Rheoliad 6
YR ATODLEN
Rheoliad 13C
“ATODLEN 5Daliadau a randdirymwyd
1. Mae’r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.
Cyflwyniad
2. Yn yr Atodlen hon ystyr “y meddiannydd” yw “meddiannydd daliad a randdirymwyd”
Rhanddirymiad oddi wrth y mesurau sy’n llywodraethu’r terfyn ar ddodi tail da byw
3. Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—
lle—
A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno;
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy’n pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu;
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.
Cynllunio’r modd y mae gwrtaith ffosffad yn cael ei daenu
4.—(1) Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio’r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i’r meddiannydd—
(a)asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);
(b)cyfrifo’r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Rhaid i’r meddiannydd wneud hyn —
(a)yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a
(b)yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.
Gofynion eraill ar gyfer y cynlluniau gwrteithio
5.—(1) Rhaid i’r cynllun gwrteithio ar gyfer y daliad a randdirymwyd—
(a)cynnwys bras-gynllun sy’n dynodi lleoliad y caeau mae’r cynllun yn berthnasol iddynt; a
(b)datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun natur y gwrtaith i’w ddefnyddio.
(2) Rhaid i’r cynllun gwrteithio gofnodi—
(a)y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a’r dull a ddefnyddir i gadarnhau’r ffigur hwn;
(b)y maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd;
(c)faint o nitrogen sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;
(d)faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;
(e)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac
(f)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).
Samplu a dadansoddi pridd
6.—(1) Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i’r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a’r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.
(3) Pan na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd o fewn pedair blynedd i’r rhanddirymiad gael ei ganiatáu, rhaid cyflawni’r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—
(a)75% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl caniatáu’r rhanddirymiad; a
(b)100% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir y caniatâd nesaf am y rhanddirymiad i’r meddiannydd.
Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn
7.—(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—
(a)cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a
(b)faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi o’r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.
(2) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—
(a)faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
(b)y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).
Mapiau risg
8.—(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 19 (mapiau risg), rhaid i fap risg—
(a)dangos pob cae wedi’i farcio â rhif cyfeirnod neu rif sy’n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;
(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac
(c)cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn mis i’r newid.
Cynnal y daliad a randdirymwyd yn ddaliad glaswelltir
9. Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad a randdirymwyd
10. Ni chaiff neb—
(a)aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;
(b)aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac
(c)aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.
Hadu cnydau ar ôl porfa ar y daliad a randdirymwyd
11. Pan fo porfa ar y daliad a randdirymwyd yn cael ei haredig, rhaid bod y tir—
(a)wedi’i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu
(b)wedi’i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
Cylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd
12. Rhaid i gylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi’i hau oddi tanynt.
Cofnodi maint y daliad a randdirymwyd
13.—(1) Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a’r ardal o borfa yn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
(2) Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa oddi mewn iddo yn newid rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn mis sy’n dechrau drannoeth y newid.
Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio
14. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 37 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod sy’n disgrifio’r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
Cofnod o’r nitrogen a’r ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid
15.—(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a’r categori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i’w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
(2) Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i’r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr dan sylw.
Tail da byw y bwriedir dod ag ef i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno
16.—(1) Rhaid i’r meddiannydd—
(a)gwneud cofnod o’r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i’r daliad a’i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a
(b)asesu a chofnodi faint o nitrogen sydd yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd
17. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—
(a)y cnwd a heuwyd; a
(b)y dyddiad hau.
Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad
18. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen) rhaid i feddiannydd gofnodi—
(a)o fewn wythnos o daenu tail organig—
(i)cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a
(ii)faint o ffosffad a gyflenwyd i’w amsugno gan y cnwd; a
(b)o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i)y dyddiad taenu; a
(ii)faint o ffosffad a daenwyd.
Cofnodi dyddiad yr aredig
19. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 44 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o aredig y daliad a randdirymwyd, ddyddiad yr aredig hwnnw.
Cyfrifon gwrteithio
20.—(1) Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru erbyn 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
(2) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.
(3) (Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;
(b)yr ardal o’r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—
(i)gwenith gaeaf;
(ii)gwenith gwanwyn;
(iii)haidd gaeaf;
(iv)haidd gwanwyn;
(v)rêp had olew gaeaf;
(vi)betys siwgr;
(vii)tatws;
(viii)indrawn porthi;
(ix)porfa; a
(x)cnydau eraill;
(c)nifer a chategori’r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(e)faint o dail da byw, ei nodweddion a pha fath a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi;
(f)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);
(g)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a
(h)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd a’i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.”