Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 12Penderfyniadau ac apelau

PENNOD 1Penderfyniadau a rôl YMCA

Penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

161.  Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu a oes hawl gan berson i gael dyfarniad neu i gadw dyfarniad.

Rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

162.—(1Wrth benderfynu a oes hawl gan berson i gael dyfarniad, neu i gadw dyfarniad, pan fo’r penderfyniad ynglŷn â’i hawlogaeth yn dibynnu yn rhannol ar afiechyd neu alluogrwydd y person y byddai ganddo’r hawlogaeth honno, rhaid i’r rheolwr cynllun gael barn ysgrifenedig yr YMCA ar unrhyw fater sydd o natur feddygol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun ofyn i YMCA ddarparu barn ar y materion canlynol at y diben o benderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y cynllun hwn—

(a)a yw person yn analluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau’r rôl y cyflogid y person hwnnw ynddi ddiwethaf, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol;

(b)a yw’r anallu yn is-baragraff (a) uchod yn debygol o barhau tan yr oedran pensiwn arferol neu’r oedran pensiwn gohiriedig, yn ôl fel y digwydd;

(c)a yw person wedi dod yn alluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau’r rôl yr ymddeolodd y person hwnnw ohoni ar sail afiechyd;

(d)a yw person yn alluog, neu wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd; neu

(e)unrhyw fater arall sydd o natur feddygol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r YMCA ardystio o dan baragraff (2) nad yw’r—

(a)YMCA, yn flaenorol, wedi cynghori, wedi mynegi barn, nac wedi bod yn ymwneud rywfodd arall, yn yr achos penodol y gofynnwyd am farn ar ei gyfer; a

(b)YMCA yn gweithredu, ac na fu ar unrhyw adeg yn gweithredu, fel cynrychiolydd yr aelod, y rheolwr cynllun, nac unrhyw barti arall mewn cysylltiad â’r un achos.

(4Mae barn YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo’r rheolwr cynllun onis disodlir gan ymateb yr YMCA o dan reoliad 163(2) (adolygu barn feddygol) neu ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol).

(5Mae ymateb yr YMCA o dan reoliad 163 (adolygu barn feddygol) neu ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol), yn ôl fel y digwydd, yn rhwymo’r rheolwr cynllun.

(6Pan fo aelod, o ganlyniad i farn a roddwyd o dan baragraff (2), wedi ymddeol ar sail afiechyd, caiff yr YMCA a roddodd y farn, os gofynnir iddo wneud hynny gan y rheolwr cynllun at ddibenion adolygiad o dan reoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar), roi barn bellach.

(7Os—

(a)yw person, yn fwriadol neu’n esgeulus, yn methu ag ymostwng i’w archwilio yn feddygol gan yr YMCA a ddewiswyd gan y rheolwr cynllun; a

(b)nad yw’r YMCA yn gallu rhoi barn ar sail y dystiolaeth feddygol sydd ar gael,

caiff y rheolwr cynllun wneud penderfyniad yn y mater ar sail pa bynnag dystiolaeth feddygol arall a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, neu heb dystiolaeth feddygol.

(8O fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r person dan sylw; a

(b)yn achos penderfyniad ar fater sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o natur feddygol, oni bai bod paragraff (7) yn gymwys, cyflenwi’r person hwnnw â chopi o’r farn a gafwyd o dan baragraff (2).

Adolygu barn feddygol

163.—(1Pan fo—

(a)tystiolaeth newydd ar fater sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o natur feddygol yn cael ei chyflwyno i’r rheolwr cynllun gan aelod (P), y gwnaed penderfyniad mewn cysylltiad ag ef o dan y Rheoliadau hyn;

(b)y rheolwr cynllun yn cael y dystiolaeth honno—

(i)os cyflenwyd copi o farn yn unol â rheoliad 162(8) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun), o fewn 28 diwrnod wedi i P gael y copi hwnnw, a

(ii)mewn unrhyw achos arall, o fewn 28 diwrnod wedi i P gael hysbysiad o benderfyniad y rheolwr cynllun; ac

(c)y rheolwr cynllun a P yn cytuno bod rhaid rhoi cyfle i’r YMCA adolygu’r farn honno yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd,

rhaid i’r rheolwr cynllun anfon copi o’r dystiolaeth newydd at yr YMCA a gwahodd yr YMCA i ailystyried y farn honno.

(2Rhaid i’r ymateb gan YMCA i wahoddiad o dan baragraff (1) fod mewn ysgrifen.

(3Mae’r ymateb gan YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo’r rheolwr cynllun oni ddisodlir yr ymateb hwnnw gan ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol).

(4Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael ymateb o dan baragraff (2), rhaid i’r rheolwr cynllun ailystyried ei benderfyniad.

(5O fewn 14 diwrnod ar ôl yr ailystyriaeth honno, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i P ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi ei ddiwygio (yn ôl fel y digwydd);

(b)os yw’r rheolwr cynllun wedi diwygio ei benderfyniad, cyflenwi P â hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad diwygiedig; ac

(c)cyflenwi P â chopi o’r ymateb o dan baragraff (2).

PENNOD 2Apelau i’r Bwrdd Canolwyr Meddygol

Apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol

164.—(1Caiff aelod (P) sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad rheolwr cynllun ar fater o natur feddygol apelio felly i fwrdd o ganolwyr meddygol yn unol â darpariaethau rheoliadau 165 (hysbysiad o apêl) i 172 (hysbysiadau etc).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo penderfyniad—

(a)wedi ei wneud mewn cysylltiad â barn a gafwyd o dan reoliad 162(2) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun) neu dystiolaeth feddygol y dibynnwyd arni fel y crybwyllir yn rheoliad 162(7); neu

(b)yn cael ei ailystyried o dan reolid 163(4) (adolygu barn feddygol) mewn cysylltiad ag ymateb o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw,

rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud, cadarnhau neu ddiwygio’r penderfyniad (yn ôl fel y digwydd), anfon at P y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (4).

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflenwi dogfennau a gyflenwyd eisoes o dan reoliad 162(8) neu 163(5).

(4Y dogfennau yw—

(a)copi o’r farn, yr ymateb neu’r dystiolaeth, (yn ôl fel y digwydd);

(b)esboniad o’r weithdrefn ar gyfer apelau o dan y Bennod hon; ac

(c)datganiad bod rhaid i P, os yw P yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y rheolwr cynllun ar fater meddygol ei natur, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n datgan enw a chyfeiriad P a sail yr apêl, ddim hwyrach nag 28 diwrnod wedi i P gael yr olaf o’r dogfennau y mae’n ofynnol eu cyflenwi o dan y paragraff hwn, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.

Hysbysiad o apêl

165.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o apêl yn erbyn penderfyniad ar fater meddygol ei natur, gan ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd (P); a

(b)sail yr apêl,

i’r rheolwr cynllun o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad pan fo P yn cael y dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliad 164(4) (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol); ac os yw P yn cael y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, rhaid eu trin at y diben hwn fel pe bai P wedi eu cael ar y diweddaraf neu’r diweddarach o’r dyddiadau hynny.

(2Os—

(a)na roddwyd hysbysiad o apêl o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1); ond

(b)ym marn y rheolwr cynllun, nad oherwydd bod bai ar P ei hunan y methwyd â rhoi’r hysbysiad o fewn y cyfnod hwnnw,

caiff y rheolwr cynllun estyn y cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad, am ba bynnag gyfnod, o ddim hwy na chwe mis o’r dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (1), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

Cyfeirio apêl i’r bwrdd

166.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun, pan gaiff hysbysiad o apêl, gyflenwi Gweinidogion Cymru â thri chopi o’r canlynol—

(a)yr hysbysiad o apêl;

(b)yr hysbysiad o’r penderfyniad perthnasol;

(c)y farn, ymateb neu dystiolaeth (yn ôl fel y digwydd) a gyflenwyd i’r apelydd (P); a

(d)pob dogfen arall ym meddiant neu dan reolaeth y rheolwr cynllun, sy’n ymddangos i’r rheolwr cynllun yn berthnasol i’r mater sy’n destun yr apêl.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio apêl i fwrdd o ganolwyr meddygol (“y bwrdd”).

(3Rhaid i’r bwrdd gynnwys dim llai na thri ymarferydd meddygol a benodir gan, neu’n unol â threfniadau a wnaed gan, Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i un aelod o’r bwrdd fod yn arbenigwr mewn cyflwr meddygol sy’n berthnasol i’r apêl.

(5Rhaid penodi un aelod o’r bwrdd yn gadeirydd.

(6Pan fo pleidlais ymhlith aelodau’r bwrdd yn rhannu’n gyfartal, rhaid rhoi ail bleidlais neu bleidlais fwrw i’r cadeirydd.

(7Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfeirio apêl i’r bwrdd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi gweinyddwr y bwrdd â thri chopi o bob dogfen a gyflenwyd o dan baragraff (1).

(8Rhaid i’r bwrdd drefnu bod un o’i nifer (‘yr aelod-adolygydd’) yn adolygu’r dogfennau hynny.

(9Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau ei adolygiad, rhaid i’r aelod-adolygydd roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’r canlynol—

(a)unrhyw wybodaeth arall y byddai’n ddymunol ei darparu, ym marn yr aelod-adolygydd, er mwyn i’r bwrdd gael gwybodaeth ddigonol at y diben o’i alluogi i benderfynu’r apêl; a

(b)os yw hynny’n wir, bod yr aelod-adolygydd o’r farn y caiff y bwrdd ystyried yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail.

(10Ar ôl cael hysbysiad yr aelod-adolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)os yw’r aelod-adolygydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru y byddai’n ddymunol cael gwybodaeth bellach, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrechu ei orau i gael yr wybodaeth honno; a

(b)os yw’r hysbysiad yn cynnwys barn o’r math a ddisgrifir ac a grybwyllir ym mharagraff (9)(b), anfon copi ohono at y rheolwr cynllun.

(11Rhaid i reolwr cynllun sy’n cael copi o farn aelod-adolygydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)anfon copi o’r farn honno at P; a

(b)drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i P—

(i)hysbysu P y gallai fod yn ofynnol bod P yn talu costau’r rheolwr cynllun, pe bai apêl P yn aflwyddiannus, a

(ii)ei gwneud yn ofynnol bod P yn rhoi gwybod i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad, pa un ai yw P yn bwriadu mynd ymlaen â’r apêl neu ei thynnu’n ôl.

(12Rhaid i reolwr cynllun sy’n hysbysu P o dan baragraff (11)(b) roi gwybod i Weinidogion Cymru ynghylch ymateb P i’r hysbysiad o dan is-baragraff 11(b); a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r bwrdd yn unol â hynny.

Y weithdrefn pan wneir apêl

167.—(1Os eir ymlaen i wneud apêl, rhaid i’r bwrdd sicrhau bod yr apelydd (P) a’r rheolwr cynllun (“y partïon”) wedi—

(a)eu hysbysu bod yr apêl i gael ei phenderfynu gan y bwrdd; a

(b)eu hysbysu o gyfeiriad lle y gellir anfon cyfathrebiadau ynglŷn â’r apêl, ar gyfer eu cyflwyno i’r bwrdd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5)—

(a)rhaid i’r bwrdd gyfweld ac archwilio P yn feddygol unwaith o leiaf; a

(b)caiff y bwrdd gyfweld neu archwilio P yn feddygol neu beri bod P yn cael ei gyfweld neu ei archwilio’n feddygol ar ba bynnag achlysuron pellach a ystyrir yn angenrheidiol gan y bwrdd at y diben o benderfynu’r apêl.

(3Rhaid i’r bwrdd bennu amser a lleoliad, a rhoi i’r partïon ddim llai na dau fis o rybudd o’r amser a’r lleoliad, ar gyfer pob cyfweliad ac archwiliad meddygol; ac os bodlonir y bwrdd nad yw P yn gallu teithio, rhaid i’r lleoliad fod ym man preswylio P.

(4Rhaid i P fod yn bresennol ar yr amser ac yn y lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw gyfweliad ac archwiliad meddygol gan y bwrdd, neu gan unrhyw aelod o’r bwrdd, neu unrhyw berson a benodir gan y bwrdd at y diben hwnnw.

(5Os—

(a)yw P yn methu â chydymffurfio â pharagraff (4); a

(b)na fodlonir y bwrdd fod rheswm rhesymol am y methiant hwnnw,

caiff y bwrdd hepgor y cyfweliad a’r archwiliad meddygol, a chaiff benderfynu’r apêl ar sail pa bynnag wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.

(6Mewn unrhyw gyfweliad o dan y rheoliad hwn, caiff personau fod yn bresennol a benodwyd at y diben gan y rheolwr cynllun neu gan P neu gan y ddau ohonynt.

(7Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu ddatganiad ysgrifenedig mewn cyfweliad a gynhelir o dan baragraff (2), rhaid i’r parti, yn ddarostyngedig i baragraff (8), gyflwyno’r dystiolaeth neu’r datganiad i’r bwrdd ac i’r parti arall ddim llai nag 28 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad.

(8Os cyflwynir unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff (7) llai nag 28 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad, caniateir cyflwyno unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig yn ymateb gan y parti arall i’r bwrdd ac i’r parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu’r datganiad a grybwyllwyd gyntaf, ar unrhyw adeg hyd at, a chan gynnwys, y dyddiad hwnnw.

(9Os cyflwynir unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig yn groes i baragraff (7), caiff y bwrdd ohirio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad, a gwneud yn ofynnol bod y parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu’r datganiad yn talu pa bynnag gostau rhesymol a dynnir gan y bwrdd, a chan y parti arall, o ganlyniad i’r gohirio.

Adroddiad y bwrdd

168.—(1Rhaid i’r bwrdd gyflenwi Gweinidogion Cymru â’r canlynol—

(a)adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad ar y materion meddygol perthnasol; a

(b)os yw’r bwrdd o’r farn bod yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail, datganiad i’r perwyl hwnnw (a gaiff ffurfio rhan o’r adroddiad).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi’r partïon â chopi o’r adroddiad ac o unrhyw adroddiad ar wahân o dan baragraff (1)(b).

Ailystyried gan y bwrdd

169.—(1Pan fo—

(a)y partïon wedi cael copi o’r adroddiad a gyflenwyd o dan reoliad 168 (adroddiad y bwrdd), a

(b)y partïon yn cytuno bod y bwrdd wedi gwneud camgymeriad ffeithiol sy’n cael effaith berthnasol ar benderfyniad y bwrdd,

(c)rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael yr adroddiad, gyflenwi Gweinidogion Cymru â dau gopi o ddatganiad a gytunir rhwng y partïon.

(2Rhaid i’r datganiad a gytunir nodi—

(i)y camgymeriad ffeithiol,

(ii)y ffaith gywir, a

  • gwahodd y bwrdd i ailystyried ei benderfyniad.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y datganiad, gyflenwi’r bwrdd â chopi ohono.

(4Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y datganiad, rhaid i’r bwrdd ailystyried ei benderfyniad.

(5O fewn 14 diwrnod ar ôl yr ailystyriaeth honno, rhaid i’r bwrdd—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi diwygio ei benderfyniad, (yn ôl fel y digwydd); a

(b)os yw’r bwrdd wedi diwygio ei benderfyniad, gyflenwi Gweinidogion Cymru ag adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad diwygiedig.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi’r partïon â chopi o’r hysbysiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau penderfyniad y bwrdd, neu gopi o’r adroddiad ysgrifenedig o benderfyniad diwygiedig y bwrdd (yn ôl fel y digwydd).

Ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd

170.—(1Rhaid talu i’r bwrdd ac i’r aelod-adolygydd—

(a)y cyfryw ffioedd a lwfansau (gan gynnwys y rhai sy’n daladwy i’r aelod-adolygydd am waith a wnaed yn adolygu dogfennau o dan reoliad 166(8) (cyfeirio apêl i’r bwrdd)) a benderfynir yn unol â threfniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru; neu

(b)os na wnaed trefniadau o’r fath, y cyfryw ffioedd a lwfansau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o bryd i’w gilydd.

(2Rhaid i’r ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy o dan baragraff(1)—

(a)cael eu talu gan y rheolwr cynllun; a

(b)cael eu trin at ddibenion rheoliad 171 (treuliau pob un o’r partïon) fel rhan o dreuliau’r rheolwr cynllun.

Treuliau pob un o’r partïon

171.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 167(9) (y weithdrefn pan wneir apêl) a pharagraffau (2) i (5) isod, rhaid i bob parti unigol i’r apêl ysgwyddo ei dreuliau ei hunan.

(2Pan fo’r bwrdd—

(a)yn penderfynu apêl o blaid y rheolwr cynllun; a

(b)yn datgan bod yr apêl, ym marn y bwrdd, yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail,

caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod yr apelydd (P) yn talu i’r rheolwr cynllun y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd a’r aelod-adolygydd o dan reoliad 170(1) (ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

(3Pan fo—

(a)P yn rhoi hysbysiad i’r bwrdd—

(i)yn tynnu’r apêl yn ôl, neu

(ii)yn gofyn am ddiddymu, gohirio neu oedi’r dyddiad a bennwyd ar gyfer cyfweliad neu archwiliad meddygol o dan reoliad 167(3), a

rhoddir yr hysbysiad llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 167(3); neu

(b)gweithredoedd neu anweithiau P yn peri i’r bwrdd ddiddymu, gohirio neu oedi rywfodd arall y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 167(3), llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad penodedig,

caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P yn talu i’r rheolwr cynllun y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd o dan reoliad 170(1) (ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

(4Pan—

(a)yw’r bwrdd yn penderfynu apêl o blaid P; a

(b)nad yw’r bwrdd yn cyfarwyddo’n wahanol,

rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu i P y swm a bennir ym mharagraff (5).

(5Y swm yw cyfanswm y canlynol—

(a)unrhyw dreuliau personol a dynnwyd mewn gwirionedd ac yn rhesymol gan P mewn cysylltiad ag unrhyw gyfweliad o dan reoliad 167(2); a

(b)os oedd ymarferydd meddygol cymwysedig a benodwyd gan P yn bresennol mewn unrhyw gyfweliad o’r fath, unrhyw ffioedd a threuliau a dalwyd yn rhesymol gan P mewn cysylltiad â phresenoldeb o’r fath.

(6At ddibenion paragraffau (2) a (4) rhaid i unrhyw gwestiwn sy’n codi ynglŷn ag a yw penderfyniad y bwrdd o blaid y rheolwr cynllun neu P gael ei benderfynu gan y bwrdd neu, yn niffyg hynny, gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau etc.

172.  Oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid trin unrhyw hysbysiad, gwybodaeth neu ddogfen y mae hawl gan apelydd (P) i’w gael neu i’w chael at unrhyw ddiben yn rheoliadau 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol) i 171 (treuliau pob un o’r partïon), fel pe bai P wedi cael y cyfryw eitem os postiwyd hi mewn llythyr a oedd wedi ei gyfeirio at P ym man preswylio hysbys olaf P.

PENNOD 3Apelau ar faterion eraill

Apelau ar faterion eraill

173.  Os—

(a)yw aelod (P) yn anghytuno â phenderfyniad rheolwr cynllun o dan reoliad 161 (penderfyniadau gan y rheolwr cynllun); a

(b)nad yw’r anghytundeb yn ymwneud â mater o natur feddygol,

caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y penderfyniad, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd ganddo yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995(1) (gofyniad bod trefniadau i ddatrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008(2).

(1)

1995 p. 26. Amnewidiwyd adran 50 yn rhinwedd adran 273 o Ddeddf Pensiynau 2004 ( p. 35).

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources