- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 24(2)(a)
1. Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau yn unol â’r Rhan hon.
2. Ystyr gwirio yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer bob paramedr a restrir yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—
(a)penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd parametrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7;
(b)darparu gwybodaeth ar ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(c)sefydlu effeithiolrwydd y driniaeth, gan gynnwys diheintiad.
Paramedr | Amgylchiadau |
---|---|
Alwminiwm | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Amoniwm | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborynau) | Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb. |
Escherichia coli (E. Coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Nitrad | Angenrheidiol pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio. |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Ym mhob cyflenwad |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrif cytref 22ºC a 37ºC | Ym mhob cyflenwad |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
3. Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. | |
≤ 10 | 1 |
> 10 ≤ 60 | 12 |
> 60 | 1 am bob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
4. Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro archwiliadau yn unol â’r Rhan hon.
5. Ystyr monitro archwiliad yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed mewn potel, ar gyfer bob paramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7 (heblaw paramedrau sy’n cael eu samplu’n barod drwy wiriadau) er mwyn—
(a)darparu’r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
(b)gwneud yn siŵr bod unrhyw sgil-gynhyrchion diheintio yn cael eu cadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio, os defnyddir diheintiad yn achos dŵr yfed wedi’i botelu.
6. Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 3.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. | |
≤ 10 | 1 |
> 10 ≥ 60 | 1 |
> 60 | 1 am bob 100 m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: