrifol wedi cael adroddiad ysgrifenedig sy’n bodloni gofynion y paragraff hwnnw, a’r awdurdod cyfrifol yn fodlon na ddigwyddodd unrhyw newidiadau sylweddol yn ystod y cyfnod er pan wnaed yr asesiad hwnnw.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig adolygu cyflwr iechyd C a darparu adroddiad ysgrifenedig ar bob adolygiad gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C—

(a)o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o 6 mis cyn pumed pen-blwydd C , a

(b)o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o ddeuddeng mis ar ôl pumed pen-blwydd C.

(4Nid yw paragraffau (1) a (3) yn gymwys os yw C yn gwrthod cydsynio i’w asesu, a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol ar gyfer hynny.

(5Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir gwasanaethau gofal iechyd priodol i C, yn unol â’r cynllun iechyd, gan gynnwys—

(a)gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol, a

(b)cyngor ac arweiniad ynglŷn ag iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd.

(6Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod C—

(a)wedi cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad; a

(b)o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig cyn gynted ag y bo’n ymarferol a beth bynnag ddim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.

(7Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y bo’n ymarferol, sicrhau bod C yn parhau’n gofrestredig gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, drwy gydol y lleoliad.

(8Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 ac nad yw paragraff (2) yn gymwys, ac na wnaed asesiad o iechyd C neu na chofrestrwyd C gydag ymarferydd cyffredinol neu na osodwyd C o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel petai’r lleoliad hwnnw wedi ei wneud ar 6 Ebrill 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cyswllt â phlentyn mewn gofalLL+C

8.  Wrth ystyried a yw cyswllt rhwng C ac unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 34(1) o Ddeddf 1989 yn gyson â diogelu a hyrwyddo llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw i gynllun gofal a chymorth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol a’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu, o dan adran 34(6) o Ddeddf 1989 (gwrthod cyswllt fel mater brys), gwrthod caniatáu cyswllt a fyddai, fel arall, wedi bod yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1) o Ddeddf 1989(5) neu orchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau canlynol o’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) (“yr wybodaeth benodedig”)—

(a)C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)P,

(c)os oedd person, yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, yn gofalu am C yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant, y person hwnnw,

(d)unrhyw berson arall yr ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol fod ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol, ac

(e)yr SAA.

(3Yr wybodaeth benodedig yw—

(a)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol;

(b)dyddiad y penderfyniad;

(c)y rhesymau am y penderfyniad;

(d)parhad y penderfyniad (os yw’n gymwys); ac

(e)y rhwymedïau sydd ar gael mewn achos o anfoddhad.

(4Caiff yr awdurdod cyfrifol wyro oddi wrth delerau unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 34 o Ddeddf 1989 drwy gytundeb gyda’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef, ar yr amod—

(a)bod C hefyd yn cytuno a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol, a

(b)yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig o’r wybodaeth benodedig o fewn 5 diwrnod gwaith at y personau a restrir ym mharagraff (2).

(5Pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu amrywio neu atal dros dro unrhyw drefniadau (ac eithrio o dan orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989) a wnaed gyda’r bwriad o ganiatáu i unrhyw berson gael cyswllt ag C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys yr wybodaeth benodedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2).

(6Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi unrhyw benderfyniad a wneir o dan y rheoliad hwn yng nghynllun gofal a chymorth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae hyn yn cynnwys cynllun a baratoir o dan adran 31A o Ddeddf 1989.

(2)

Yn achos plentyn y mae adran 31A yn gymwys iddo, bydd y llys yn gosod amserlen, y bydd rhaid paratoi’r cynllun gofal oddi mewn iddi.

(4)

Diffinnir “niwed” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(5)

Diwygiwyd adran 34(1) o Ddeddf 1989 gan adran 139(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) a pharagraffau 54 a 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources