Search Legislation

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1867 (Cy. 274)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

Gwnaed

4 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

28 Tachwedd 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)(1), 16(1)(2), 17(1)(3), 26(1) a (3)(4), 31(5) a 48(1)(6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(7) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(8).

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth i’r cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(9).

Cafwyd ymgynghoriad yn ystod llunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion diogelwch bwyd(10).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(11) ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn gyfleus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i Offerynnau’r UE a restrir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Tachwedd 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “Cyfarwyddeb 98/83” (“Directive 98/83”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl(12);

ystyr “Cyfarwyddeb 2003/40” (“Directive 2003/40”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy’n sefydlu’r rhestr, y cyfyngiadau crynodiad a’r gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a’r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogir ag osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(13);

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/54” (“Directive 2009/54”) yw Cyfarwyddeb 2009/54/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol(14);

ystyr “Cyfarwyddeb 2013/51” (“Directive 2013/51”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/EURATOM sy’n gosod gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl(15);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “dŵr mwynol naturiol” (“natural mineral water”) yw dŵr—

(a)

sy’n iachus yn ficrobiolegol o fewn ystyr Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2009/54,

(b)

sy’n tarddu o lefel trwythiad neu ddyddodion tanddaearol ac sy’n dod allan o ffynnon a dapiwyd mewn un neu fwy o allanfeydd naturiol neu sydd wedi’u tyllu;

(c)

y gellir ei wahaniaethu’n amlwg oddi wrth ddŵr yfed oherwydd y nodweddion canlynol a gafodd eu cadw’n ddifreg oherwydd tarddiad tanddaearol y dŵr, sydd wedi ei ddiogelu rhag pob risg o lygredd—

(i)

ei natur a nodweddir gan ei gynnwys mwynol, elfennau hybrin neu ansoddau eraill a, phan fo’n briodol, gan effeithiau penodol, a

(ii)

yn ei burdeb gwreiddiol, a

(d)

sydd am y tro yn cael ei gydnabod yn unol â rheoliad 4;

ystyr “dŵr mwynol naturiol eferw” (“effervescent natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol sydd, yn ei ffynhonnell neu ar ôl ei botelu, yn gollwng carbon deuocsid yn ddigymell ac mewn dull a welir yn eglur o dan amodau tymheredd a phwysedd arferol;

ystyr “dŵr yfed” (“drinking water”) yw dŵr y bwriedir ei werthu i’w yfed gan bobl ar wahân i—

(a)

dŵr mwynol naturiol, neu

(b)

dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys bod gennych rywbeth yn eich meddiant i’w werthu a’i gynnig, ei arddangos neu ei hysbysebu i’w werthu, ac mae “gwerthiant” (“sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “hysbyseb” (“advertisement”) yw cynrychiolaeth ar unrhyw ffurf mewn cysylltiad â masnach neu fusnes er mwyn hyrwyddo cyflenwad nwyddau, ac mae “hysbysebu” (“advertise”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “label” (“label”) yw unrhyw dag, brand, marc, deunydd darluniadol neu ddisgrifiadol arall, sydd wedi ei ysgrifennu, printio, stensilio, marcio, boglynnu, neu ei argraffu ar botel o ddŵr, neu sydd ynghlwm wrth botel o ddŵr, ac mae “wedi’i labelu” (“labelled”) a “labelu” (“labelling”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodwedd, elfen, organeb neu sylwedd a restrir yn yr ail golofn o unrhyw Dabl yn Rhan 2, Rhan 3 neu Ran 4 o Atodlen 7;

ystyr yr enw “potel” (“bottle”) yw cynhwysydd caeedig o unrhyw fath y gwerthir dŵr ynddo i’w yfed gan bobl, neu y ceir dŵr ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl ohono, ac mae’r ferf “potelu” (“bottle”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “Rheoliad 115/2010” (“Regulation 115/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy’n gosod yr amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(16);

ystyr “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn” (“ozone-enriched air treatment”) yw—

(a)

triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iv) neu 15(a)(iv) ac Atodlen 3, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, gydag aer a gyfoethogir ag osôn, neu

(b)

yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i gweithredir yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig neu’r Wladwriaeth AEE honno; ac

ystyr “triniaeth tynnu fflworid” (“fluoride removal treatment”) yw—

(a)

triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iii) neu 15(a)(iii) ac Atodlen 2, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid, neu

(b)

yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yng Nghyfarwyddeb 98/83, Cyfarwyddeb 2009/54, Rheoliad 115/2010 neu Gyfarwyddeb 2013/51 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau hynny neu’r Rheoliad hwnnw.

(3Mae cyfeiriadau at yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 98/83, Cyfarwyddeb 2003/40, Cyfarwyddeb 2009/54, Rheoliad 115/2010 a Chyfarwyddeb 2013/51 yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at labelu potel yn cynnwys labelu a wneir cyn potelu unrhyw ddŵr a labelu ar ôl potelu.

Esemptiadau

3.—(1Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr—

(a)sy’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2001/83 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar god y Gymuned sy’n ymwneud â chynnyrch meddyginiaethol i’w defnyddio gan bobl(17);

(b)sy’n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei ffynhonnell at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;

(c)nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl; neu

(d)sy’n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd y bwriedir eu defnyddio i oeri bwyd.

RHAN 2Dŵr mwynol naturiol

Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol

4.—(1Dim ond os caiff ei gydnabod yn unol â pharagraff (2) y caniateir gwerthu dŵr mwynol naturiol fel dŵr mwynol naturiol.

(2Cydnabyddir bod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—

(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear yng Nghymru, pan roddir cydnabyddiaeth gan awdurdod bwyd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1;

(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol y rhan honno o’r Deyrnas Unedig;

(c)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol o’r Wladwriaeth AEE honno;

(d)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—

(i)pan gydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1; neu

(ii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol—

(aa)rhan arall o’r Deyrnas Unedig; neu

(bb)Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig.

(3Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn yr Undeb Ewropeaidd at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54 yn dystiolaeth derfynol bod dŵr yn cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio pan roddir y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 1.

Gwrthod rhoi cydnabyddiaeth neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl

5.—(1Pan ganfyddir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan reoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i)—

(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 1, na fodlonir gofynion paragraff 10(a) o’r Rhan honno;

(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu

(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 1(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 5(c) o Ran 2 o Atodlen 1,

caniateir i’r awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.

(2Pan fydd yr awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi cydnabyddiaeth i ddŵr neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, caniateir i’r person sy’n datblygu neu’n dymuno datblygu’r ffynnon y mae’r dŵr hwnnw yn dod ohoni, neu, os yn wahanol, y person sy’n berchen y tir y mae’r ffynnon honno ynddo, apelio yn erbyn y penderfyniad i berson a benodwyd at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.

(3Rhaid i’r person a benodwyd ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan yr awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, ac adrodd yn ysgrifenedig i’r Asiantaeth o fewn 3 mis gan argymell camau gweithredu.

(4Rhaid i’r Asiantaeth un ai—

(a)cadarnhau’r penderfyniad, ynghyd â’r rhesymau; neu

(b)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer cydnabyddiaeth i’r dŵr dan sylw, neu ei adfer ei hun, fel y bo’n briodol.

(5Pan gyfarwyddir awdurdod bwyd gan yr Asiantaeth i roi neu adfer cydnabyddiaeth o dan baragraff (4)(b), rhaid iddo gydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwnnw ar unwaith.

Cais i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl

6.  Caiff person sy’n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr a gydnabyddir fel dŵr mwynol naturiol ohoni yn unol â rheoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i), wneud cais i’r awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, i dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl.

Hysbysiad o newidiadau

7.  Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r Asiantaeth ar unwaith—

(a)os bydd yn rhoi neu’n adfer cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl; neu

(b)os caiff ei hysbysu o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnwyd dŵr mwynol naturiol ohoni.

Datblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiol

8.—(1Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata’r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—

(a)bod y dŵr a echdynnwyd o’r ffynnon honno’n ddŵr mwynol naturiol;

(b)bod awdurdod bwyd yr ardal lle mae’r ffynnon wedi ei lleoli wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon honno gael ei datblygu; ac

(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.

(2Pan ganfyddir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.

Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau iddo

9.—(1Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth ei ffynhonnell—

(a)drwy unrhyw driniaeth heblaw am—

(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;

(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;

(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu

(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3;

(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw; neu

(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1)(b), ychwanegu elfennau bacteriostatig neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

Potelu dŵr mwynol naturiol

10.—(1Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol—

(a)oni bai bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni;

(b)mewn cynhwysydd heblaw cynhwysydd sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi; ac

(c)sydd, ar adeg ei botelu, yn cynnwys unrhyw un o’r sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

(2Rhaid i’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 gydymffurfio â’r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5.

Labelu dŵr mwynol naturiol

11.—(1Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu â’r canlynol—

(a)disgrifiad masnachol sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr mwynol naturiol y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon;

(b)disgrifiad masnachol sy’n wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw;

(c)unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i ddatblygu’r ffynnon, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;

(d)unrhyw fynegiad heblaw’r rhai a bennir yn is-baragraffau (f) a (g), sy’n priodoli i’r dŵr mwynol naturiol briodoleddau ynghylch atal, trin neu wella salwch dynol;

(e)unrhyw fynegiad a restrir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 6, ac eithrio pan fo’r dŵr mwynol naturiol yn bodloni’r maen prawf a restrir felly sy’n cyfateb i’r mynegiad hwnnw;

(f)y mynegiad “may be diuretic”, “gall fod yn ddiwretig”, neu “may be laxative”, “gall fod yn garthydd”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo’n briodol; neu

(g)y mynegiad “stimulates digestion”, “mae’n ysgogi treuliad”, neu “may facilitate the hepato-biliary functions”, “gall hyrwyddo’r swyddogaethau hepato-bustlog”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â’r dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol a chlinigol.

(2Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu gyda disgrifiad gwerthu heblaw—

(a)“natural mineral water”; neu

(b)yn achos dŵr mwynol naturiol eferw, un o’r canlynol, fel y bo’n briodol—

(i)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r ffynnon ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fo’n briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion sy’n cyfateb i’r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i’r goddefiannau technegol arferol;

(ii)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell; neu

(iii)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw’r lefel trwythiad neu’r dyddodion y daw’r dŵr ohono;

(c)nid oes dim yn is-baragraff (a) yn atal person rhag defnyddio’r geiriau “dŵr mwynol naturiol” yn ogystal â’r geiriau “natural mineral water”;

(d)nid oes dim yn is-baragraff (b) sy’n atal y defnydd o’r geiriau “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio’n naturiolyn ogystal â “naturally carbonated natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i gryfhau â nwy o’r ffynnon” yn ogystal â “natural mineral water fortified with gas from the spring”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio” yn ogystal â “carbonated natural mineral water”; ac

(e)nid oes dim yn is-baragraffau (a), (b), (c) na (d) sy’n atal y defnydd o eiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

(3Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol oni bai bod y botel wedi’i labelu â’r canlynol—

(a)datganiad o gyfansoddiad dadansoddol sy’n dangos ansoddion nodweddiadol y dŵr;

(b)enw’r lle y datblygir y ffynnon ac enw’r ffynnon;

(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth o ddilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, y mynegiad “fully de-carbonated” neu “partially de-carbonated”, fel y bo’n briodol;

(d)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos i gyfansoddiad dadansoddol yr ansoddion nodweddiadol;

(e)pan fo crynodiad fflworid y dŵr yn fwy na 1.5 mg/l—

(i)rhaid i’r geiriau “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”, ymddangos yn agos iawn at yr enw masnachol ac mewn llythrennau y gellir eu gweld yn glir; a

(ii)y cynnwys fflworid gwirioneddol o ran cyfansoddiad ffisigo-cemegol, y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a);

(f)nid oes dim yn is-baragraff (c) sy’n atal defnyddio’r mynegiad “cwbl ddad-garbonedig” yn ogystal â “fully de-carbonated”, neu “rhannol ddad-garbonedig” yn ogystal â “partially de-carbonated”;

(g)nid oes dim yn is-baragraff (d) sy’n atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”;

(h)nid oes dim yn is-baragraff (e)(i) sy’n atal defnyddio’r geiriau “yn cynnwys mwy na 1.5 mg/l o fflworid; nid yw’n addas i’w yfed yn rheolaidd gan blant bach a phlant o dan 7 oed” yn ogystal â “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”; ac

(i)nid oes dim yn is-baragraffau (c), (d), (e)(i), (f), (g) a (h) sy’n atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Hysbysebu dŵr mwynol naturiol

12.—(1Pan fo’n ofynnol i botel sy’n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 11(1)(b)—

(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr mwynol naturiol hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.

(2Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (1).

(3Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol o dan unrhyw fynegiad, dynodiad, nod masnach, enw brand, llun nac unrhyw arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i’w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.

Gwerthu dŵr mwynol naturiol

13.—(1Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu a’i labelu’n “natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr hwnnw yn ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn unol â rheoliad 4(2).

(2Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu os yw’r dŵr hwnnw—

(a)wedi’i echdynnu o ffynnon a ddatblygir yn groes i reoliad 8;

(b)wedi cael unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9;

(c)wedi’i botelu yn groes i reoliad 10;

(d)wedi’i labelu yn groes i reoliad 11; neu

(e)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 12.

(3Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu—

(a)sy’n cynnwys—

(i)parasitiaid neu ficro-organebau pathogenig;

(ii)Escherichia coli neu golifformau eraill a streptococi ysgarthol mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;

(iii)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; neu

(iv)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;

(b)pan nad yw cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn y ffynhonnell y cymrwyd y dŵr ohoni yn cydymffurfio â pharagraff 7 o Atodlen 4;

(c)pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw y gellir ei adfywio yn fwy na’r hyn fyddai canlyniad cynnydd arferol yn y cyfrif cynnwys bacteria a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu

(d)pan fo’r dŵr hwnnw’n cynnwys unrhyw ddiffyg organoleptig.

(4Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol o’r un ffynnon o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

RHAN 3Dŵr y bwriedir ei werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

Datblygu ffynhonnau dŵr a photelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

14.—(1Ni chaiff neb botelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—

(a)bod y dŵr wedi ei echdynnu o ffynnon a’i botelu wrth y ffynhonnell;

(b)bod y dŵr wedi ei fwriadu i’w yfed gan bobl yn ei gyflwr naturiol;

(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni; a

(d)bod y dŵr yn bodloni gofynion Atodlen 7.

(2Pan ganfyddir yn ystod datblygu bod dŵr o ffynnon wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.

Triniaethau i ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” ac ychwanegiadau iddo

15.  Ni chaiff neb roi dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn ei gyflwr yn ei ffynhonnell, trwy—

(a)unrhyw driniaeth heblaw—

(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;

(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;

(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu

(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3; neu

(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid; neu

(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr.

Labelu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

16.—(1Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr a gynhwysir ynddi—

(a)yn bodloni gofynion rheoliad 14(1); a

(b)os yw’r dŵr wedi ei drin, ei fod wedi cael triniaeth neu ychwanegiad a ganiateir o dan reoliad 15.

(2Os yw potel o ddŵr wedi’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ni chaiff neb labelu’r botel honno gyda disgrifiad masnachol—

(a)sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu

(b)yn wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.

(3Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y botel hefyd wedi’i labelu â’r canlynol—

(a)enw’r lle y datblygir y ffynnon;

(b)enw’r ffynnon;

(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth ag aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b);

(d)nid oes dim yn is-baragraff (c) yn atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”; ac

(e)nid oes dim yn is-baragraffau (c) neu (d) yn atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Hysbysebu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

17.—(1Pan fo’n ofynnol i botel o ddŵr gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 16(2)(b), yn ogystal â disgrifiad masnachol—

(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.

(2Ni chaiff neb hysbysebu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn groes i baragraff (1).

Gwerthu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

18.—(1Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu neu ei labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, os yw’r dŵr hwnnw—

(a)wedi’i botelu yn groes i reoliad 14(1);

(b)wedi cael triniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15;

(c)wedi’i labelu yn groes i reoliad 16; neu

(d)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 17.

(2Ni chaiff neb werthu dŵr o’r un ffynnon fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

RHAN 4Dŵr yfed wedi’i botelu

Potelu dŵr yfed

19.  Ni chaiff neb botelu dŵr yfed oni bai bod y dŵr hwnnw yn bodloni gofynion Atodlen 7.

Labelu dŵr yfed wedi’i botelu

20.  Ni chaiff neb botelu dŵr yfed a’i labelu gyda—

(a)dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr yfed a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

Hysbysebu dŵr yfed wedi’i botelu

21.  Ni chaiff neb hysbysebu dŵr yfed wedi’i botelu o dan—

(a)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

Gwerthu dŵr yfed wedi’i botelu

22.  Ni chaiff neb werthu dŵr yfed wedi’i botelu—

(a)sydd wedi’i botelu yn groes i reoliad 19;

(b)sydd wedi’i labelu yn groes i reoliad 20; neu

(c)sy’n cael ei hysbysebu yn groes i reoliad 21.

RHAN 5Monitro a samplu

PENNOD 1Dŵr mwynol naturiol

Monitro dŵr mwynol naturiol

23.  Yn achos dŵr mwynol naturiol, rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol i sicrhau—

(a)bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau’n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol;

(b)heb leihau effaith paragraff (a), nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif;

(c)bod y cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i’r dŵr gael unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i’r dŵr a pha un a yw’n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 1; a

(d)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r dŵr.

PENNOD 2Dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

Monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

24.—(1Yn achos dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ansawdd y dŵr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr—

(a)ei fod yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol â’r gwerthoedd paramedrig a osodir yn unol ag Atodlen 7; a

(b)pan fo diheintiad yn ffurfio rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr yfed wedi’i botelu, bod y driniaeth ddiheintio a ddefnyddir yn effeithlon a bod unrhyw halogiad o sgil-gynhyrchion diheintio yn cael ei gadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio.

(2Er mwyn cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—

(a)monitro yn unol ag Atodlen 8 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

(b)monitro yn unol ag Atodlen 9 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni monitro ychwanegol, yn ôl bob achos yn unigol, mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb ar wahân i baramedr a bennir yn Atodlen 7, os oes gan yr awdurdod bwyd reswm i amau y gallai fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy’n golygu perygl posibl i iechyd pobl.

Samplau a dadansoddi

25.—(1At ddiben monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—

(a)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 10 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

(b)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 11 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig ar gyfer y dogn dangosiadol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd gymryd samplau ar yr adeg y potelir y dŵr.

Camau adferol

26.—(1Os bydd awdurdod bwyd yn penderfynu nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd—

(a)ymchwilio ar unwaith i’r diffyg cydymffurfio er mwyn canfod yr achos;

(b)asesu a yw’r diffyg cydymffurfio yn peryglu iechyd pobl gan olygu bod angen camau gweithredu;

(c)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes gymryd camau adferol cyn gynted ag y bo modd er mwyn adfer ansawdd y dŵr pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl;

(d)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r camau adferol a gymerir, oni bai bod yr awdurdod bwyd yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio â’r gwerth paramedrig yn ddibwys; ac

(e)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r risgiau a’r camau adferol a gymerir a rhoi cyngor i’r cyhoedd am unrhyw fesurau rhagofal a allai fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl mewn cysylltiad â sylweddau ymbelydrol.

(2Os yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn golygu perygl posibl i iechyd pobl, boed yn bodloni’r gwerthoedd paramedrig perthnasol yn Atodlen 7 ai peidio, rhaid i’r awdurdod bwyd—

(a)atal neu gyfyngu ar gyflenwad y dŵr hwnnw yn ei ardal neu gymryd camau eraill fel y bo’r angen er mwyn diogelu iechyd pobl; a

(b)hysbysu’r cyhoedd yn ddi-oed o’r ffaith a rhoi cyngor pan fo angen.

(3Nid oes rhaid i awdurdod bwyd atal neu gyfyngu ar gyflenwad dŵr o dan baragraff (2)(a) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny yn arwain at risg annerbyniol i iechyd pobl.

PENNOD 3Triniaethau

Monitro triniaethau penodol

27.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaethau tynnu fflworid a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 3 o Atodlen 2 yn parhau i gael eu bodloni.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 4 o Atodlen 3 yn parhau i gael eu bodloni.

PENNOD 4Samplau

Cyffredinol

28.  Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cynrychioli ansawdd y dŵr dan sylw a yfir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y sampl ynddi.

Dosbarthu

29.—(1Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o’r Ddeddf ac y mae’n ofynnol iddo roi rhan o’r sampl hwnnw i’r perchennog yn unol â rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(18) fynd â’r sampl hwnnw—

(a)yn uniongyrchol i’r perchennog neu asiant y perchennog; neu

(b)drwy bost cofrestredig neu wasanaeth dosbarthu cofnodedig.

(2Os na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio’n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y perchennog, caiff y swyddog awdurdodedig ddal gafael ar y sampl.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “perchennog” yr un ystyr ag a roddir iddo yn y Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013.

Hysbysu

30.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl dŵr o dan adran 29 o’r Ddeddf at y diben o’i ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) os ymddengys bod y dŵr wedi ei ddatblygu neu ei botelu gan berson (ar wahân i’r perchennog) y mae ei enw a’i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig wedi eu harddangos ar y botel.

(2Rhaid i’r swyddog awdurdodedig anfon yr hysbysiad i’r person hwnnw o fewn 3 diwrnod i gaffael y sampl, sy’n ei hysbysu—

(a)bod y sampl wedi ei gaffael gan y swyddog; a

(b)ymhle y cafodd y sampl ei gymryd neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y’i prynwyd.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys os bydd y swyddog awdurdodedig yn penderfynu peidio â chael dadansoddiad o’r sampl.

Dadansoddiad gan Gemegydd y Llywodraeth

31.—(1Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan fo rhan o sampl a gafodd ei gaffael o dan adran 29 o’r Ddeddf wedi ei chyflwyno i gael ei dadansoddi a bod rhan arall o’r sampl wedi ei chadw yn unol â rheoliad 7(3)(e) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a—

(a)bod hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno i berson o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir gan reoliad 33, fel y’i darllenir gydag Atodlen 12, am dorri darpariaeth y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r sampl hwnnw;

(b)bod apêl yn erbyn yr hysbysiad gwella hwnnw wedi ei gwneud gan y person hwnnw i lys yr ynadon; ac

(c)bod y swyddog awdurdodedig yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd uchod fel tystiolaeth.

(2Caiff swyddog awdurdodedig anfon y rhan o’r sampl a gedwir i Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi ond rhaid ei anfon—

(a)os gofynnir hynny gan lys yr ynadon; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os gofynnir hynny gan dderbynnydd yr hysbysiad gwella.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan o’r sampl a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i’r swyddog awdurdodedig.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir cynnal y dadansoddiad gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy’n llofnodi’r dystysgrif.

(5Ar ôl derbyn y dystysgrif, a chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r swyddog awdurdodedig roi copi ohoni i lys yr ynadon ac i dderbynnydd yr hysbysiad gwella.

(6Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b), caiff y swyddog awdurdodedig ofyn i dderbynnydd yr hysbysiad gwella dalu ffi a bennir yn ysgrifenedig i dalu rhai o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni’r swyddogaethau o dan baragraff (3), neu’r holl gostau.

(7Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (6) a derbynnydd yr hysbysiad gwella yn gwrthod talu’r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(b).

RHAN 6Gorfodi ac amrywiol ddarpariaethau

Gorfodi

32.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Cymhwyso’r Ddeddf: hysbysiadau gwella

33.—(1Mae darpariaethau adran 10 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o Atodlen 12 yn gymwys at ddiben y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd i gyflwyno hysbysiad gwella i unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â rheoliadau 8 i 22 o’r Rheoliadau hyn neu un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o Dabl 1 o Atodlen 12.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 10 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

(3Ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella yn gysylltiedig â dŵr a gafodd ei botelu a’i labelu cyn 28 Tachwedd 2015; a

(b)os na fyddai’r materion sy’n peri’r tramgwydd honedig yn cyfrif fel trosedd o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37.

(4Os nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn bodloni gofynion paragraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 7, ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—

(a)os cafodd y dŵr dan sylw ei botelu neu ei werthu mewn Gwladwriaeth AEE ar wahân i’r Deyrnas Unedig; a

(b)os oedd y dŵr yn cydymffurfio â’r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu.

Cymhwyso’r Ddeddf: pwerau mynediad

34.—(1Mae darpariaethau adran 32 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion galluogi y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, i alluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw yn cael neu wedi cael ei dorri;

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaethau o’r fath wedi eu torri; ac

(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan y darpariaethau yn adran 32 a gymhwysir, i arfer y pwerau cysylltiedig yn is-adrannau (5) a (6) mewn perthynas â chofnodion.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 32 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

Cymhwyso darpariaethau eraill y Ddeddf

35.  Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

Arbedion a darpariaethau trosiannol

36.—(1Bydd unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddwyd o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu 1999, neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007 ac sy’n bodoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2)(a); a

(b)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i).

(2Nid yw dirymiad y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth na hysbysiad a wnaed neu a roddwyd gan yr Asiantaeth neu’r awdurdod bwyd fel yr awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau hynny, ac mae unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth neu hysbysiad o’r fath yn parhau i gael effaith.

(3Pan fo cais wedi ei wneud o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 i awdurdod bwyd am gydnabyddiaeth i ddŵr fel dŵr mwynol naturiol, mae’r cais i’w drin fel pe byddai wedi ei wneud o dan Rannau 1 neu 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Dirymiadau

37.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007(19);

(b)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009(20);

(c)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010(21);

(d)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) 2011(22).

Diwygiadau i ddeddfwriaeth arall

38.  Mae Atodlen 13 (diwygiadau i ddeddfwriaeth arall) yn cael effaith.

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

4 Tachwedd 2015

Rheoliad 4(2)(a) a 4(2)(d)(i)

ATODLEN 1Cydnabod dŵr mwynol naturiol

RHAN 1Dŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru

1.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal, gan roi’r wybodaeth a ganlyn—

(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;

(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac

(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

2.  Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 1(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.

3.  Pan fydd gwybodaeth a ofynnir gan baragraff 1 wedi’i rhoi, rhaid i’r awdurdod bwyd ei hasesu a chydnabod y dŵr y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi’i fodloni—

(a)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;

(b)bod nodweddion y dŵr wedi eu hasesu yn unol â’r canlynol—

(i)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;

(ii)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon, a

(iii)dulliau gwyddonol cydnabyddedig.

4.  Rhaid i’r awdurdod bwyd, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 3, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath a’r rhesymau dros ei roi yn y London Gazette.

RHAN 2Dŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

5.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—

(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;

(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac

(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

6.  Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.

7.  Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—

(a)ei fod wedi’i fodloni—

(i)bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;

(ii)gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a

(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—

(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;

(ii)bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—

(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;

(bb)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac

(cc)dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a

(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.

8.  Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.

9.  Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.

RHAN 3Gofynion a meini prawf ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol

10.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal—

(a)arolygon daearegol a hydroddaearegol sy’n cynnwys y manylion canlynol—

(i)union safle’r dalgylch gan ddangos ei uchder ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;

(ii)adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;

(iii)stratigraffeg yr haen hydroddaearegol;

(iv)disgrifiad o weithrediadau’r dalgylch; a

(v)darnodi’r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy’n diogelu’r ffynnon rhag llygredd.

(b)arolygon ffisegol, cemegol a ffisigo-cemegol y mae’n rhaid iddynt sefydlu—

(i)cyfradd llif y ffynnon;

(ii)tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;

(iii)y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;

(iv)y gweddillion sych ar 180ºC a 260ºC;

(v)y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;

(vi)y crynodiad ïonau hydrogen (pH);

(vii)yr anionau a’r catïonau;

(viii)yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;

(ix)yr elfennau hybrin;

(x)y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;

(xi)pan fydd yn briodol, lefelau isotop perthnasol elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O–18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a

(xii)gwenwyndra rhai elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt;

(c)dadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell y mae’n rhaid iddo ddangos—

(i)absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;

(ii)penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio sy’n dangos halogi ysgarthol, ac sy’n dangos absenoldeb—

(aa)Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250ml ar 37ºC a 44.5ºC,

(bb)streptococi ysgarthol mewn 250ml,

(cc)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50ml, a

(dd)Pseudomonas aeruginosa mewn 250ml; a

(iii)cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—

(aa)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a

(bb)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.

11.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a ddylai weddu i nodweddion arbennig y dŵr mwynol naturiol a’i effaith ar y corff dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, a gwneud iawn am ddiffygion mwynol.

(2Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn lle’r dadansoddiadau ffarmacolegol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), ar yr amod bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o arsylliadau clinigol yn galluogi bod modd cael yr un canlyniadau.

RHAN 4Manylion am anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin

Tabl A

AnionauUned fesur
Borad BO3 -mg/l
Carbonad CO32-mg/l
Clorid Cl-mg/l
Fflworid F -mg/l
Hydrogen Carbonad HCO3-mg/l
Nitrad NO3 -mg/l
Nitrid NO2 -mg/l
Ffosffad PO BO4 3-mg/l
Silicad SiO2 2-mg/l
Sylffad SO4 2-mg/l
Sylffid S2-mg/l

Tabl B

CatïonauUned fesur
Alwminiwm Almg/l
Amoniwm NH4 +mg/l
Calsiwm Camg/l
Magnesiwm Mgmg/l
Potasiwm Kmg/l
Sodiwm Namg/l

Tabl C

Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddioUned fesur
Cyfanswm carbon organig Cmg/l
Carbon deuocsid rhydd CO2mg/l
Silica SiO2mg/l

Tabl D

Elfennau hybrinUned fesur
Bariwm Bamg/l
Bromin (cyfanswm) Brmg/l
Cobalt Comg/l
Copr Cumg/l
Ïodin (cyfanswm) Img/l
Haearn Femg/l
Lithiwm Limg/l
Manganîs Mnmg/l
Molybdenwm Momg/l
Strontiwm Srmg/l
Zinc Znmg/l

Rheoliadau 9(1)(a)(iii) a 15(a)(iii)

ATODLEN 2Triniaeth tynnu fflworid

1.  Ni chaiff neb roi triniaeth tynnu fflworid ar ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y driniaeth honno wedi ei hawdurdodi gan yr awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal.

2.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth tynnu fflworid—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;

(b)caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac

(c)darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.

3.  Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth tynnu fflworid os yw’n fodlon—

(a)bod y driniaeth yn cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010; a

(b)na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.

4.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn unol â pharagraff 3, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.

5.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu gwrthod awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn unol â pharagraff 3, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.

6.  Pan fydd triniaeth tynnu fflworid wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 3, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 3 yn parhau i gael eu bodloni—

(a)caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a

(b)darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.

7.  Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth tynnu fflworid yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 3 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rhesymau dros dynnu’n ôl.

8.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth tynnu fflworid o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 3, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 7, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.

9.  Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 8, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—

(a)ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;

(b)ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac

(c)un ai—

(i)cadarnhau’r penderfyniad; neu

(ii)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth tynnu fflworid fel y bo’n briodol.

10.  Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 9(c)(ii) ar unwaith.

Rheoliadau 9(1)(a)(iv) a 15(a)(iv)

ATODLEN 3Triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn

1.  Ni chaiff neb roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn i ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—

(a)ei fod at ddibenion gwahanu cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig o ddŵr lle y maent yn digwydd yn naturiol yn y ffynhonnell;

(b)bod gofynion paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 4 yn cael eu bodloni cyn y driniaeth; ac

(c)na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.

2.  Rhaid i driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn beidio â gwneud y canlynol—

(a)addasu cyfansoddiad ffisigo-cemegol y dŵr o ran ei ansoddau nodweddiadol; neu

(b)gadael gweddillion yn y dŵr a allai fod yn risg i iechyd cyhoeddus, neu, yn achos y sylweddau a restrir isod, yn uwch na’r lefelau penodedig.

Gweddillion y driniaethTerfyn uchaf ug/l
Osôn toddedig50
Bromad3
Bromofform1

3.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;

(b)caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac

(c)darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.

4.  Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn os yw’n fodlon—

(a)bod cyfiawnhad i broses y driniaeth oherwydd cyfansoddiad y dŵr yn ei ffynhonnell o ran cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig;

(b)bod y person sy’n gwneud y driniaeth yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel; ac

(c)bod y driniaeth fel arall yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2.

5.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.

6.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn gwrthod awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.

7.  Pan fydd triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—

(a)caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a

(b)darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.

8.  Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 4 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rheswm dros dynnu’n ôl.

9.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 8, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.

10.  Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 9, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—

(a)ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;

(b)ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac

(c)un ai—

(i)cadarnhau’r penderfyniad; neu

(ii)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn fel y bo’n briodol.

11.  Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 10(c)(ii) ar unwaith.

Rheoliadau 8, 10, 13 a 14

ATODLEN 4Gofynion datblygu a photelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

1.  Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu’r dŵr gael ei osod mewn modd sy’n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi ac i ddiogelu’r priodweddau sy’n cyfateb i’r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.

2.  Rhaid amddiffyn y ffynnon neu’r allanfa rhag risg llygredd.

3.  Rhaid i’r dalgylch, y pibellau a’r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy’n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy’n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigo-cemegol neu ficrobiolegol i’r dŵr.

4.  Rhaid i’r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yr offer golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid, yn cynnwys, yn benodol, bod rhaid i’r cynwysyddion fod wedi’u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy’n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dŵr.

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw’r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i’r defnyddiwr olaf.

(2Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o’r ffynnon i’r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i’r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o’r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.

(3Caniateir cludo dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o’r ffynnon i’r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i’r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o’r ffynnon honno yn y fath fodd ar neu cyn 13 Rhagfyr 1996.

6.—(1Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw arferol y dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw’n halogedig

(2Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynwyd fesul ml o ddŵr—

(a)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

(b)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.

7.—(1Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—

(a)100 fesul ml ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

(b)20 fesul ml ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.

(2Rhaid mesur cyfanswm cyfrif cytref y dŵr o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r dŵr ar 4ºC +/- 1ºC yn ystod y cyfnod hwnnw.

8.  Rhaid bod y dŵr yn rhydd o—

(a)parasitiaid a micro-organebau pathogenig;

(b)Escherichia coli a cholifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;

(c)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; a

(d)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir.

Rheoliad 10

ATODLEN 5Ansoddau dŵr mwynol naturiol

RHAN 1Terfynau uchaf ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol

Ansoddau(1)Terfynau uchaf (mg/l)
(1)

Mae’r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy’n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy’n bresennol o ganlyniad i halogi.

Antimoni0.0050
Arsenig0.010 (fel cyfanswm)
Bariwm1.0
Cadmiwm0.003
Cromiwm0.050
Copr1.0
Cyanid0.070
Fflworid5.0
Plwm0.010
Manganîs0.50
Mercwri0.0010
Nicel0.020
Nitrad50
Nitrid0.1
Seleniwm0.010

RHAN 2Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi’r ansoddau yn Rhan 1

Ansoddy(1)Cywirdeb y gwerth paramedrig mewn %(2)Trachywiredd y gwerth paramedrig (3)Terfyn canfod y gwerth paramedrig mewn % (4)
(1)

Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Rhan 1 yn gallu mesur crynodiadau sy’n hafal i’r gwerthoedd paramedrig gyda’r cywirdeb penodedig, a’r terfynau trachywiredd a chanfod. Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi’r canlyniad i o leiaf yr un nifer o leoedd degol â’r terfyn uchaf a osodir yn Rhan 1 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy’n cael ei ddadansoddi.

(2)

Cywirdeb yw’r gwall systematig ac mae’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth.

(3)

Mae trachywiredd yn cynrychioli’r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o’r cyfartaledd. Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol.

(4)

O ran y terfyn canfod—

(a) mae’n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r ansoddyn; neu
(b) mae’n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o’r newydd.
(5)

Dylai’r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid ar ei holl ffurfiau.

Antimoni252525
Arsenig101010
Bariwm252525
Cadmiwm101010
Cromiwm101010
Copr101010
Cyanid(5)101010
Fflworid101010
Plwm101010
Manganîs101010
Mercwri201020
Nicel101010
Nitrad101010
Nitrid101010
Seleniwm101010

Rheoliad 11(1)(e)

ATODLEN 6Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol

MynegiadMeini prawf
Cynnwys isel o fwynauCynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 500 mg/l
Cynnwys isel iawn o fwynauCynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 50 mg/l
Cyfoethog mewn halwynau mwynolCynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, mwy na 1500 mg/l
Yn cynnwys bicarbonadCynnwys bicarbonad sy’n fwy na 600 mg/l
Yn cynnwys sylffadCynnwys sylffad sy’n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys cloridCynnwys clorid sy’n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys calsiwmCynnwys calsiwm sy’n fwy na 150 mg/l
Yn cynnwys magnesiwmCynnwys magnesiwm sy’n fwy na 50 mg/l
Yn cynnwys fflworidCynnwys fflworid sy’n fwy na 1 mg/l
Yn cynnwys haearnCynnwys deufalent haearn sy’n fwy na 1 mg/l
AsidigCynnwys carbon deuocsid rhydd sy’n fwy na 250 mg/l
Yn cynnwys sodiwmCynnwys sodiwm sy’n fwy na 200 mg/l
Addas ar gyfer deiet isel mewn sodiwmCynnwys sodiwm sy’n llai na 20 mg/l

Rheoliadau 14(1)(d) a 19

ATODLEN 7Gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau

RHAN 1Gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

1.  Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon—

(a)os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr) mewn crynodiad neu werth a fyddai’n golygu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae’n eu cynnwys (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio), yn golygu perygl posibl i iechyd dynol; ac

(c)os nad yw’r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o’r paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon yn fwy na’r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd.

2.  Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon ar y cyd â’r nodiadau ar y tablau hynny.

RHAN 2Gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau microbiolegol a chemegol

Tabl A: Paramedrau Microbiolegol

EitemParamedrUnedau MesurCrynodiad neu Werth Mwyaf
(1)

Dylid mesur y cyfanswm cyfrif cytref hyfyw o fewn 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r sampl dŵr ar dymheredd cyson yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 awr. Ni ddylai unrhyw gynnydd yng nghyfanswm cyfrif cytref hyfyw’r dŵr rhwng y 12 awr ar ôl ei botelu ac adeg y gwerthu fod yn fwy na’r hyn a ddisgwylir yn arferol.

(2)

Mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin.

(3)

Mewn 24 awr ar agar-agar.

1.

Escherichia coli

(E coli)

nifer/250 ml0/250 ml
2.Enterococinifer/250 ml0/250 ml
3.Pseudomonas aeruginosanifer/250ml0/250 ml
4.Cyfrif cytref 22ºCnifer/ml100/ml (1) (2)
5.Cyfrif cytref 37ºCnifer/ml20/ml(1) (3)

Tabl B: Paramedrau Cemegol

EitemParamedrUnedau MesurCrynodiad neu Werth Mwyaf
(1)

Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomer gweddilliol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn unol â manylebau mwyafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol sydd mewn cyffyrddiad â’r dŵr.

(2)

Rhaid i grynodiad (mg/l) nitrad wedi’i rannu â 50 a ychwanegir i grynodiad (mg/l) o nitrid wedi’i rannu â 3 beidio â bod yn fwy nag 1.

(3)

Ystyr “Plaleiddiad” yw:

– pryfleiddiad organig,
– chwynleiddiad organig,
– ffyngleiddiad organig,
– nematoleiddiad organig,
– gwiddonleiddiaid organig,
– algaleiddiaid organig,
– llygodleiddiaid organig,
– llysnafeddleiddiaid organig, a
– cynhyrchion perthynol (inter alia, rheoleiddwyr tyfiant) a’u metabolion, eu cynnyrch diraddio ac adweithio perthnasol.
Dim ond y plaleiddiaid hynny sy’n debygol o fod yn bresennol mewn dŵr penodol sydd angen eu monitro.
(4)

Mae mwyafswm crynodiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol. Yn achos aldrin, deueldrin, heptaclor a heptaclor epocsid mwyafswm y crynodiad yw 0.030 μg/l.

(5)

Mae mwyafswm y crynodiad ar gyfer “cyfanswm y sylweddau” yn cyfeirio at swm y crynodiadau o bob plaleiddiad unigol a ganfyddir ac a feintolir yn y weithdrefn fonitro.

(6)

Y cyfansoddion penodedig yw benso(b)fflworanthen, benso(k)fflworanthen, benso(ghi)perylen, indeno(1.2,3-cd) pyren.

(7)

Mae’r crynodiad mwyaf a bennir yn gymwys i swm crynodiadau’r paramedrau penodedig.

1.Acrylamidµg/l0.10 (1)
2.Antimoniµg Sb/l5
3.Arsenigµg As/l10
4.Bensenµg/l1.0
5.Benso (a) pyrenµg/l0.010
6.Boronmg/l1.0
7.Bromadµg/l BrO3/l10
8.Cadmiwmµg Cd/l5
9.Cromiwmµg Cr/l50
10.Coprmg Cu/l2
11.Cyanidµg CN/l50
12.1,2-dicloroethanµg/l3.0
13.Epicolorohydrinµg/l0.10 (1)
14.Fflworidmg F/l1.5
15.Plwmµg Pb/l10
16.Mercwriµg Hg/l1
17.Nicelµg Ni/l20
18.Nitradmg NO3/l50 (2)
19.Nitridmg NO2/l0.5 (2)
20.Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol:
- sylweddau unigolµg/l0.10 (3) (4)
- cyfanswm y sylweddauµg/l0.50 (3) (5)
21.Hydrocarbonau aromatig polysycligµg/l0.1 swm crynodiadau cyfansoddion penodedig (6)
22.Seleniwmµg Se/l10
23.Tetracloroethen a Thricloroethenµg/l10 (7)
24.

Tricloromethen,

Dicolrorbromomethan, Dibromocolromethan a Thribromomethan

µg/l100 (7)
25.Finyl cloridµg/l0.50 (1)

RHAN 3Gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau dangosol

Tabl C: Paramedrau Dangosol

EitemParamedrUnedau MesurCrynodiad neu Werth Mwyaf
(1)

Rhaid i’r dŵr beidio bod yn ffyrnig.

(2)

Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb.

(3)

Nid oes angen mesur y paramedr hwn os yw Cyfanswm Carbon Organig y paramedr yn cael ei ddadansoddi.

(4)

Nid oes angen mesur y paramedr hwn ar gyfer cyflenwadau o lai na 10,000m3 y dydd.

1.Alwminiwmµg/l200
2.Amoniwmmg/l0.50
3.Cloridmg/l250 (1)
4.Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)nifer/100ml0 (2)
5.Lliwgraddfa Mg/1 Pt/Co20
6.DargludeddµS cm-1 ar 20°C2500 (1)
7.Crynodiad ïonau hydrogenunedau pH

4.5 (lleiaf)

9.5 (mwyaf) (1)

8.Haearnµg/l200
9.Manganîsµg/l50
10.AroglRhif gwanediad3 at 25°C
11.Ocsidioldebmg/l O25 (3)
12.Sylffadmg/l250 (1)
13.Sodiwmmg/l200
14.BlasRhif gwanediad3 ar 25°C
15.Cyfrif cytref 22°CDim newid annormal
16.Bacteria Colifformnifer/250ml0
17.Cyfanswm Carbon OrganigDim newid annormal(4)
18.CymylogrwyddDerbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal

RHAN 4Gwerthoedd paramedrig ar gyfer radon, tritiwm a dogn dangosiadol (ID)

Tabl D:

EitemParamedrUned FesurCrynodiad neu Werth Mwyaf
(1)

Bernir bod cyfiawnhad i gamau adferol ar sail diogelwch radiolegol, heb ystyriaeth bellach, pan fo crynodiadau radon yn fwy na 1000 Bq/l.

(2)

Gallai lefelau ymgodol o dritiwm ddangos presenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill. Os bydd y crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig, bydd dadansoddiad o bresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill yn ofynnol.

1.RadonBq/l100 (1)
2.TritiwmBq/l100 (2)
3.Dogn DangosiadolmSv0.10

Rheoliad 24(2)(a)

ATODLEN 8Monitro ar gyfer paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

RHAN 1Gwiriadau

Samplu

1.  Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau yn unol â’r Rhan hon.

2.  Ystyr gwirio yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer bob paramedr a restrir yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—

(a)penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd parametrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7;

(b)darparu gwybodaeth ar ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac

(c)sefydlu effeithiolrwydd y driniaeth, gan gynnwys diheintiad.

Tabl 1
ParamedrAmgylchiadau
AlwminiwmAngenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig.
AmoniwmYm mhob cyflenwad
LliwYm mhob cyflenwad
DargludeddYm mhob cyflenwad
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborynau)Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb.
Escherichia coli (E. Coli)Ym mhob cyflenwad
Crynodiad ïonau hydrogenYm mhob cyflenwad
HaearnAngenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig.
NitradAngenrheidiol pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio.
AroglYm mhob cyflenwad
Pseudomonas aeruginosaYm mhob cyflenwad
BlasYm mhob cyflenwad
Cyfrif cytref 22ºC a 37ºCYm mhob cyflenwad
Bacteria colifformYm mhob cyflenwad
CymylogrwyddYm mhob cyflenwad

Amlder y samplu

3.  Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1)Nifer o samplau bob blwyddyn
(1)

Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr.

≤ 101
> 10 ≤ 6012
> 601 am bob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint

RHAN 2Monitro archwiliad

Samplu

4.  Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro archwiliadau yn unol â’r Rhan hon.

5.  Ystyr monitro archwiliad yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed mewn potel, ar gyfer bob paramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7 (heblaw paramedrau sy’n cael eu samplu’n barod drwy wiriadau) er mwyn—

(a)darparu’r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

(b)gwneud yn siŵr bod unrhyw sgil-gynhyrchion diheintio yn cael eu cadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio, os defnyddir diheintiad yn achos dŵr yfed wedi’i botelu.

Amlder y samplu

6.  Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 3.

Tabl 3
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1)Nifer o samplau bob blwyddyn
(1)

Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr.

≤ 101
> 10 ≥ 601
> 601 am bob 100 m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint

Rheoliad 24(2)(b)

ATODLEN 9Monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

RHAN 1Cyffredinol

1.  Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer radon, tritiwm a dogn dangosiadol yn unol â’r Rhan hon.

Radon

2.  Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal arolygon cynrychioliadol er mwyn penderfynu ar raddfa a natur cysylltiad tebygol â radon o wahanol fathau o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn gwahanol ardaloedd daearegol.

3.  Rhaid i’r arolygon cynrychioliadol gael eu cynllunio mewn modd sy’n golygu bod modd adnabod paramedrau gwaelodol, gan gynnwys daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y graig neu’r pridd a math y ffynnon a’u defnyddio i gyfeirio camau pellach i ardaloedd lle mae cyswllt uchel yn debygol.

4.  Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer radon os oes rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, y gallai gwerth paramedrig y radon fod yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

Tritiwm

5.  Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer tritiwm os oes ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclid artiffisial arall yn bresennol o fewn y dalgylch ac ni ellir ei ddangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth nac ymchwiliadau eraill bod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

6.  Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn y Tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

7.  Os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill.

Dogn dangosiadol

8.  Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer dogn dangosiadol os oes ffynhonnell o ymbelydredd artiffisial neu ymbelydredd naturiol uchel yn bresennol ac na ellir dangos ar sail rhaglenni monitro cynrychioliadol nac ymchwiliadau eraill bod lefel y dogn dangosiadol yn is na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

9.  Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn y Tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

10.  Caiff yr awdurdod bwyd ddefnyddio amrywiol strategaethau sgrinio dibynadwy er mwyn monitro gwerth dangosydd paramedrig y dogn dangosiadol.

11.  Os yw’r awdurdod bwyd yn sgrinio am radioniwclid unigol neu radioniwclidau penodol ac—

(a)mae un o’r crynodiadau gweithgaredd yn uwch na 20% o’r gwerth deilliadol cyfatebol a bennir yn Nhabl 1 yn Rhan 2 o Atodlen 11; neu

(b)pan fo’n briodol, mae crynodiad y tritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau eraill, fel y penderfynir gan yr awdurdod bwyd, gan roi ystyriaeth i bob gwybodaeth berthnasol ynghylch ffynonellau tebygol o ymbelydredd.

12.—(1Os yw’r awdurdod bwyd yn sgrinio am weithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros ac—

(a)mae’r lefel sgrinio ar gyfer gweithgaredd alffa gros yn uwch na 0.1 Bq/l; neu

(b)mae’r lefel sgrinio ar gyfer gweithgaredd beta gros yn uwch na 1.0 Bq/l,

rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau eraill fel y penderfynir gan yr awdurdod bwyd, gan roi ystyriaeth i bob gwybodaeth berthnasol arall ynghylch ffynonellau tebygol o ymbelydredd.

(2Caiff yr awdurdod bwyd osod lefelau sgrinio amgen ar gyfer gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros os gall ddangos bod y lefelau amgen yn cydymffurfio â dogn dangosiadol o 0.1mSv.

(3Os canfyddir lefelau uwch o dritiwm sy’n dangos presenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill, rhaid mesur tritiwm, gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros yn yr un sampl.

(4Os yw’r gweithgaredd alffa gros a’r gweithgaredd beta gros yn llai na 0.1 Bq/l ac 1.0 Bq/l yn ôl eu trefn, caiff yr awdurdod bwyd dybio bod y dogn dangosiadol yn is na’r gwerth paramedrig o 0.1 mSv ac os digwydd hynny nid oes angen ymchwiliad radiolegol pellach oni bai ei bod yn hysbys o ffynonellau gwybodaeth eraill bod radioniwclidau penodol yn bresennol yn y dŵr sy’n dueddol i achosi dos dangosiadol sy’n uwch na 0.1 mSv.

Esemptiad o’r monitro

13.  Nid yw’n ofynnol i awdurdod bwyd fonitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, na dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer radon, tritiwm na dogn dangosiadol—

(a)os yw’n fodlon ar sail arolygon cynrychioladol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall, y bydd y paramedr dan sylw yn aros islaw’r priod werth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7 am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf; a

(b)os yw’n hysbysu’r Asiantaeth o’r penderfyniad hwnnw ac yn rhoi copi o’r arolygon cynrychioliadol, y data monitro neu’r wybodaeth ddibynadwy arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) i’r Asiantaeth.

Trin dŵr yfed wedi’i botelu

14.  Pan fo dŵr yfed wedi’i botelu wedi ei drin er mwyn gostwng lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod bwyd fonitro ar yr amlderau a ddynodir yn y Tabl yn Rhan 2 er mwyn sicrhau bod y driniaeth honno yn parhau i fod yn effeithiol.

Cyfartaleddu

15.  Os bydd y gwerth paramedrig mewn sampl o ddŵr yn uwch na’r gwerth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd gymryd mwy o samplau fel y bo’n briodol, gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan yr Asiantaeth, er mwyn sicrhau bod y gwerthoedd a fesurwyd yn cynrychioli crynodiad gweithgaredd cyfartalog blwyddyn gyfan.

RHAN 2Amlderau gofynnol samplu a dadansoddi

Cyfaint y dŵr a gynhyrchir bob dydd o fewn parth cyflenwi (1) (2) m3Nifer y samplau y flwyddyn (3)
(1)

Parth cyflenwi yw ardal ddaearyddol ddiffiniedig y daw dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl o un ffynhonnell neu fwy ohoni ac y gellid ystyried bod ansawdd y dŵr oddi mewn iddi yn weddol unffurf.

(2)

Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr.

(3)

Dylai nifer y samplau gael eu dosbarthu’n gyfartal o ran amser a lleoliad cyn belled ag y bo’n bosibl.

cyfaint ≤ 1001
100 < cyfaint ≤ 1001
1,000 < cyfaint ≤ 10,000

1

+1 am bob 3,300m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint

10, 000 < cyfaint ≤ 100,000

3

+1 am bob 10,000 m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint

cyfaint > 100,000

10

+1 am bob 25,000 m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint

Rheoliad 25(1)(a)

ATODLEN 10Samplu a dadansoddi paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

RHAN 1Cyffredinol

Dadansoddi samplau

1.—(1Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod bob sampl yn cael ei ddadansoddi’n unol ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 98/83 a’r Atodlen hon.

(2Am bob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, pennir y dull dadansoddi yn yr ail golofn o’r tabl hwnnw.

(3Am bob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi yn un sy’n gallu—

(a)mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r cywirdeb a’r trachywiredd a bennir yn ail a thrydedd golofn y tabl hwnnw; a

(b)canfod paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.

(4Ar gyfer ionau hydrogen, rhaid i’r dull dadansoddi allu mesur gwerth gyda chywirdeb o 0.2pH uned a thrachywiredd o 0.2pH uned.

(5Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer paramedrau aroglau a blas allu mesur gwerthoedd cyfartal i’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanhad o 25ºC.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

“cywirdeb” (“trueness”) (y gwall systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedr y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth;

“terfyn canfod” (“limit of detection”) yw—

(a)

tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad is o’r paramedr; neu

(b)

pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl gwag;

“trachywiredd” (“precision”) (y gwall ar hap) yw ddwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) o wasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr.

Awdurdodiad ar gyfer dulliau dadansoddi amgen

2.—(1Caiff yr Asiantaeth awdurdodi dull sy’n wahanol i’r un a nodir yn Rhan 2 yr Atodlen hon os yw’n fodlon ei fod o leiaf mor ddibynadwy.

(2Caniateir bod cyfyngiad amser ar awdurdodiad a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.

Samplu a dadansoddi gan bersonau heblaw awdurdodau bwyd

3.—(1Caiff awdurdod bwyd ymrwymo i gytundeb er mwyn i unrhyw berson gymryd a dadansoddi samplau ar ei ran.

(2Ni chaiff awdurdod bwyd ymrwymo i gytundeb o dan is-baragraff (1) oni bai—

(a)ei fod yn fodlon y bydd y dasg yn cael ei chynnal yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w pherfformio; a

(b)ei fod wedi gwneud trefniadau i sicrhau bod unrhyw achos o dorri’r Rheoliadau hyn yn cael ei gyfathrebu iddo ar unwaith, a bod unrhyw ganlyniad arall yn cael ei gyfathrebu iddo o fewn 28 diwrnod.

RHAN 2Dulliau dadansoddi a nodweddion perfformiad

Tabl 1

Dulliau dadansoddi rhagnodedig

ParamedrDull
(1)

Defnyddiwch y dull canlynol i wneud m-CP agar:

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)Hidlo drwy bilen ac yna deor y bilen yn anerobig ar m-CP agar(1) ar 44 ±1ºC am 21± 3 awr. Cyfrif y cytrefi melyn di-draidd sy’n troi’n binc neu’n goch ar ôl cyswllt ag anweddau amoniwm hydrocsid am 20 i 30 eiliad.
Bacteria colifformBS-EN ISO 9308-1

Cyfrif cytref 22ºC – cyfrif o’r micro-organebau meithrinadwy

BS-EN ISO 6222
Cyfrif cytref 37ºC – cyfrif o’r micro-organebau meithrinadwyBS-EN ISO 6222
EnterocociBS-EN ISO 7899-2
Escherichia coli (E. Coli)BS-EN ISO 9308-1
Pseudomonas aeruginosaBS-EN ISO 12780
Gwnewch gyfrwng gwaelodol sy’n cynnwys—
Tryptose30.0g
Rhin Burum20.0g
Swcros5.0g
L-cystein hydroclorid1.0g
MgSO4.7H2O0.1g
Bromocresol porffor40.0mg
Agar15.0g
Dŵr1,000.0ml
Toddwch y cynhwysion o gyfrwng gwaelodol, addasu’r pH i 7.6 ac awtoclafio ar 121ºC am 15 munud. Gadewch i’r cyfrwng oeri.Toddwch—
D-cycloserin400.0mg
Polymyxine-B sylffad25.0mg
Indoxl-β-D-glwcosid60.0mg
i 8ml o ddŵr diheintiedig a’i ychwanegu i’r cyfrwng.
Hydoddiant ffenolffthalein diffosohad 0.5% wedi ei sterileiddio â hidlen20.0ml
4.5% FeCl3.6H2O wedi ei stereleiddio â hidlen2.0ml

Tabl 2

Nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi

Paramedrau% Cywirdeb y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd% Trachywiredd y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd% Terfyn canfod y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd
(1)

Dylai’r dull dadansoddi benderfynu cyfanswm y cyanid ar bob ffurf.

(2)

Dylai ocsideiddio gael ei gynnal am 10 munud ar 100°C o dan amodau asid gan ddefnyddio permanganad.

(3)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a bydd yn ddibynnol ar y plaleiddiad dan sylw.

(4)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol y pennir ei fod yn 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B yn Rhan 2, Atodlen 7.

(5)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylwedd unigol y pennir ei fod yn 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B yn Rhan 2, Atodlen 7.

Alwminiwm101010
Amoniwm101010
Antimoni252525
Arsenig101010
Bensen252525
Benso(a)pyren252525
Boron101010
Bromad252525
Cadmiwm101010
Clorid101010
Cromiwm101010
Dargludedd101010
Copr101010
Cyanid(1)101010
1,2-dicloroethan252510
Fflworid101010
Haearn101010
Plwm101010
Manganîs101010
Mercwri201020
Nicel101010
Nitrad101010
Nitrid101010
Ocsidioldeb(2)252510
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol(3)252525
Hydrocarbonau aromatig polysyclig(4)252525
Seleniwm101010
Sodiwm101010
Sylffad101010
Tetracloroethen(5)252510
Tricloroethen(5)252510
Trihalomethanau(4)252510

Rheoliad 25(1)(b)

ATODLEN 11Samplu a dadansoddi ar gyfer dogn dangosiadol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

RHAN 1Cyffredinol

Dadansoddi samplau

1.  Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cael ei ddadansoddi ar gyfer dogn dangosiadol yn unol ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 2013/51 a’r Rhan hon.

2.  Ar gyfer bob paramedr a radioniwclid a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, pennir cyfeirnod y crynodiad a’r dogn deilliadol ar gyfer cyfrifo’r dogn dangosiadol yn ail golofn y tabl hwnnw.

3.  Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, rhaid i’r dull dadansoddi fod yn un sy’n gallu canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir yn ail golofn y tabl hwnnw.

4.  Os bodlonir y fformiwla ganlynol, ystyrir y bydd y dogn dangosiadol yn llai na gwerth paramedrig 0.1 mSv ac nid oes angen mwy o ymchwil—

  • pan fo

  • Ci(obs) = crynodiad radioniwclid a arsylwyd i

  • Ci(der) = crynodiad radioniwclid deilliadol i

  • n = nifer y radioniwclidau a ganfuwyd

RHAN 2Dulliau dadansoddi a nodweddion perfformiad

Tabl 1

Crynodiadau deilliadol ar gyfer ymbelydredd

TarddiadNiwclidCrynodiad deilliadol
(1)

Mae’r tabl hwn yn caniatáu ar gyfer nodweddion radiolegol wraniwm yn unig, nid ei wenwyndra cemegol.

NaturiolU-238(1)3.0 Bq/l
U-234(1)2.8 Bq/l
Ra-2260.5 Bq/l
Ra-2280.2 Bq/l
Pb-2100.2 Bq/l
Po-2100.1 Bq/l
ArtiffisialC-14240 Bq/l
Sr-904.9 Bq/l
Pu-239/Pu-2400.6 Bq/l
Am-2410.7 Bq/l
Co-6040 Bq/l
Cs-1347.2 Bq/l
Cs-13711 Bq/l
I-1316.2 Bq/l

Tabl 2

Nodweddion perfformiad a dulliau dadansoddi

Paramedrau a radioniwclidauTerfyn canfod (1) (2)
(1)

Cyfrifir y terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Penderfynu ar derfynau’r nodweddion (trothwy penderfynu, terfyn canfod a therfynau’r cyfnod hyder) ar gyfer mesuriadau ymbelydredd ïoneiddio - Sylfeini a chymhwysiad, gyda thebygolrwydd o wallau o’r math 1af a’r 2ail o 0.05 yr un.

(2)

Cyfrifir ansicrwydd yn y mesuriadau a’u hadrodd fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd safonol

ehangedig gyda ffactor ehangiad o 1.96, yn ôl Canllaw ISO ar gyfer Mynegiant o Ansicrwydd mewn Mesuriadau.
(3)

Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/l.

(4)

Y terfyn canfod ar gyfer gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0.1 ac 1.0 Bq/l yn ôl eu trefn.

(5)

Mae’r cyfyngiad canfod yn gymwys i sgrinio cychwynnol ar gyfer dogn dangosiadol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd yn unig. Os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod Ra-228 yn uwch na 20% o’r crynodiad deilliadol, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0.08 Bq/l ar gyfer mesuriadau niwclid Ra-228 benodol arferol, hyd nes bod angen ail-wiriad dilynol.

Tritiwm10 Bq/l (3)
Radon10 Bq/l (3)

gweithgaredd alffa gros

gweithgaredd beta gros

0.04 Bq/l (4)

0.4 Bq/l (4)

U-2380.02 Bq/l
U-2340.02 Bq/l
Ra-2260.04 Bq/l
Ra-2280.02 Bq/l (5)
Pb-2100.02 Bq/l
Po-2100.01 Bq/l
C-1420 Bq/l
Sr-900.4 Bq/l
Pu-239/Pu-2400.04 Bq/l
Am-2410.06 Bq/l
Co-600.5 Bq/l
Cs-1340.5 Bq/l
Cs-1370.5 Bq/l
I-1310.5 Bq/l

Rheoliadau 33, 34 a 35

ATODLEN 12Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf

Tabl 1

Hysbysiadau gwella

Darpariaethau’r DdeddfAddasiadau
Adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella)

(1Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in sub-section (1A) or is carrying out either a fluoride removal treatment or an ozone-enriched air treatment that has a disinfectant action, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the authorised officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

(1A) The provisions referred to in sub-section (1) are—

(e)any of regulations 8 to 22 of the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015; and

(f)any of the following provisions of Commission Regulation (EU) No 115/2010 laying down the conditions for use of activated alumina for the removal of fluoride from natural mineral waters and spring waters(23)

(i)Article 1.2 (requirement that any fluoride removal treatment be performed in accordance with the technical requirements set out in the Annex);

(ii)the first sentence of Article 2 (requirement that the release of residues into natural mineral water or spring water as a result of any fluoride removal treatment be as low as technically feasible according to the best practices and not pose a risk to public health);

(iii)the second sentence of Article 2 (requirement to ensure compliance with the first sentence of Article 2, operators implement and monitor the critical processing steps set out in the Annex);

(iv)Article 3.1 (requirement that the application of any fluoride removal treatment be notified to the competent authorities at least three months prior to use); and

(v)Article 4 (requirement that the label on natural mineral water or spring water subjected to any fluoride removal treatment include specified information in proximity to the statement of the analytical composition).

Tabl 2

Pwerau Mynediad

Darpariaethau’r DdeddfAddasiadau
Adran 32(1) i (7) (pwerau mynediad)

Yn is-adran (1), yn lle paragraffau (a) i (c) rhodder—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there is or has been on the premises a contravention of any of the following provisions of Commission Regulation (EU) No 115/2010 laying down the conditions for use of activated alumina for the removal of fluoride from natural mineral waters and spring waters—

(vi)Article 1.2 (requirement that any fluoride removal treatment be performed in accordance with the technical requirements set out in the Annex);

(vii)the first sentence of Article 2 (requirement that the release of residues into natural mineral water or spring water as a result of any fluoride removal treatment be as low as technically feasible according to the best practices and not pose a risk to public health);

(viii)the second sentence of Article 2 (requirement to ensure compliance with the first sentence of Article 2, operators implement and monitor the critical processing steps set out in the Annex);

(ix)Article 3.1 (requirement that the application of any fluoride removal treatment be notified to the competent authorities at least three months prior to use); and

(x)Article 4 (requirement that the label on natural mineral water or spring water subjected to any fluoride removal treatment include specified information in proximity to the statement of the analytical composition); and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention within that area of the provisions set out in paragraph (a); .

Tabl 3

Darpariaethau eraill y Ddeddf

Darpariaethau’r DdeddfAddasiadau
Adran 2(24)(ystyr estynedig “sale” etc.)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.

Yn is-adran (2), yn lle “This Act” rhodder “The Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.

Adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi’i fwriadu i bobl ei fwyta)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”.
Adran 21(1) a (5)(25) (amddiffyn diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”.
Adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 29 (caffael samplau)Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “as applied by regulation 34 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 30(6) a (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 35(1)(26) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 35 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”.

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015 shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.

Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 35 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 36A(27) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.
Adran 37(1) a (6) (apelau)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015, may appeal to a magistrates’ court.

Yn is-adran (6)—

yn lle “(3) and (4)” rhodder “(1)”; ac

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 33 of, and Schedule 12 to the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit..

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”.

Rheoliad 38

ATODLEN 13Diwygiadau i ddeddfwriaeth arall

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

1.  Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn rheoliad 3(a), yn lle “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2007” rhodder “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2015”.

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

3.  Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(29) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

4.  Yn Atodlen 1, hepgorer y cyfeiriad at “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2007”.

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

5.  Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(30) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

6.  Yn Atodlen 7, hepgorer paragraffau 49 a 50.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys yng Nghymru, yn gweithredu ac yn gorfodi’r offerynnau Ewropeaidd a ganlyn—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC mewn perthynas ag ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl (OJ Rhif L 330, 3.11.1998, t 32), i’r graddau y mae’n ymwneud a dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu;

(b)Cyfarwyddeb 2009/54/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (OJ Rhif L 164, 26.6.2009, t 45);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy’n sefydlu’r rhestr, cyfyngiadau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a’r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogir ag osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon (OJ Rhif L 126, 22.5.2003, t 34);

(d)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy’n gosod yr amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon (OJ Rhif L 37, 10.2.2010, t 13); ac

(e)Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/Euratom sy’n gosod y gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â sylweddau ymbelydrol mewn dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl (OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t 12), i’r graddau y mae’n ymwneud a dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu.

Mae’r Rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr wedi’i Botelu (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3165 (Cy. 276)) a’r offerynnau diwygio.

Mae Rhan 1 yn rhagarweiniol ac yn cynnwys diffiniadau perthnasol.

Mae Rhan 2 yn rhagnodi’r amodau ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol. Mae rheoliad 5 yn galluogi awdurdod bwyd i wrthod rhoi cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu i dynnu’r gydnabyddiaeth yn ôl ac mae’n darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad o’r fath. Mae Rhan 2 hefyd yn gosod cyfyngiadau ar ddatblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiol ac ar drin, potelu, labelu, hysbysebu a gwerthu dŵr mwynol naturiol.

Mae Rhan 3 yn gosod cyfyngiadau ar ddatblygu ffynhonnau a thrin, potelu, labelu, hysbysebu a gwerthu dŵr y bwriedir ei werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”.

Mae Rhan 4 yn gosod cyfyngiadau ar botelu, labelu, hysbysebu a gwerthu dŵr yfed wedi’i botelu.

Mae Rhan 5 yn rhagnodi’r gofynion ar gyfer monitro dŵr mwynol naturiol, dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu at ddiben sicrhau bod gofynion y Rheoliadau hyn yn cael eu bodloni.

Mae rheoliad 26 yn rhagnodi’r camau adferol y mae’n rhaid i awdurdod bwyd eu cymryd mewn perthynas â dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu mewn achos o beidio â chydymffurfio â’r gwerthoedd parametrig ar gyfer y paramedrau a nodir yn Atodlen 7.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer gorfodi, darpariaethau trosiannol, dirymiadau a diwygiadau i ddeddfwriaeth arall. Mae rheoliad 32 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd i weithredu a gorfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliadau 33 i 35 ac Atodlen 12 yn cymhwyso darpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16), gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), gan alluogi cyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â darpariaethau penodedig o’r Rheoliadau. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn peri bod methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.

Mae rheoliad 38 ac Atodlen 13 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010, Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth, www.food.gov.uk/wales.

(1)

Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 6 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, adran 40(1) a (4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, ac O.S. 2002/794.

(2)

Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(3)

Diwygiwyd adran 17(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i’r Deddf honno, ac O.S. 2011/1043.

(4)

Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf 1999, ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.

(5)

Diwygiwyd adran 31 gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(6)

Diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(7)

1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(8)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(9)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 21 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(10)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

(11)

Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(12)

OJ Rhif L 330, 5.12.1998 t 32, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) Rhif 2015/1787 (OJ Rhif L 260 7.10.2015, t 6).

(13)

OJ Rhif L 126, 22.5.2003, t 34.

(14)

OJ Rhif L 164, 26.6.2009, t 45.

(15)

OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t 12.

(16)

OJ Rhif L 37, 10.2.2010, t 13.

(17)

OJ Rhif 311, 28.11.2001 t 67, diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/26/EU (OJ Rhif L 299, 27.10.2012, t 1).

(23)

OJ Rhif L 37, 10.2.2010, t 13.

(24)

Diwygiwyd adran 2(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.

(25)

Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279.

(26)

Mae adran 35(1) i gael ei diwygio gan adran 280(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) a pharagraff 42 o Atodlen 26 iddi, o ddyddiad sydd i’w bennu.

(27)

Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a pharagraff 16 o Atodlen 5 iddi

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources