- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Diogelu Defnyddwyr, Cymru
Gwnaed
11 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
2. Mae Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3. Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
4. Mae Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015(2) wedi ei ddirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
11 Tachwedd 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015 ac yn dwyn i rym, ar 23 Tachwedd 2015, Bennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“y Ddeddf”) at ddibenion sy’n weddill. Mae’r Gorchymyn hwn, felly, yn dwyn i rym ar 23 Tachwedd 2015 y darpariaethau hynny o’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym.
Mae Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yn eu mangreoedd ac ar eu gwefan (os oes ganddynt un). Mae Pennod 3 hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi’r ddyletswydd gan bob awdurdod pwysau a mesurau lleol yng Nghymru.
Daeth Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 26 Mawrth 2015 at y dibenion o wneud rheoliadau.
Mae adran 87 (gorfodi dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd) ac Atodlen 9 (dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd: cosbau ariannol) o’r Ddeddf wedi eu cychwyn yn y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 9 yn darparu gweithdrefn ar gyfer apelau yn erbyn cosbau ariannol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: